– Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7923 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.
2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig a gyflwynwyd heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ynghylch ariannu llywodraeth leol. Unwaith eto, rwy'n datgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.
Fel y mae dechrau'r cynnig hwn yn ei nodi, ac fel y soniais dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn parhau i'w godi, drwy gydol y pandemig COVID-19 aeth y cynghorau y tu hwnt i'r galw. Mae llawer ohonom yn gwybod am aberth, gwaith caled ac ymroddiad staff y cynghorau ac maent yn haeddu cael eu canmol am eu gwaith caled, o'n gweithwyr gofal cymdeithasol i'n cynorthwywyr addysgu, o lyfrgellwyr i griwiau ailgylchu, mae pob un ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'r galw. Yng ngoleuni hyn, roeddwn yn falch o weld na wnaeth y Llywodraeth ddileu pwynt 1 ein cynnig yma heddiw, sy'n diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod y pandemig. Mae'n wych gweld y gallwn ni fel Senedd gytuno ar hyn. Serch hynny, Lywydd dros dro, mae'n hanfodol bwysig cydnabod bod cynghorau wedi bod yn gwneud gwaith eithriadol ymhell cyn y pandemig a byddant yn parhau i wneud hynny wedyn. Fel y bydd llawer o bobl yn cytuno, y cynghorau yn aml sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli anghenion pobl leol, wrth gwrs.
Cyflwynwyd datganoli, mewn gwirionedd, i ddod â phwerau mor agos â phosibl at y bobl, a dyna y gallai ac y dylai cynghorau ei wneud. Ond er mwyn i gynghorau wneud y mwyaf o'u potensial, maent angen i gyllid addas fod ar gael i wneud hyn, ac fel y dywed pwynt 2 o'n cynnig, rhaid i gynghorau gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y maent yn anelu atynt. Maent angen cyllid digonol i'w galluogi i wneud y mwyaf o'u potensial, ac mae'r Llywodraeth yn cytuno â hynny heddiw. Fodd bynnag, yn rhwystredig, ac fel yr amlinellir ym mhwynt 3 ein cynnig yma, nid yw'r fformiwla bresennol ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn addas i'r diben. Byddaf yn trafod pam yn benodol y credaf fod hynny'n wir mewn munud, yn hytrach na gwneud sylwadau bachog yn unig.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol y cyfrannu oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar eu gwasanaethau a'u darparu, sy'n golygu bod yr arian hwn yn pennu'r rhan fwyaf o'r hyn y gall cynghorau ei gyflawni. Fel yr amlinellwyd yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw, ac fel rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau ar feinciau Llafur yma am ei nodi, rwy'n derbyn y bydd y setliad arfaethedig i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn codi 9.4 y cant. Mae hyn i'w groesawu wrth gwrs. Serch hynny, daw ar ôl blynyddoedd maith o danariannu ac nid yw'n mynd i'r afael o hyd â'r ffaith bod y fformiwla ariannu bresennol wedi dyddio ac nad yw'n addas i'r diben.
Gwyddom hefyd fod cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol wedi gostwng tua 17 y cant mewn termau real drwy'r degawd diwethaf, ac mae'n amlwg bod y degawd o ddirywiad wedi cael effaith enfawr ar wasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae tanariannu cynghorau'n gyson dros flynyddoedd lawer wedi gadael llawer ohonynt mewn sefyllfa wan i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Gwelir hyn yn arbennig gyda chynghorau yn y gogledd—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sydd â phoblogaeth hŷn ac ardaloedd gwledig—sydd, i bob golwg, ar eu colled o'r fformiwla ariannu.
Dywedais y byddwn yn siarad am rai pethau manwl. Rwyf am dynnu sylw at dri mater sydd, yn fy marn i, yn cyfiawnhau'r alwad am adolygiad. Y cyntaf yw ansawdd y data a ddefnyddir i ddangos faint o arian y dylid ei roi i gefnogi cynghorau. Ceir rhywbeth a elwir yn asesiad gwariant safonol, rhywbeth rwy'n siŵr ein bod i gyd yn mwynhau ei ddarllen o bryd i'w gilydd, ac mae'r data yn yr asesiad gwariant safonol yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer ariannu cynghorau. Ond yn anffodus, mae nifer o'r pwyntiau data yma dros 20 oed, ac rwyf am dynnu sylw at un neu ddau o'r rheini sy'n bwydo i'r drefn hon o ariannu awdurdodau lleol. Mae'r un cyntaf yma yn defnyddio data o 2001, ac mae'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol. Yn gyntaf oll, data 20 oed sy'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol—nid oes yr un o'r plant hynny'n blant yn awr. Felly, mae'r fformiwla ariannu honno'n gwbl wallgof. Mae'r nesaf, pensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn cartrefi, unwaith eto'n defnyddio data o 2001. Unwaith eto, mae pensiynwyr sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn defnyddio data o 2001. Mewn byd sy'n cael ei yrru gan ddata, gyda chymaint ar gael i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, mae'n gwbl amhriodol defnyddio gwybodaeth sydd dros 20 oed. Ceir manylion eraill yma ers 1991. Nid wyf yn siŵr os oedd pob un o'r Aelodau wedi'u geni pan ddefnyddiwyd rhai o'r pwyntiau data hynny.
Yn ail, nid yw'r fformiwla ariannol bresennol yn adlewyrchu ein poblogaeth sy'n heneiddio yn briodol a'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod ein pobl hŷn yn gallu byw eu bywydau gorau. Enghraifft amlwg o hyn, o edrych ar y fformiwla ariannu, yw ei bod yn rhagdybio bod y gost i gynghorau sy'n cefnogi rhai dros 85 oed oddeutu £1,500 y pen, a allai ymddangos fel swm digonol. Yn y categori oedran nesaf, sef pobl rhwng 60 ac 84 oed, mae'r fformiwla'n rhagdybio y byddai'n costio £10.72 i ariannu a chefnogi'r bobl hynny. Felly, yn sydyn, yn 85 oed, mae'n £1,500 y pen, ond am nifer o flynyddoedd cyn hynny, mae'n costio £10. Mae'n anghysondeb enfawr, ac yn camddeall yr hyn y mae'n ei gymryd i gefnogi ein poblogaeth sy'n heneiddio yn y ffordd orau. Ac wrth gwrs, mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn mynd i ddod yn rhan fwy a mwy sylweddol o'r boblogaeth y bydd angen inni eu cefnogi, a'u cefnogi'n dda, dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn 2038, bydd chwarter ein poblogaeth dros 65 oed ac ar hyn o bryd, mewn ardaloedd fel Conwy, mae 28 y cant o'r trigolion yno dros 65 oed, o'i gymharu â Chaerdydd, sydd â thua 14 y cant. Felly, gallwch weld bod yna feysydd lle nad yw'r fformiwla ariannu yn adlewyrchu'n briodol y cymorth sy'n ofynnol i gefnogi ein pobl hŷn. Mae'r ardaloedd hynny'n mynd i'w chael hi'n anodd gyda'r cyllid a ddaw gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â data, ac mae angen ei adolygu. Yr ail faes yw sut y caiff y cymorth i bobl hŷn ei ariannu'n briodol. A'r trydydd mater a welaf yw meithrin hyder yn y broses o ariannu. Gallwn weld o welliant 4 Llywodraeth Cymru heddiw nad yw'r Llywodraeth am gynnal adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol, ac eto yn y ddadl heddiw, rwy'n siŵr y byddwn yn clywed gan lawer ar feinciau'r Llywodraeth pa mor dda yw'r fformiwla ariannu. Ond hoffwn ofyn: os yw mor dda, ac os yw mor gywir, beth sydd o'i le ar gynnal adolygiad annibynnol? Beth am gynnal adolygiad annibynnol i ddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn? Beth sy'n peri pryder i chi ynglŷn â chael adolygiad annibynnol? Os yw mor dda, gadewch inni gynnal yr adolygiad a phrofi'r pwynt yr ydych am ei wneud, ei fod yn hollol iawn.
I gloi, Lywydd dros dro, mae cynghorau'n gwneud gwaith anghredadwy gyda'r cyllid a gânt. Pe bai pob cyngor yn cael arian teg a chywir, gallent ffynnu hyd yn oed yn well nag a wnânt heddiw. Gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a chael adolygiad annibynnol o ariannu cynghorau. Gadewch inni ryddhau'r potensial sydd gan gynghorau i'w gynnig wrth iddynt gefnogi eu cymunedau lleol. Wrth orffen, edrychaf ymlaen at wrando ar bob cyfraniad o bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol heddiw ar y mater pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.
