Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 16 Chwefror 2022.
Rwy'n siarad heddiw i gefnogi achub yr hen ysgol i ferched y Bont-faen rhag cael ei dymchwel, ac i siarad ar ran pawb sydd am weld yr adeilad hwn yn cael ei adfer. Mae'r mater yn un cymhleth gan fod adeilad yr ysgol yn eiddo i berchennog sydd am ei werthu a rhyddhau ei werth, sy'n golygu ei ddymchwel mae'n debyg, cymuned leol sydd am ei gadw, a Cadw, sy'n gwrthod rhoi unrhyw statws gwarchodedig iddo.
Fel y clywsom, yr ysgol oedd yr ysgol uwchradd gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru a Lloegr, ac fel y cyfryw, credaf fod iddi gryn dipyn o berthnasedd hanesyddol. Hefyd, mae'r gymuned leol yn gweld ei gwerth fel adeilad treftadaeth, gyda phensaernïaeth sydd wedi ennyn llawer o barch ac arwyddocâd lleol. Ac yn hyn o beth, gallaf weld yn glir pam y mae'r ddeiseb wedi ysgogi ymateb mor fawr yn lleol. Mae'r adeilad hefyd yn gartref i'r cyfleuster labordy cyntaf erioed yn y DU ar gyfer addysgu sgiliau gwyddoniaeth ymarferol i ferched. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud achub yr adeilad hwn hyd yn oed yn bwysicach, oherwydd mae'n adlewyrchu trobwynt yn ein gwlad pan ddechreuwyd cydnabod cydraddoldeb, gwerth a photensial menywod mewn gwyddoniaeth—egwyddorion sydd bellach yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar 11 Chwefror. Yn anffodus, cymhlethir y mater gan y ffaith bod Cadw yn gwrthod rhoi statws rhestredig, yn bennaf am fod yr adeilad gwreiddiol wedi'i newid, yn helaeth yn eu barn hwy, ac oherwydd bod sawl enghraifft arall well o ysgol uwchradd a adeiladwyd yn y cyfnod hwn eisoes wedi'u rhestru. I bawb sy'n gysylltiedig â'r mater, mae angen penderfyniad, neu fel arall bydd yr adeilad yn dadfeilio ymhellach, caiff mwy o arian ei ddefnyddio i gynnal yr eiddo a gallai'r adeiladwaith ddirywio nes ei fod yn anniogel, sy'n golygu y collir ei botensial presennol i gael ei addasu at ddibenion gwahanol a'i adfywio.
Clywn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 awydd Llywodraeth Cymru i weld cymunedau mwy cydlynol ac iddynt gael mwy o lais yn yr hyn sy'n effeithio arnynt. Credaf yma fod gennym enghraifft o sut y mae'r system yn gwneud cam â'r gymuned hon. Os yw'r Llywodraeth am gael mwy o gydlyniant cymunedol, mae angen iddi annog cymunedau i gael mwy o lais dros yr adeiladau a'r mannau y maent yn eu gweld fel rhan o'u cymuned, a'u cefnogi pan fyddant yn codi llais i achub eu treftadaeth leol.
Roedd dros 5,500 o lofnodion ar y ddeiseb, sy'n cyfleu cryfder y teimlad lleol ynghylch yr adeilad hwn. Mae cyfle i'r Gweinidog weithredu'n bendant yma a galw'r cais am adolygiad i mewn, ac a dweud y gwir, os ydynt yn dewis peidio â gweithredu i achub yr adeilad hwn, mae'n dangos yn fwy na dim y dirmyg sydd ganddynt yn erbyn y gymuned sy'n ceisio gwneud safiad ac achub rhywbeth sy'n amlwg yn bwysig iddynt.
Yn fy marn i, Cadw sydd ar fai yn llwyr am y sefyllfa bresennol. Yn y pen draw, gallai diffyg pryder Cadw ynghylch cadwraeth yr adeilad hwn am ei fod yn methu ticio digon o flychau arwain at ddinistrio’r hen ysgol hon a'i cholli i genedlaethau'r dyfodol. Dylai Cadw fod yn fwy cydymdeimladol i roi statws gwarchodedig i adeiladau sydd ag arwyddocâd lleol, ac nid arwyddocâd cenedlaethol yn unig, oherwydd mae'n peri gofid i gymunedau weld pensaernïaeth, adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr, adeiladau y maent wedi tyfu i fyny gyda hwy ac adeiladau sy'n adlewyrchu eu hanes lleol yn cael eu dinistrio'n unig am mai dyna'r peth mwyaf proffidiol i'w wneud. Yn fy marn i, byddai dymchwel yr hen ysgol i ferched y Bont-faen yn dangos methiant llwyr y wlad hon i ddiogelu treftadaeth leol arwyddocaol a chyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw yn ymuno â mi i gefnogi'r ddeiseb hon. Diolch.