Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 16 Chwefror 2022.
Rwy'n falch iawn fod gennym, yn etholiad diwethaf y Senedd, nifer mawr o gynghorwyr a fu'n arweinwyr cynghorau, fel Sam Rowlands, dirprwy arweinwyr ac aelodau cabinet wedi eu hethol i'r Senedd—pobl sy'n gwybod yn uniongyrchol am bwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol a'r arian sydd ei angen i'w rhedeg. Nid wyf bob amser yn cytuno â hwy, ond rwy'n parchu eu gwybodaeth a'u profiad o lywodraeth leol. Rwy'n cytuno y dylem ddiolch i gynghorwyr ac awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am y rôl yn ystod y pandemig coronafeirws. Chwaraeodd cynghorwyr a chynghorau eu rhan yn rhyfeddol.
I drafod un mater unigol, mater digartrefedd, darparodd Llywodraeth Cymru gronfa o £10 miliwn a alluogodd awdurdodau lleol i gysylltu â phawb a oedd yn cysgu ar y stryd, a sicrhau bod ganddynt ffordd o gael llety diogel ac addas i gydymffurfio â chyfyngiadau'r pandemig. Ond yr awdurdodau lleol a'u staff a wnaeth y gwaith. O fewn pythefnos gyntaf y cyfyngiadau symud, roedd awdurdodau lleol wedi cartrefu neu ail-gartrefu dros 500 o aelwydydd a oedd naill ai wedi bod yn cysgu ar y stryd neu mewn llety a oedd yn anaddas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Cododd y ffigur hwn yn y pen draw i dros 1,000.
Ad-drefnodd awdurdodau lleol dimau ac adleoli staff i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol a hefyd, daethant o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid. Daeth system cell gydgysylltu ganolog ym mhob cyngor â phartneriaid megis iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yr heddlu a'r gwasanaeth prawf, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill at ei gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau ar y cyd—enghraifft o lywodraeth leol Cymru ar waith. Cawsom dân difrifol yn Abertawe sawl blwyddyn yn ôl, a'r awdurdod lleol oedd yr unig bobl a allai gymryd rheolaeth a sicrhau ei fod yn cael ei drin, tra bod pawb arall, gan gynnwys y gwasanaeth tân, yn ceisio dod o hyd i resymau pam nad oedd yn gyfrifoldeb iddynt hwy mewn gwirionedd, ac na ddylent orfod talu amdano. Camodd yr awdurdod lleol i mewn a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei drin. Mae hynny wedi digwydd mewn awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n siŵr y gallai cyd-Aelodau yma siarad am yr hyn a wnaed yn eu hawdurdodau lleol eu hunain.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau sylfaenol sydd eu hangen ar bobl. Nod y fformiwla ariannu, neu gyllid allanol cyfanredol, a elwid gynt yn grant cynnal ardrethi cyn i ardrethi busnes gael eu canoli, yw darparu adnoddau i gefnogi awdurdodau lleol yn ariannol uwchlaw incwm y dreth gyngor yn lleol. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol yn pennu faint o'r arian a ddarperir i Gymru a roddir i bob awdurdod lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys y grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig, ac fe'i dosberthir ar sail fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Rwy'n un o'r bobl sy'n credu y dylid dychwelyd ardrethi annomestig cenedlaethol i awdurdodau lleol. Rydym yn sôn yn aml am ddatganoli; mae datganoli'n golygu bod yn rhaid i rai pethau fynd i lawr o'r fan hon i awdurdodau lleol a lleoedd eraill. Ni ddylai datganoli ddod i ben yng Nghaerdydd a'r Senedd.
Gall awdurdodau lleol godi arian eu hunain yn lleol—nid y dreth gyngor yn unig, ond, yn dibynnu ar ble'r ydych chi, pethau fel parcio ceir, ffioedd a thaliadau. Ond os edrychwch arno, mae dosbarthiad eiddo ym mhob band yn amrywio'n fawr. Mae nifer yr eiddo ym mhob band treth gyngor yn amrywio. Mae gan rai, fel Blaenau Gwent, dros hanner eu heiddo ym mand A, ac ychydig iawn o eiddo sydd yn y ddau fand uchaf. Mewn cymhariaeth, dim ond ychydig dros 1 y cant o'i heiddo sydd gan sir Fynwy ym mand A ac mae 6 y cant o'i heiddo yn y ddau fand uchaf. Mae gan sir Fynwy, gyda mwy o eiddo uchel ei werth, fwy o allu i godi arian drwy drethiant lleol.
I ddychwelyd at yr hyn yw cyllid Llywodraeth Cymru i fod, mae'n golygu, os ydym yn bwriadu bod yn deg, y dylai cynghorau fel Mynwy gael llai y pen na chynghorau fel Blaenau Gwent gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dau beth: dychwelyd ardrethi busnes i gynghorau lleol, rhywbeth a fyddai'n cael effaith enfawr, a system decach o dreth gyngor gyda bandiau ychwanegol neu, yn well na hynny, treth gyngor yn seiliedig ar werth absoliwt yr eiddo. Gallwch fynd ag eiddo ychydig bach dros fand, ac yn sydyn iawn, mae pobl yn talu llawer mwy. Ond fe wyddom hefyd, os ydych ym mand A, eich bod yn talu tua hanner—dwy ran o dair, mae'n ddrwg gennyf—o fand D, ond os ydych ym mand G neu H, rydych yn talu tua dwywaith cymaint? Felly, nid yw'n seiliedig ar werth yr eiddo, fel y cyfryw, ac mae'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ag eiddo gwerth is.
Mae'r dreth gyngor yn atchweliadol, ond nid oes rhaid iddi fod. Gall fod yn seiliedig ar werth absoliwt eiddo, ac mae gennym sefyllfa hefyd—rhywbeth y mae angen inni feddwl amdano—sef sut y gallwn sicrhau bod pawb yn cael yr un lefel o wasanaeth? Nawr, dywedwyd bod gan Flaenau Gwent lawer mwy o eiddo band D ar gyfer y dreth gyngor, ac mae gan sir Fynwy lawer llai, ond mae hynny oherwydd y dosbarthiad. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely ym Mlaenau Gwent, rydych chi'n lwcus i fod ym mand A. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely yn rhywle fel Cas-gwent, mae'n debyg eich bod ym mand D. Felly, mae'r gwahaniaeth hwnnw yno hefyd. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod y dreth gyngor yn deg, mae angen ei newid, ac mae angen sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael yr hyn y mae'n ei haeddu.