Rwy'n cynnig.
Rwy'n falch iawn fod gennym, yn etholiad diwethaf y Senedd, nifer mawr o gynghorwyr a fu'n arweinwyr cynghorau, fel Sam Rowlands, dirprwy arweinwyr ac aelodau cabinet wedi eu hethol i'r Senedd—pobl sy'n gwybod yn uniongyrchol am bwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol a'r arian sydd ei angen i'w rhedeg. Nid wyf bob amser yn cytuno â hwy, ond rwy'n parchu eu gwybodaeth a'u profiad o lywodraeth leol. Rwy'n cytuno y dylem ddiolch i gynghorwyr ac awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am y rôl yn ystod y pandemig coronafeirws. Chwaraeodd cynghorwyr a chynghorau eu rhan yn rhyfeddol.
I drafod un mater unigol, mater digartrefedd, darparodd Llywodraeth Cymru gronfa o £10 miliwn a alluogodd awdurdodau lleol i gysylltu â phawb a oedd yn cysgu ar y stryd, a sicrhau bod ganddynt ffordd o gael llety diogel ac addas i gydymffurfio â chyfyngiadau'r pandemig. Ond yr awdurdodau lleol a'u staff a wnaeth y gwaith. O fewn pythefnos gyntaf y cyfyngiadau symud, roedd awdurdodau lleol wedi cartrefu neu ail-gartrefu dros 500 o aelwydydd a oedd naill ai wedi bod yn cysgu ar y stryd neu mewn llety a oedd yn anaddas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Cododd y ffigur hwn yn y pen draw i dros 1,000.
Ad-drefnodd awdurdodau lleol dimau ac adleoli staff i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol a hefyd, daethant o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid. Daeth system cell gydgysylltu ganolog ym mhob cyngor â phartneriaid megis iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yr heddlu a'r gwasanaeth prawf, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill at ei gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau ar y cyd—enghraifft o lywodraeth leol Cymru ar waith. Cawsom dân difrifol yn Abertawe sawl blwyddyn yn ôl, a'r awdurdod lleol oedd yr unig bobl a allai gymryd rheolaeth a sicrhau ei fod yn cael ei drin, tra bod pawb arall, gan gynnwys y gwasanaeth tân, yn ceisio dod o hyd i resymau pam nad oedd yn gyfrifoldeb iddynt hwy mewn gwirionedd, ac na ddylent orfod talu amdano. Camodd yr awdurdod lleol i mewn a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei drin. Mae hynny wedi digwydd mewn awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n siŵr y gallai cyd-Aelodau yma siarad am yr hyn a wnaed yn eu hawdurdodau lleol eu hunain.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau sylfaenol sydd eu hangen ar bobl. Nod y fformiwla ariannu, neu gyllid allanol cyfanredol, a elwid gynt yn grant cynnal ardrethi cyn i ardrethi busnes gael eu canoli, yw darparu adnoddau i gefnogi awdurdodau lleol yn ariannol uwchlaw incwm y dreth gyngor yn lleol. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol yn pennu faint o'r arian a ddarperir i Gymru a roddir i bob awdurdod lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys y grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig, ac fe'i dosberthir ar sail fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Rwy'n un o'r bobl sy'n credu y dylid dychwelyd ardrethi annomestig cenedlaethol i awdurdodau lleol. Rydym yn sôn yn aml am ddatganoli; mae datganoli'n golygu bod yn rhaid i rai pethau fynd i lawr o'r fan hon i awdurdodau lleol a lleoedd eraill. Ni ddylai datganoli ddod i ben yng Nghaerdydd a'r Senedd.
Gall awdurdodau lleol godi arian eu hunain yn lleol—nid y dreth gyngor yn unig, ond, yn dibynnu ar ble'r ydych chi, pethau fel parcio ceir, ffioedd a thaliadau. Ond os edrychwch arno, mae dosbarthiad eiddo ym mhob band yn amrywio'n fawr. Mae nifer yr eiddo ym mhob band treth gyngor yn amrywio. Mae gan rai, fel Blaenau Gwent, dros hanner eu heiddo ym mand A, ac ychydig iawn o eiddo sydd yn y ddau fand uchaf. Mewn cymhariaeth, dim ond ychydig dros 1 y cant o'i heiddo sydd gan sir Fynwy ym mand A ac mae 6 y cant o'i heiddo yn y ddau fand uchaf. Mae gan sir Fynwy, gyda mwy o eiddo uchel ei werth, fwy o allu i godi arian drwy drethiant lleol.
I ddychwelyd at yr hyn yw cyllid Llywodraeth Cymru i fod, mae'n golygu, os ydym yn bwriadu bod yn deg, y dylai cynghorau fel Mynwy gael llai y pen na chynghorau fel Blaenau Gwent gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dau beth: dychwelyd ardrethi busnes i gynghorau lleol, rhywbeth a fyddai'n cael effaith enfawr, a system decach o dreth gyngor gyda bandiau ychwanegol neu, yn well na hynny, treth gyngor yn seiliedig ar werth absoliwt yr eiddo. Gallwch fynd ag eiddo ychydig bach dros fand, ac yn sydyn iawn, mae pobl yn talu llawer mwy. Ond fe wyddom hefyd, os ydych ym mand A, eich bod yn talu tua hanner—dwy ran o dair, mae'n ddrwg gennyf—o fand D, ond os ydych ym mand G neu H, rydych yn talu tua dwywaith cymaint? Felly, nid yw'n seiliedig ar werth yr eiddo, fel y cyfryw, ac mae'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ag eiddo gwerth is.
Mae'r dreth gyngor yn atchweliadol, ond nid oes rhaid iddi fod. Gall fod yn seiliedig ar werth absoliwt eiddo, ac mae gennym sefyllfa hefyd—rhywbeth y mae angen inni feddwl amdano—sef sut y gallwn sicrhau bod pawb yn cael yr un lefel o wasanaeth? Nawr, dywedwyd bod gan Flaenau Gwent lawer mwy o eiddo band D ar gyfer y dreth gyngor, ac mae gan sir Fynwy lawer llai, ond mae hynny oherwydd y dosbarthiad. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely ym Mlaenau Gwent, rydych chi'n lwcus i fod ym mand A. Os ydych chi'n byw mewn tŷ pâr tair ystafell wely yn rhywle fel Cas-gwent, mae'n debyg eich bod ym mand D. Felly, mae'r gwahaniaeth hwnnw yno hefyd. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod y dreth gyngor yn deg, mae angen ei newid, ac mae angen sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael yr hyn y mae'n ei haeddu.
Yn gyntaf, a gaf fi ddatgan diddordeb fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy, am y tro, yn sicr? A Mike, a gaf fi ddiolch ichi am eich geiriau, ond hefyd hoffwn gydnabod eich profiad mewn llywodraeth leol, wrth eich bod yn gyn-arweinydd Abertawe. A diolch i chi am eich dealltwriaeth ddofn ac am siarad dros lywodraeth leol mor aml ag y gwnewch, ac y gwnaethoch ers blynyddoedd lawer.
Mae awdurdodau lleol yn rhan ganolog o'n cymunedau, yn helpu teuluoedd a chefnogi teuluoedd, ac yn darparu'r gwasanaeth cyhoeddus bywiog yr ydym i gyd yn gwybod amdano, ond mae'r pandemig newydd bwysleisio a thanlinellu pa mor bwysig ydynt. Ac am y cyfan y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud, rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt. Ond os ydym yn eu gwerthfawrogi—yn eu gwerthfawrogi go iawn—mae angen inni eu hariannu'n ddigonol, ond yn fwy felly, yn y ddadl hon, yn deg. A gwn o fy mhrofiad fy hun fel arweinydd cyngor ers sawl blwyddyn nad yw hyn wedi bod yn wir i lawer o gynghorau. Yn rhannol, deillia hyn o'r fformiwla ariannu, a nododd Sam yn glir iawn rai o'r diffygion sy'n perthyn iddi.
Nawr, lluniwyd y fformiwla bresennol—a bydd Mike yn gwybod yn well na mi—25 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, ar ôl y newid i 22 awdurdod unedol cyn datganoli, ac nid oedd yn broses soffistigedig bryd hynny, yn ôl yr hyn a ddeallwn. Yn wir, cafwyd llawer o gyfeiriadau ysgafn ei fod wedi'i roi at ei gilydd ar gefn pecyn sigaréts i ymdrin â'r sefyllfa ar y pryd. Yn amlwg, rwy'n amau mai felly y digwyddodd, ond fe wyddom nad yw bellach yn addas i'r diben. Tra bod y fformiwla'n cael ei chyfrifo ar sail anghenion a'i bod yn cynnwys pethau fel poblogaeth, lefel amddifadedd, nifer y disgyblion ysgol a hyd rhwydweithiau ffyrdd, ynghyd â llawer o ystadegau eraill 20 oed nad ydynt yn golygu rhyw lawer iawn bellach mewn gwirionedd, byddwn yn dadlau nad oes digon—neu'n sicr nid oes digon yn awr—o gydnabyddiaeth i natur wledig ardaloedd a theneurwydd poblogaeth, a chost uned darparu gwasanaethau mewn awdurdod gwledig mawr o'i gymharu ag un trefol.
Er enghraifft, rhaid bod cost uned rhedeg gwasanaeth sbwriel neu wasanaeth gofal cymdeithasol ym Mhowys yn llawer mwy nag y byddai, dyweder, yn Nhorfaen. Mae'r anghysondebau o fewn y fformiwla wedi arwain at ddosbarthu cyllid yn annheg, gan arwain at senario enillydd a chollwr. I ailadrodd y pwynt fod gwahaniaeth mawr rhwng y cynghorau sy'n cael y lefel uchaf a'r cynghorau sy'n cael y lefel isaf o gyllid—mae Mike eisoes wedi tynnu sylw at hyn a gwyddom y rhesymeg dros hynny—yn sir Fynwy, bydd tua £1,176 y pen yn cael ei ddyrannu y tro nesaf, a thua £1,881 ym Mlaenau Gwent. A gwyddom fod y gwahaniaethau hyn, fel y nododd Mike, yn cael eu gyrru gan lefelau bandio tai ym mhob awdurdod, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau fel sir Fynwy ddod o hyd i 40 y cant o'i gyllid gan dalwyr y dreth gyngor, a llai na hanner hynny, mae'n debyg, ym Mlaenau Gwent. Yn wir, pe bai sir Fynwy yn cael ein hariannu ar lefel Blaenau Gwent, byddai gennym £40 miliwn yn ychwanegol. Wel, gwyddom nad yw hynny'n mynd i ddigwydd oherwydd y gwahaniaeth enfawr yn y bandio. Ond mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le ar fformiwla sy'n cyfiawnhau newid mor enfawr.
Mae gwahaniaethau ariannu o'r fath hefyd yn cael effaith ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan rai cynghorau, lle y ceir bwlch syfrdanol unwaith eto rhwng yr enillwyr a'r collwyr, gyda'r bylchau'n lledu. Er enghraifft, roedd Conwy'n ei chael hi'n anodd cadw cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy o tua £14 miliwn ar ddechrau 2020, i lawr dros £4 miliwn ers y flwyddyn flaenorol. Cymharwch hyn â Chaerffili, gyda chronfa wrth gefn o £140 miliwn ar ddechrau 2020—cynnydd o £21 miliwn ar gyfer yr un cyfnod. Maent yn gynghorau o wahanol faint, ydynt, ond yn amlwg, mae rhywbeth o'i le ar fformiwla sy'n gweld cronfeydd wrth gefn yn lleihau mewn rhai awdurdodau tra bônt yn cynyddu'n sylweddol mewn awdurdodau eraill.
Felly, Lywydd dros dro, rhaid imi fod yn glir: nid wyf yn dadlau yma ynglŷn â'r swm. Rwyf wedi gweld y gwelliant, ac mae'n sôn am y swm—'Rydym yn rhoi mwy ichi.' Fe wyddom eich bod yn rhoi mwy inni, ond nid yw hyn yn ymwneud â'r swm. Nid yw o bwys os oedd yn llai o arian. Bydd y fformiwla'n gweithredu yn yr un ffordd. Felly, nid wyf yn dadlau am y swm. Rwy'n dadlau ynglŷn â sut y caiff y gacen ei thorri a'i rhannu.
Nawr, yr ateb parod gan Weinidogion—ac rwy'n tybio y byddwn yn ei glywed eto wedyn—ar adolygu'r fformiwla, yw eu bod yn hapus i gynnal adolygiad os bydd arweinwyr lleol yn gofyn am hynny. Nawr, wrth edrych yn gyflym ar lefelau ariannu a chronfeydd wrth gefn mewn gwahanol gynghorau, yn ogystal â deall lle mae'r dylanwad gwleidyddol—. Mae'n hawdd dod i'r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r arweinwyr allweddol hynny'n gofyn am adolygiad. Daw'r hen ddywediad am dwrci'n pleidleisio dros y Nadolig i'r meddwl. Ond y ffaith amdani yw bod angen newid. I rai cynghorau gwledig a chynghorau yng ngogledd Cymru, mae'r pwysau ariannol, er gwaethaf y setliad cadarnhaol eleni, yn mynd yn anghynaliadwy, ac mae cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn disgyn i lefelau isel iawn oherwydd y pwysau.
Lywydd dros dro, wrth drafod ariannu cynghorau, mae hefyd yn bwysig edrych ar rôl y dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, am ymgynghori ar adolygiad o'r dreth gyngor, gan ei bod yn cael ei hystyried yn atchweliadol ac wedi dyddio. Dyma safbwynt a gefnogir yn gyffredinol gan y rhan fwyaf ohonom. Ond am fod y fformiwla ariannu'n cael ei gyrru o'r sylfaen dreth gyngor a gynhyrchir gan bob cyngor, byddwn yn dadlau bod y ddwy—y dreth gyngor a'r fformiwla ariannu—
Mae eich amser ar ben yn awr. A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben yn awr?
O, mae'n ddrwg gennyf. Dim ond brawddeg neu ddwy sydd gennyf ar ôl.
Maent wedi'u cysylltu'n sylfaenol, yn gynhenid. Felly, llywodraeth leol—mae'n hanfodol bwysig iddo gael dyfodol cynaliadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ar frys. Os nad yw'n gallu, neu os nad yw'n cytuno i wneud hynny, dylent o leiaf agor ymgynghoriad ar y fformiwla ariannu, yn yr un modd ag y maent yn adolygu'r dreth gyngor. Diolch.
Cofiwch fod y bobl sy'n mynd dros yr amser yn mynd ag amser oddi wrth y lleill sydd am gyfrannu. Galwaf ar Carolyn Thomas yn awr.
Diolch, Lywydd dros dro. Rhaid imi ddatgan fy mod yn gynghorydd sir yn sir y Fflint. Felly, gwn fod gan awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru rôl hynod bwysig, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau rheng flaen, gan anelu at sicrhau cymunedau diogel, glân a chysylltiedig.
Rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel y maent yn dyheu i'w cael. Ar ôl bod yn gynghorydd sir a chymuned am y 14 mlynedd diwethaf, rwyf wedi byw drwy flynyddoedd poenus o gyni, polisi a gyflwynwyd gan George Osborne o'r Llywodraeth Dorïaidd, torri gwasanaethau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys cyllidebau cyhoeddus ac iechyd cynghorau mewn termau real, gan ddiogelu neoryddfrydiaeth a phreifateiddio cynyddol.
Fel cynghorwyr, bu'n rhaid inni ymdrin â thoriadau poenus o flwyddyn i flwyddyn—ailstrwythuro, ad-drefnu a lleihau nes i gyllid cynghorau gael ei dorri i'r asgwrn. Aeth sir y Fflint i lawr o chwe depo i un, a chofiaf Philip Hammond, a oedd ar y pryd yn cymryd yr awenau gan George Osborne, yn dweud bod yn rhaid inni dynhau ein gwregysau ychydig rhagor. Rwy'n cofio gweiddi ar y teledu, oherwydd nid oedd unman arall i dorri.
Bu'n rhaid inni edrych ar geisio codi incwm, gyda phenderfyniadau anodd megis codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd, cynyddu taliadau parcio ceir a gofyn i adrannau dorri 30 y cant arall, wrth i swyddi gwag gael eu cymryd fel arbedion cost. Gallwch weld y canlyniadau yn awr wrth edrych ar gyflwr y priffyrdd ledled y DU, cynghorau nad ydynt yn gallu ymateb yn gyflym i gwynion, yn cymryd mwy o amser gyda cheisiadau cynllunio, gylïau wedi blocio a llifogydd, goleuadau stryd yn cymryd ychydig yn hwy i'w hatgyweirio, ac yn awr, methu recriwtio i swyddi hanfodol.
Gallwn weld hefyd, yn rhan o'r agenda cyni, sut yr oedd y toriadau i nawdd cymdeithasol, yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol, yn effeithio ar bobl. Roedd cynghorau'n ceisio camu i mewn dro ar ôl tro i helpu'r rhai agored i niwed, yn union fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Wrth i wasanaethau cynghori a ariennir yn gyhoeddus gael eu lleihau neu eu torri, mae'n rhaid i hyd yn oed elusennau gael cyllid craidd.
Roeddwn am ddweud hynny oherwydd dyna'r man cychwyn y maent arno ar hyn o bryd. Ac mae'n aml yn codi bod angen mynd i'r afael â'r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Fe'i gwneuthum yma yn y Siambr bythefnos yn ôl, ac rwy'n ymwybodol fod y ddadl wedi troi mewn cylchoedd dros y blynyddoedd diwethaf, gydag arweinwyr cynghorau yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth Cymru yn dweud wedyn fod angen i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gytuno ar hynny ar y cyd, ac mae ganddynt oll safbwyntiau gwahanol. Fel y dywedwch, mae'n dibynnu pwy sydd â'r darn o'r gacen.
Ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, ac yn sir y Fflint, er gwaethaf y lleihad yn y gweithlu, mae'r cyngor yn dal i gyflogi 5,500 o bobl. Pobl leol yw'r rheini—athrawon, gweithwyr gofal cymdeithasol, glanhäwyr, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr gwastraff. Ac mewn sawl ardal, fel Ynys Môn, y cyngor yw'r cyflogwr mwyaf. Nid yn unig eu bod yn darparu gwasanaethau pwysig, maent hefyd yn cyflogi pobl leol sydd wedyn yn gwario eu harian yn yr economi leol ac yn anfon eu plant i ysgolion lleol.
Roedd eleni'n setliad da i gynghorau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ar gyfartaledd o 9.4 y cant o'i gymharu â setliad cynghorau Lloegr o 6.9 y cant, ond gall yr amrywiant y pen a fesul cyngor fod yn sylweddol iawn, gyda'r bwlch rhwng y cyngor sy'n cael fwyaf o arian a'r cyngor sy'n cael leiaf yn lledu o flwyddyn i flwyddyn. A chlywsom y dystiolaeth hon yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Gall yr effaith gronnol olygu bod y llinell sylfaen, i rai, yn parhau'n isel. Gall y gwahaniaeth rhwng awdurdodau cyfagos fod yn £650 y preswylydd a £50 miliwn neu fwy y flwyddyn. Felly, er enghraifft, gall grant cynnal a chadw priffyrdd o £20 miliwn drwy'r fformiwla olygu £1.2 miliwn i un awdurdod, a £850,000 i un arall. Ac os yw hyn yr un fath, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae un yn parhau i wneud yn dda tra bo'r llall yn cael trafferth. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr.
Credaf mai dyma'r amser i'w adolygu. Fel y gwn i, mae gan rai cynghorau gronfeydd wrth gefn mawr ac maent yn gallu gosod treth gyngor isel, ac wedi cadw adnoddau ac arbenigedd i dynnu arian grant i lawr, megis cyllid teithio llesol. Wyddoch chi, mae gennych chi swyddogion technegol—nid oes gan rai awdurdodau swyddogion technegol mwyach. Ac mae'n anodd iawn prynu'r gwasanaethau hynny o'r tu allan. Fe allwch eu prynu o'r tu allan, ond nid oes ganddynt yr wybodaeth leol i ymdrin â materion lleol, felly mae'n broblem wirioneddol. Ac mae hyn yn effeithio ar fy ardal i yng ngogledd Cymru, lle mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd yn gyffredinol.
Bythefnos yn ôl, pan godais yr angen fynd i'r afael â'r fformiwla ariannu yn y Siambr, gofynnais i'r Gweinidog a allai'r pwyllgor dosbarthu sydd islaw'r pwyllgor cyllid ymchwilio i'r fformiwla ariannu neu edrych ar gael cyllid gwaelodol. Credaf y byddai hynny'n help mawr hefyd, oherwydd rydym wedi cyrraedd y llinell sylfaen honno yn awr i rai awdurdodau sy'n ei chael hi mor anodd. Ac ymatebodd y Gweinidog i ddweud y byddai'n gofyn i'r pwyllgor cyllid ystyried hyn, ac roeddwn yn fodlon ar hynny. Felly, mae'r pwyllgor dosbarthu yn dod o dan y pwyllgor cyllid, ac—. Rwy'n hapus ynglŷn â hynny, a chredaf fod rhai arweinwyr yn aelodau o'r pwyllgor hwnnw hefyd.
Rwyf hefyd wedi gofyn am bapur i ddod i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Credaf fod angen edrych arno a'i ddadansoddi i weld a yw'n dal yn addas i'r diben. Os canfyddir ei fod yn deg ac yn gyfredol, yn ôl y fformiwla, mae hynny'n iawn, ond rwy'n credu bod angen ei adolygu. Diolch.
Hoffwn ddatgan buddiant, fel aelod presennol o Gyngor Sir Ddinbych dros ward wych De Orllewin Prestatyn. Felly, siaradwch ag unrhyw gyngor yng ngogledd Cymru, hyd yn oed Cyngor Sir y Fflint sy'n cael ei redeg gan Lafur, ac y mae Carolyn Thomas yn aelod ohono, a byddant yn dweud yr un peth wrthych—eu bod yn cael cam gan Fae Caerdydd. Yn hanesyddol, rydym ni yn y gogledd ar ein colled oherwydd bod y fformiwla ariannu yn blaenoriaethu Cymoedd de Cymru.
Er bod croeso mawr i'r ffaith bod sir Ddinbych i gael un o'r setliadau gyda'r cynnydd mwyaf eleni, nid yw'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol nac yn rhoi unrhyw sicrwydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae hon yn loteri flynyddol ac mae'n rhaid iddi ddod i ben, ac mae'n hen bryd inni gael fformiwla ariannu sy'n deg i bob rhan o Gymru. Yn anffodus, mae fy etholaeth yn gartref i ddwy o'r ardaloedd tlotaf yn y wlad, ac mae ganddi un o'r canrannau uchaf o bobl wedi ymddeol. Mae tua chwarter poblogaeth sir Ddinbych dros 65 oed, ac eto nid yw'r fformiwla ariannu bresennol yn adlewyrchu'r angen ychwanegol am wasanaethau i ddarparu ar gyfer y boblogaeth hon sy'n heneiddio. Mae cynghorau'n cael £1,500 ychwanegol am bob person dros 85 oed, ond fawr ddim am unrhyw un rhwng 65 ac 84 oed. Sut y mae cynghorau i fod i ddarparu gofal cymdeithasol digonol pan fyddant yn parhau i fod ar eu colled? I leoedd fel sir Ddinbych, nid yw'r rhagolygon yn wych.
Bydd newidiadau demograffig dros y degawdau nesaf yn rhoi straen pellach ar gyllid sydd eisoes mewn trafferthion. Mae gwasanaethau allweddol wedi'u torri i'r asgwrn neu wedi'u diddymu'n gyfan gwbl yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd setliadau gwael gan Lywodraeth Cymru, gan orfodi cynghorau i godi'r dreth gyngor—biliau treth gyngor na all y cyhoedd eu fforddio. Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa, gyda chwyddiant yn codi ym mhob cwr o'r byd, gan godi prisiau bwyd a thanwydd, a rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau cartrefi. Ac unwaith eto gofynnir i fy etholwyr dalu'r diffyg yng nghyllid llywodraeth leol. Bydd biliau'r dreth gyngor yn codi i'r entrychion unwaith eto eleni wrth i gynghorau sydd dan bwysau geisio mynd i'r afael â bylchau enfawr yn eu cyllid, gan ei chael hi'n anodd cadw gwasanaethau i redeg, a bydd yr ymagwedd gibddall hon gan Lywodraeth Cymru yn arwain at ganlyniadau dinistriol. Rydym eisoes yn gweld y straen y mae diffyg gofal cymdeithasol yn ei roi ar ein GIG. Faint o bobl a fydd yn marw am na all ein hawdurdodau lleol fforddio darparu digon o becynnau gofal? A dyna realiti'r sefyllfa hon. Cost gymdeithasol ariannu llywodraeth leol yn wael—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf yn wir.
Mae'n rhaid iddynt ddarparu gofal; mae'n ofyniad statudol. Os na wnânt hynny, maent yn torri'r gyfraith—dyfarniad Gloucester, fel y bydd Sam yn dweud wrthych.
Diolch am yr ymyriad, Mike. Felly, faint o bobl sydd bellach yn teimlo'n unig ac wedi eu hynysu oherwydd bod y ganolfan ddydd ar gau, neu am fod y llyfrgell leol newydd gau ei drws? Beth fydd yn digwydd i'r cymunedau y mae eu canolfannau cymunedol wedi cau a sut y bydd cynhwysiant digidol yn dioddef wrth i fwy a mwy o wasanaethau gael eu gorfodi ar-lein oherwydd mesurau arbed costau? Ein cynghorau sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae'r cyhoedd yn dibynnu arnynt, ac eto hwy sy'n wynebu'r dewisiadau anodd i dorri'n ôl neu drosglwyddo'r baich ariannu i'r cyhoedd sydd eisoes yn talu gormod. Mae arnom angen cyllid tecach i lywodraeth leol, cyllid sy'n deg i drethdalwyr ond ar yr un pryd yn caniatáu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heno. Diolch.
A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hyd yma. Dwi'n meddwl ei bod hi yn ddadl werthfawr, a dwi'n siŵr bod Mike yn teimlo bod Nadolig wedi dod yn gynnar. Mae e'n cael dadl ar gynrychiolaeth gyfrannol, dadl ar ariannu awdurdodau lleol; dim ond dadl ar glwb pêl-droed Abertawe sydd ei heisiau nawr, ac mi fyddwch chi'n byw'r freuddwyd. [Chwerthin.]
Ond, ar nodyn mwy difrifol, dwi eisiau ategu'r diolch mae pawb wedi ei roi i weithwyr cyngor a chynghorwyr eu hunain, wrth gwrs, am fynd y filltir ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf yma, ac a fydd yn parhau i wneud, wrth gwrs, fel rŷn ni'n gwybod, wrth inni geisio adfer gwasanaethau yn y cyfnod nesaf yma.
Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei gasglu drwy fod yn edrych ar y dreth gyngor, felly dwi yn meddwl ei bod hi yr un mor ddilys inni fod yn gofyn i edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei rannu. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae consern yn cael ei godi; mae rhai yn colli allan, rhai yn teimlo eu bod nhw'n cael eu tan-ariannu, ac rŷch chi'n edrych ar y ffigurau global a'r gynghrair ariannu, ac mae’r ffigwr y pen, wrth gwrs, yn dangos stori arall eto, onid yw hi, ynglŷn â pa mor drawiadol yw rhai o’r gwahaniaethau.
Ond dwi'n ddigon pragmataidd, dwi'n ddigon ymarferol, i ddeall y byddai unrhyw fformiwla yn cynhyrchu enillwyr a chollwyr. Fydd yna ddim un fformiwla yn plesio pawb. Ond dwi hefyd yn deall y ddadl, wrth gwrs, dim ots sut rŷch chi'n torri'r gacen, dyw'r gacen ddim yn ddigon mawr; fydd hi byth yn ddigon mawr, mae'n debyg. Ond gwneud yn siŵr ei bod hi'n cael ei thorri mor deg â sy'n bosib, dim ots beth yw ei maint hi, yw pwynt y ddadl yma, yntefe? Ac mae e yn deimlad cryf ymhlith y cynghorwyr a'r arweinyddion dwi wedi siarad â nhw fod y fformiwla wedi dyddio, a bod angen edrych eto. Ac efallai all pobl ddadlau bod y fformiwla yn dda, ond dyw hynny ddim i ddweud na all y fformiwla fod yn well.
Ac nid dim ond edrych ar y fformiwla chwaith ar ei phen ei hun, in isolation, os caf i ddweud; mae angen edrych ar y darlun ehangach o ariannu cynghorau, oherwydd y pwynt sy'n cael ei godi gyda fi gan gynghorwyr yw bod yna gyfrifoldebau newydd wedi cael eu cyfeirio at gynghorwyr sydd i fod i fod yn cost neutral, ond sydd ddim yn cost neutral mewn gwirionedd. Mae yna gostau ychwanegol yn disgyn arnyn nhw, a byddai hynny yn beth da i'w ystyried.
A beth am adroddiad Luke Sibieta ar wariant ysgolion, hefyd, a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn 2020? Mae hwnnw'n dangos bod gwahaniaethau sylweddol mewn gwariant fesul dysgwr ar draws ysgolion yng Nghymru, a hynny'n rhannol yn adlewyrchu’r gwahanol fformiwlâu ariannu sy'n cael eu defnyddio, fformiwlâu sy'n gallu bod yn gymhleth iawn, yn cynnwys nifer helaeth o ffactorau gwahanol, sy’n creu cymhlethdod, wrth gwrs. Ac mae'r awgrym yn yr adroddiad yna fod angen rhywbeth mwy cyson ar draws y gwahanol ardaloedd, rhywbeth fyddai hefyd yn cynyddu tryloywder ac yn lleihau gwahaniaethau ariannu ar draws yr ysgolion.
Felly, mi fyddai hi'n amserol, dwi'n meddwl, i edrych yn ehangach, ac, fel glywon ni ar gychwyn y ddadl yma, i ddefnyddio data mwy cyfoes. Rŷn ni ar fin gweld data'r cyfrifiad diweddaraf. Beth am ystyried efallai dod i bwynt lle mae yna ryw adolygiad yn digwydd bob 10 mlynedd? Bob tro mae yna ddata cyfrifiad newydd yn dod, bod yna broses yn cael ei rhedeg fel ein bod ni'n gallu bod yn hyderus dyw e ddim wedi dyddio a'i fod e'n dal i fod yn addas i bwrpas.
Mae yna ddadl hefyd ynglŷn â lle llawr ariannu, bod yna gyllid gwaelodol. Dwi'n gwybod efallai fod hynny'n gallu bod yn ddadleuol, ond dyma neu dyna fyddai'r cyfle i wyntyllu hynny go iawn. Ac efallai fyddai modd dadlau bod angen rhoi hynny'n ei le tra bod adolygiad yn cael ei gyflawni er mwyn ceisio lleihau'r siom neu'r baich a fydd ar rai o'r cynghorau sydd ddim yn cael cymaint ag a fydden nhw yn ei obeithio.
O ran gwelliant y Llywodraeth, wrth gwrs, mae pawb yn cydnabod bod y cynnydd o 9.4 y cant yn y setliad cyfan yn well na'r disgwyl, ond eto y pwynt ynglŷn â nid maint y gacen efallai yw'r drafodaeth heddiw, ond sut mae'r gacen yn cael ei rhannu. Ac rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, tra ei fod e'n edrych yn dda ym mlwyddyn 1 yn y cylchdro ariannol, mae blwyddyn 2 a 3 yn mynd i fod yn heriol iawn. Ac, wrth gwrs, pan fo'r esgid honno yn gwasgu, yna dyna pryd fydd y dadlau mwyaf ffyrnig ynglŷn â'r fformiwla yn digwydd. Felly, mae angen inni fod ar y blaen i hynny yn ceisio gwneud yn siŵr bod beth sydd gyda ni yn addas.
Felly, i gloi, mae'r Ceidwadwyr yn iawn—ac, eto, dŷn ni ddim yn dweud hynny'n aml. Mae hwn yn fformiwla ariannu sydd wedi dyddio. Dyw e ddim yn addas i bwrpas. Mi grëwyd e ar fympwy ddegawdau yn ôl gyda dim bwriad iddo fe bara mor hir â hyn. Ond ŷch chi'n gwybod beth? Gallwn ni ddweud hwnna am fformiwla Barnett hefyd, a dwi'n siŵr mai dyna fydd y ddad byddwch chi'n dod ger ein bron yr wythnos nesaf.
Mae'n swnllyd iawn acw. Galwaf yn awr ar y siaradwr olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd dros dro. Rhwng 2010-11 a 2019-20, gostyngodd cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol 17 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn ogystal, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi bod gostyngiad o 19 y cant yn niferoedd staff llywodraeth leol yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2010 a 2020. Mae'r ffigurau llwm a brawychus hyn yn rhoi cipolwg bach inni o'r diffyg cefnogaeth i awdurdodau lleol cyn y pandemig. Maent wedi bod ar flaen y gad yn ymateb i COVID-19 ac wedi ysgwyddo baich sylweddol drwy gydol y pandemig. Cafodd staff eu secondio i adrannau gwahanol ac fe wnaethant helpu i sefydlu rhwydweithiau cymorth a darparu bwyd i breswylwyr agored i niwed hyd yn oed. Yn sicr fe wnaeth hyn ymestyn hyd yr eithaf eu hadnoddau a'u gwasanaethau, a oedd eisoes wedi'u disbyddu.
Mewn ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth a gefais gan awdurdodau lleol, rwyf wedi cael cryn sioc o weld, rhwng 2018-19 a 2020-21, fod tua £10 miliwn neu gynnydd o 118 y cant yn y gwariant ar gartrefu unigolion mewn llety dros dro. A siaradwch ag unrhyw arweinydd awdurdod lleol neu aelod cabinet a byddant yn dweud wrthych fod y gyllideb digartrefedd yn straen difrifol iawn yn awr, ac mae'n rhywbeth nad yw'n llacio. Os edrychwch ar hyn mewn ffordd strategol, mae'r cynnydd hwn, heb os, yn deillio'n rhannol o fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i adeiladu'r tai newydd sydd eu hangen ar ein cymunedau. Ac fe'i gwnaed yn glir i mi gan o leiaf un aelod fod y gwariant wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy yn y flwyddyn ariannol hon.
Yn anffodus, nid dyma'r unig enghraifft o'r cynghorau'n cael eu gadael i ysgwyddo'r baich am fethiannau Llywodraeth Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i wneud iawn am ddiffygion cyllidebol drwy ddulliau eraill. Ym mis Hydref y llynedd, adroddodd y BBC fod dyled gyhoeddus cyngor dinas Caerdydd yn mynd i godi oddeutu 70 y cant, gyda'r rhagolwg y byddai'r cyngor yn benthyca dros £1.4 biliwn erbyn 2023-24. Mae'r sefyllfa hon wedi dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru yn cilio rhag rhoi'r holl gamau angenrheidiol ar waith i ariannu a chefnogi awdurdodau lleol. Yn hytrach, maent yn trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol, gan orfodi cynghorwyr lleol i dorri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, sy'n cael effaith andwyol ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn cynyddu trethi cyngor, yn mygu twf economaidd lleol ac yn ychwanegu pwysau ariannol ychwanegol ar drigolion sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw yng Nghymru. Yr adrannau rheoleiddio hynny sydd wedi gweld eu staff yn lleihau, a bellach mae gan ein hawdurdodau cynllunio ôl-groniadau o sawl cais cynllunio. Lywydd—Lywydd dros dro—ni ddylent orfod bod o dan y fath bwysau. Fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU yn ddiweddar, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i gynnydd o £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i gyllideb Llywodraeth Cymru ar ben y cyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn y flwyddyn, ac eto, Lywodraeth Cymru, rydych yn cwyno drwy'r amser am ddiffyg adnoddau.
Fel y dywedwyd yma heddiw, nid yw'r fformiwla ariannu bresennol yn addas i'r diben. Ac roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros lywodraeth leol am saith mlynedd yma, ac yn 2010 roeddem yn cael yr un dadleuon. Ac roedd y Gweinidog ar y pryd, gan bwyntio bys ataf i, yn dweud, 'Ond yr arweinwyr, dyna mae'r arweinwyr ei eisiau.' Wel, rwy'n dweud wrthych yn awr, mae gwir angen edrych arni, oherwydd wrth godi heno a gofyn yr un cwestiynau, mae'n debyg i déjà vu, ac mae gwir angen ichi fynd i'r afael â hyn yn awr a chael golwg ar y fformiwla ariannu. Cefais gyfarfod unwaith â gweision sifil yma, neu swyddogion y Llywodraeth yma, ac roeddent yn dweud, 'Janet, gallwn wneud newidiadau bach iddo, ond byddai'n amhosibl adolygu'r fformiwla ariannu.' Ond nid yw'n iawn yn awr, yn enwedig pan edrychwch ar fy etholaeth i yn Aberconwy. Mae gennyf bobl yn symud allan o'r sir i ardaloedd eraill lle nad oes ganddynt rwydwaith teulu na ffrindiau, am nad oes pecynnau gofal cymdeithasol ar gael yng Nghonwy. Nid bai'r awdurdod yw hynny, diffyg arian yw hynny.
Ni all fod yn iawn eich bod yn caniatáu i rai awdurdodau lleol gronni arian trethdalwyr, tra bod fy Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fy hun yn gorfod cynyddu'r dreth gyngor 3.9 y cant. Soniodd Peter Fox yn rhagorol am y cannoedd o filoedd y mae rhai awdurdodau lleol—awdurdodau Llafur yn bennaf—yn ne Cymru, sut y caniateir iddynt ddal eu gafael, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar £120,000, £130,000, a £1.3 miliwn mewn rhai achosion. Ni all fod yn iawn pan fydd ffigur Conwy—
A wnewch chi dynnu tua'r terfyn?
Ewcs, gwnaf yn wir [Chwerthin.] Fe wnaf. Diolch, Lywydd dros dro. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud yw: dewch, mae gennym draean o Aelodau newydd yn y Senedd yn awr, mae gennym dalent newydd, sydd wedi cael profiad mewn awdurdodau lleol. Os nad ydych am wrando arnaf i, gwrandewch arnynt hwy. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n croesawu rhan gyntaf y cynnig. Mae pob un ohonom wrth gwrs yn dymuno diolch i staff llywodraeth leol ac aelodau etholedig am y gwaith y maent wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae wedi bod yn gyfnod eithriadol ac mae ymateb llywodraeth leol wedi bod yn eithriadol. Edrychaf ymlaen at barhau'r berthynas waith gref iawn yr ydym wedi'i datblygu yn ystod yr amser mwyaf heriol, heb os, y gall neb ei gofio i lywodraeth leol. Fodd bynnag, nid yw'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol ar ben a rhaid inni yn awr wynebu heriau pellach gyda'n gilydd, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a'r argyfwng hinsawdd, a gwn fod ein hawdurdodau lleol yn benderfynol o ymateb i'r heriau hynny.
Rwyf hefyd yn croesawu ail ran y cynnig. Mae awdurdodau lleol sydd wedi eu hariannu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da i bawb ac sy'n cefnogi'r rhai sydd eu hangen yn ganolog yn ein cynllun ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Hyd yn hyn, drwy'r pandemig, rydym wedi cefnogi awdurdodau lleol â thros £860 miliwn drwy'r gronfa galedi i gydnabod costau ychwanegol, colli incwm a'r cynlluniau cymorth y maent yn eu gweinyddu ar ein rhan, ac mae cynghorau wedi cyflawni dros fusnesau bach, unigolion a chymunedau. Ac fel y clywsom, roeddwn yn falch o gyhoeddi, ar 16 Rhagfyr, y cynnydd o 9.4 y cant yng nghyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 dros y flwyddyn ariannol gyfredol. Ac mae hyn yn golygu bod £437 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i barhau i gynorthwyo llywodraeth leol i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Roeddwn wedi gobeithio cadw fy ymateb a fy sylwadau yn y ddadl hon yn gadarnhaol ac yn ddefnyddiol, ond bobol bach, rhaid imi wrthwynebu'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr yn cwyno am yr hyn y maent yn ceisio'i ddisgrifio fel degawd o danariannu ar ran Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ddegawd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n awgrymu'n barchus mai'r Ceidwadwyr yn y lle hwn a ddylai gallio ac mae'n hen bryd iddynt ddechrau ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am effeithiau dewisiadau eu plaid yn San Steffan.
Ond rwyf am symud ymlaen i ddweud bod y cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla sefydledig, wedi'i chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol a'i chytuno'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Ac mae'r fformiwla hon yn rhydd o agenda wleidyddol ac yn cael ei gyrru gan ddata, a chaiff y setliad ei ddosbarthu drwy fformiwla sy'n defnyddio dros 70 o ddangosyddion o angen i wario. Mae'n cael cefnogaeth gyfunol gan lywodraeth leol ac mae'n seiliedig yn briodol ar egwyddorion allweddol cydraddoli ar gyfer angen cymharol i wario a gallu cymharol i godi incwm yn lleol. Mae'r fformiwla wedi'i chreu a'i llywodraethu yn—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
A gaf fi wneud ymyriad byr yma? Diolch. Fe ddywedoch chi fod y fformiwla'n cael ei gyrru gan ddata. A fyddech yn derbyn, er hynny, fel y dywedais, fod rhai o'r pwyntiau data—cryn dipyn o'r pwyntiau data mewn gwirionedd—yn amlwg wedi dyddio cryn dipyn? Ac mewn gwirionedd, mae angen gwneud rhywfaint o waith o leiaf i sicrhau bod y data a ddefnyddiwch, ac y mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio, i ariannu cynghorau yn gywir ac mor gyfredol â phosibl.
Ac rwyf ar fin dod at yr union bwynt hwnnw. Mae'r fformiwla'n cael ei chreu a'i llywodraethu yn y fath fodd fel na ellir ei chamddefnyddio'n annheg gan unrhyw awdurdod neu grŵp o awdurdodau, neu gan wleidyddion, boed yn gynghorwyr a etholwyd yn lleol neu'n Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae galwadau wedi bod erioed am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla, ac chefais alwadau mor ddiweddar â'r wythnos ddiwethaf. Ond prin yw'r galwadau hyn ac nid ydynt yn unedig, ac rydym bob amser wedi cydnabod y risgiau a'r heriau y byddai adolygiad o'r fath yn eu hachosi. Ond nid yw hynny'n golygu bod y fformiwla yn sefydlog wrth gwrs.
A wnewch chi dderbyn ymyriad pellach, Weinidog?
Wrth gwrs.
A fyddech yn cytuno â mi—? Fe welwch o dystiolaeth y Pwyllgor Cyllid fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod llawer o gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn crebachu, ar adeg, er hynny, pan fo cronfeydd wrth gefn gwirioneddol CLlLC, ym mhot y teulu llywodraeth leol, wedi cynyddu £0.5 biliwn yn ystod y pandemig. Sut y gellir cyfiawnhau'r ffaith bod fformiwla yn caniatáu i'r gwahaniaethau enfawr hynny barhau? Oherwydd bydd hynny'n peri i rai awdurdodau ddisgyn oddi ar ymyl clogwyn, os caniateir iddo barhau. Nid yw hyn yn ymwneud â'r swm; mae'n ymwneud â'r dosbarthiad.
A chredaf y byddech yn cytuno â mi, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn llywodraeth leol, mai cipolwg yn unig ydyw, a bod gan lawer o gynghorau gynlluniau, ac maent wedi clustnodi arian o fewn y cronfeydd wrth gefn ar gyfer cynlluniau. Felly, nid yw ond yn adlewyrchu cipolwg ar yr adeg honno. Ac wrth gwrs, gwelsom ychydig o flynyddoedd eithriadol, felly nid wyf yn credu y bydd cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol eleni o reidrwydd yn adlewyrchu'r hyn y byddech yn ei weld mewn blynyddoedd arferol. Gwn y byddwn yn mynd ymlaen i drafod cronfeydd wrth gefn, ond rwyf eisiau parhau i siarad am y fformiwla a dweud nad yw'n sefydlog.
Mae'n cael ei adolygu'n gyson, drwy waith yr is-grŵp dosbarthu, a oruchwylir gan yr is-grŵp cyllid. Trafodais addasrwydd y fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid i lywodraeth leol gydag arweinwyr llywodraeth leol yr wythnos diwethaf, yng nghyfarfod yr is-grŵp cyllid, ac yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaethom ystyried effaith newidiadau i fudd-daliadau lles a buom yn siarad am y cyfrifiad ac amseroldeb peth o'r data yn y fformiwla.
Felly, fel y cytunwyd gydag arweinwyr llywodraeth leol, mae'r is-grŵp dosbarthu ar fin cychwyn ar raglen waith i ystyried diweddariadau posibl i'r fformiwla, gan ddefnyddio allbynnau o'r cyfrifiad diweddaraf, a fydd yn darparu gwybodaeth lawer mwy cyfredol a pherthnasol i ni. A chredaf fod hyn yn bwysig iawn, ac mae hefyd yn un o'r rhesymau pam nad oeddwn ond yn gallu darparu dyraniadau setliad ar lefel Cymru ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 y setliad aml-flwyddyn, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r data mwyaf cywir a chyfredol.
Yn ddiddorol, mae'r rhan fwyaf o'r data yn y fformiwla, sy'n berthnasol i 72 y cant o'r cyllid, yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r is-grŵp dosbarthu wedi argymell newidiadau i'r ffordd yr ymdrinnir â nifer o setiau data, o ganlyniad i'r diwygiadau i'r system les yn ogystal ag effaith y pandemig. Ac yna, y mater ar wahân a godwyd y prynhawn yma, ac a godwyd hefyd yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y mis diwethaf, yn ymwneud â'r pwysoliad a gymhwyswyd i wahanol garfanau oedran yn y fformiwla, rwyf eisiau cadarnhau y bydd swyddogion yn trafod y mater penodol hwn gyda'r is-grŵp dosbarthu yn eu cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth.
Fel y mae cyd-Aelodau wedi cydnabod, rydym wedi ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac fel rhan o'r gwaith hwn, bydd angen inni ystyried sut y mae angen i'r fformiwla ariannu ymateb i hyn, a newidiadau eraill i amgylchiadau, gan barhau i ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i awdurdodau. Wrth gwrs, fel y clywsom, mae unrhyw newid i'r fformiwla yn anochel yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai'r rhain fod yn sylweddol. A dyna pam ein bod wedi dweud o'r blaen, os oes awydd cyfunol gan lywodraeth leol i gynnal adolygiad sylfaenol o fformiwla ariannu setliadau llywodraeth leol, byddwn yn gweithredu ar hynny, ac y byddwn yn gwneud hynny gyda'n gilydd.
Ond er bod gwelliannau bob amser i'w cynllunio a'u gwneud, ni allaf gytuno bod y fformiwla bresennol yn anaddas i'r diben. Mae'n darparu tryloywder a sefydlogrwydd, gan ymateb i anghenion ac amgylchiadau sy'n newid, ac mae ein cefnogaeth barhaus i lywodraeth leol, a ddangoswyd drwy gydol y pandemig a chyda'r cynigion ariannu tair blynedd diweddaraf, yn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau lleol o'r radd flaenaf ledled Cymru. Diolch.
Galwaf ar Laura Anne Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddatgan yn gyntaf fy mod yn dal i fod yn gynghorydd yng Nghyngor Sir Fynwy. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar a'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Weinidog, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma.
Lywydd dros dro, a chithau fel finnau wedi eistedd mewn llawer o Seneddau a Chynulliadau, fe fyddwch chi hefyd yn gwybod nad yw'r hyn a glywsom heddiw yn ddim byd newydd. Rydym wedi clywed dadleuon drosodd a throsodd gan Aelodau ledled Cymru, dro ar ôl tro, fel y dywedodd Carolyn Thomas a Janet Finch-Saunders, ac fel y dywedodd Sam Rowlands, fod y fformiwla honno wedi dyddio ac yn sylfaenol annheg. Ac eto, nid oes unrhyw beth wedi newid.
Mae'n drueni, ac mae'n drueni arbennig gan fod gennym chweched Senedd sy'n ymfalchïo mewn tegwch, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Senedd sy'n honni ei bod eisiau gofalu am bob person mewn angen yng Nghymru. Ac eto, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru sy'n benderfynol o beidio â newid fformiwla sy'n pennu cyllid llywodraeth leol mewn ffordd sy'n golygu y bydd rhai o'r bobl fwyaf anghenus o dan anfantais.
Mae gwahaniaeth enfawr rhwng gwneud y peth iawn a gwneud y peth iawn i'ch plaid. Mae'n siomedig gweld yr agweddau pleidiol a welsom yn y Siambr hon heddiw. Weinidog, mae safbwynt Llafur yn amlwg yn benderfyniad gwleidyddol i gadw fformiwla sy'n golygu y gallai rhai o'r teuluoedd incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru orfod mynd heb y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, neu orfod ymdopi â chodiadau i'r dreth gyngor am eu bod yn digwydd byw mewn ardal wledig, lle maent yn gweithio, sy'n cael ei hystyried yn gyfoethog.
Mae'n ffodus, fel y nododd Peter Fox, fod gennym gynghorau yn yr ardaloedd hyn a gafodd eu taro'n galed, fel yn ei etholaeth ei hun yng Nghyngor Sir Fynwy, sydd ar waelod y tabl yn gyson pan gaiff yr arian ei ddosbarthu, ac sydd mor dda am reoli arian ac mor arloesol wrth lunio cynlluniau i'w trigolion fel nad oes rhaid i'r cymorth mawr ei angen i'w pobl fwyaf agored i niwed a'r rhai llai cefnog ddioddef oherwydd y fargen eithriadol o annheg y maent wedi'i chael gan Lywodraeth Cymru.
Nid yw'n iawn, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders a Gareth, fod yn rhaid i gynghorau mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru, y rhai sydd â phoblogaeth sy'n heneiddio o faint sylweddol neu sydd â phocedi difrifol o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, ystyried codi'r dreth gyngor fel yr unig ffordd o achub eu gwasanaethau hanfodol i'w trigolion. Nid yw'n iawn, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, ein bod yn peryglu ein pobl fwyaf agored i niwed.
Fel y dywed Sam Rowlands, Mike Hedges a Llyr Gruffydd, mae llawer o'n cynghorau wedi bod yn rhagorol. Mae'r ffordd y mae ein cynghorau wedi ymateb i'r pandemig yn dangos pa mor werthfawr ydynt, a hoffwn innau ddiolch iddynt hefyd. Roedd yn drawiadol gweld sut y llwyddodd cynghorau i ad-drefnu, addasu i wneud y pethau yr oedd eu hetholwyr eu hangen fwyaf; sut y daethant yn garthen i'r rhai mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng cenedlaethol hwn; sut y mae cynghorau'n ymateb i lifogydd. Beth bynnag sy'n cael ei daflu atynt, fel y dywedodd Mike Hedges, maent bob amser ar y rheng flaen, yn cyflawni ar gyfer ein hetholwyr. Mae arnom angen ein cynghorau, pob cyngor, ledled Cymru gyfan, ni waeth pa blaid sy'n eu harwain. Maent yn chwarae rhan allweddol yn cyflawni nodau ein Senedd a'ch Llywodraeth.
Fel y dywed Peter Fox, os byddwn yn parhau i'w tanariannu, gan roi mwy o bwysau arnynt yn barhaus, efallai y gwelwn rai cynghorau'n methu. Daw hyn gan rywun sydd wedi bod yn arweinydd cyngor ers 13 mlynedd, sydd wedi gweld yn uniongyrchol sut y mae newid canrannol bach yn y fformiwla ariannu yn effeithio ar sut y caiff cyngor ei redeg o ddydd i ddydd a sut y mae'n darparu ei wasanaethau hanfodol, a'r sefyllfa anodd y mae tanariannu cyson yn gallu rhoi cyngor ynddi.
Fel y dywed Gareth Davies, ni all yr annhegwch barhau. Mae gennym fformiwla sy'n defnyddio data sydd wedi dyddio, fel y mae Sam Rowlands wedi'i nodi dro ar ôl tro yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae enillwyr a chollwyr mewn unrhyw fformiwla, ond mae angen inni ddod o hyd i fformiwla sy'n deg, y fformiwla decaf bosibl y gallwn ei chael. Mae hefyd yn codi pethau pwysig y mae angen inni eu hystyried mewn unrhyw adolygiad o ddefnyddio data'r cyfrifiad neu gyllid gwaelodol.
Ers dau ddegawd bellach, ers sefydlu'r fformiwla, mae natur wledig ardaloedd wedi cael ei anwybyddu. Fel y mae Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi dweud heddiw yn y ddadl hon, mae angen ystyried natur wledig ardaloedd. Mae eu hardaloedd enfawr yn galw am fwy o arian. Yn syml iawn, Weinidog, fel y dywedodd Peter Fox, bydd y gost o gasglu sbwriel o 100 o dai teras o'i gymharu â 100 o ffermydd gwasgaredig yn wahanol iawn mewn amser a chostau tanwydd. Nid yw fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn ystyried hyn; mae'n sylfaenol ddiffygiol ac nid yw'n cydnabod yr heriau o ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.
Ni all cynghorau gwledig gyflawni rhai o'r arbedion effeithlonrwydd y gellir eu cyflawni mewn ardaloedd bach yn ddaearyddol yn y ffordd y gall cynghorau dinasoedd a chynghorau'r Cymoedd. Erbyn hyn mae gan Gasnewydd un ganolfan gwastraff cartref ac ailgylchu; darperir addysg ôl-16 cyfrwng Saesneg yn Nhorfaen o un campws, sef parth dysgu Torfaen. Mae hynny'n wych, ond mae'r rhain yn ddwy enghraifft o arbedion effeithlonrwydd na ellir eu cyflawni mewn ardal wledig denau ei phoblogaeth lle mae angen ysgolion a gwasanaethau llai, mwy hygyrch arnoch o fewn pellteroedd teithio rhesymol.
Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Fel y dywedodd Gareth, rydym ar fin wynebu argyfwng yn ein cynghorau oherwydd y pwysau ychwanegol enfawr a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, yn enwedig yng nghyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cynghorau. Fel y dywedodd Sam Rowlands, mae'n broblem ac yn bwysau ariannol a fydd yn gwaethygu.
Clywsom gan y Gweinidog heddiw sut y mae cynghorau fel sir Fynwy wedi cael y setliad gorau hyd yma. Er bod hyn yn rhannol wir ac i'w groesawu'n fawr, fel rydym wedi'i ddweud, nid yw'n gwbl wir. Pe bai Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arian yn y modd hwnnw flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai'n sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, ond nid yw'n mynd i wneud hynny. Mae'n swm da, Weinidog, yn y flwyddyn gyntaf hon o gipio'r pennawd ac 'mae etholiad yn dod', ond beth am y blynyddoedd i ddilyn? Mae'n gyllid a fydd yn gostwng, yn enwedig ar ôl y pandemig. Mae angen i gyllid, yn enwedig ar ôl y pandemig, ac yn enwedig pan fyddwn yn wynebu argyfwng costau byw, godi o flwyddyn i flwyddyn i wrthbwyso'r cynnydd mewn chwyddiant fan lleiaf. Dyna'r realiti. Felly, mae rhywfaint o gamliwio'n digwydd yma heddiw, os ydych chi'n onest, Weinidog.
Fel y mae Sam Rowlands a'n holl Aelodau Ceidwadol wedi'i ddweud yma heddiw, rydym yn croesawu'r arian, ond nid dyna'r ateb ac yn sicr nid yw'n bopeth yr ydych yn honni ei fod. Fel y dywedodd Peter, ei etholaeth yn sir Fynwy yw'r cyngor sy'n cael leiaf o arian yng Nghymru, ar ddim ond £1,176 y pen, ac eto mae rhai cynghorau trefol cyfagos yn cael cymaint â £1,881 y pen. Mae hyd yn oed yr ail a'r trydydd cyngor isaf, Bro Morgannwg a sir y Fflint—£1,372 a £1,476 yn y drefn honno—yn cael llawer mwy na sir Fynwy. Fel y dywed fy nghyd-Aelod, Peter, pe bai sir Fynwy yn cael ei hariannu yn ôl cyfartaledd Cymru, byddai'r cyngor yn cael £40 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i'w wario ar wasanaethau rheng flaen. Mae'r bwlch rhwng y cynghorau a ariennir orau ac a ariennir waethaf yng Nghymru wedi mynd yn rhy fawr, ac mae'n effeithio ar y gwaith o redeg y cyngor a llwyddiant ceisiadau, fel y dywed Carolyn Thomas. Hyd yn oed eleni, gyda sir Fynwy yn cael y cynnydd canrannol mwyaf, sef 11.2 y cant, yn dilyn blynyddoedd o danariannu, mae'r bwlch rhwng sir Fynwy a chynghorau eraill yn parhau i dyfu. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy ac mae'n siarad cyfrolau am agweddau'r Llywodraeth hon tuag at y Gymru wledig.
Mae arweinwyr trawsbleidiol CLlLC i gyd wedi mynegi eu prif bryderon am y fformiwla annheg, gyda rhai eithriadau amlwg, oherwydd mae fel tyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig. Mae arnom angen adolygiad allanol annibynnol o drefn ariannu llywodraeth leol ar frys i sicrhau ei bod yn darparu cyllid teg i bob rhan o Gymru. [Torri ar draws.] Sir Fynwy hefyd, ie. Ar ôl dau ddegawd o fformiwla ariannu llywodraeth leol sydd wedi cosbi gogledd Cymru—fel y dywedodd Janet, Gareth, Sam a Carolyn—sydd wedi cosbi ardaloedd gwledig, nad yw'n ystyried poblogaeth sy'n heneiddio na phocedi o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, mae'n bryd bellach inni gael Senedd sy'n cadw at ei haddewid i wneud Cymru'n Gymru gyfartal, i gael Llywodraeth a fydd yn sefydlu adolygiad annibynnol, neu rywbeth tebyg yn unol â'r hyn a wnewch gyda'r dreth gyngor, a cheisio newid y fformiwla ariannu annheg sydd wedi dyddio a'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu unwaith ac am byth.
Diolch, unwaith eto, i bawb, am eich cyfraniadau ac i Blaid Cymru am eich cefnogaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw yn pleidleisio o blaid ein cynnig ac yn gwneud yr hyn sy'n iawn i Gymru gyfan, nid dim ond i'ch plaid chi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Byddwn ni'n cymryd toriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly.