Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd dros dro. Rhwng 2010-11 a 2019-20, gostyngodd cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol 17 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn ogystal, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi bod gostyngiad o 19 y cant yn niferoedd staff llywodraeth leol yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2010 a 2020. Mae'r ffigurau llwm a brawychus hyn yn rhoi cipolwg bach inni o'r diffyg cefnogaeth i awdurdodau lleol cyn y pandemig. Maent wedi bod ar flaen y gad yn ymateb i COVID-19 ac wedi ysgwyddo baich sylweddol drwy gydol y pandemig. Cafodd staff eu secondio i adrannau gwahanol ac fe wnaethant helpu i sefydlu rhwydweithiau cymorth a darparu bwyd i breswylwyr agored i niwed hyd yn oed. Yn sicr fe wnaeth hyn ymestyn hyd yr eithaf eu hadnoddau a'u gwasanaethau, a oedd eisoes wedi'u disbyddu.
Mewn ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth a gefais gan awdurdodau lleol, rwyf wedi cael cryn sioc o weld, rhwng 2018-19 a 2020-21, fod tua £10 miliwn neu gynnydd o 118 y cant yn y gwariant ar gartrefu unigolion mewn llety dros dro. A siaradwch ag unrhyw arweinydd awdurdod lleol neu aelod cabinet a byddant yn dweud wrthych fod y gyllideb digartrefedd yn straen difrifol iawn yn awr, ac mae'n rhywbeth nad yw'n llacio. Os edrychwch ar hyn mewn ffordd strategol, mae'r cynnydd hwn, heb os, yn deillio'n rhannol o fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i adeiladu'r tai newydd sydd eu hangen ar ein cymunedau. Ac fe'i gwnaed yn glir i mi gan o leiaf un aelod fod y gwariant wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy yn y flwyddyn ariannol hon.
Yn anffodus, nid dyma'r unig enghraifft o'r cynghorau'n cael eu gadael i ysgwyddo'r baich am fethiannau Llywodraeth Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i wneud iawn am ddiffygion cyllidebol drwy ddulliau eraill. Ym mis Hydref y llynedd, adroddodd y BBC fod dyled gyhoeddus cyngor dinas Caerdydd yn mynd i godi oddeutu 70 y cant, gyda'r rhagolwg y byddai'r cyngor yn benthyca dros £1.4 biliwn erbyn 2023-24. Mae'r sefyllfa hon wedi dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru yn cilio rhag rhoi'r holl gamau angenrheidiol ar waith i ariannu a chefnogi awdurdodau lleol. Yn hytrach, maent yn trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol, gan orfodi cynghorwyr lleol i dorri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, sy'n cael effaith andwyol ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn cynyddu trethi cyngor, yn mygu twf economaidd lleol ac yn ychwanegu pwysau ariannol ychwanegol ar drigolion sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw yng Nghymru. Yr adrannau rheoleiddio hynny sydd wedi gweld eu staff yn lleihau, a bellach mae gan ein hawdurdodau cynllunio ôl-groniadau o sawl cais cynllunio. Lywydd—Lywydd dros dro—ni ddylent orfod bod o dan y fath bwysau. Fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU yn ddiweddar, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi ymrwymo i gynnydd o £2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i gyllideb Llywodraeth Cymru ar ben y cyllid sylfaenol blynyddol o £15.9 biliwn y flwyddyn, ac eto, Lywodraeth Cymru, rydych yn cwyno drwy'r amser am ddiffyg adnoddau.
Fel y dywedwyd yma heddiw, nid yw'r fformiwla ariannu bresennol yn addas i'r diben. Ac roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid dros lywodraeth leol am saith mlynedd yma, ac yn 2010 roeddem yn cael yr un dadleuon. Ac roedd y Gweinidog ar y pryd, gan bwyntio bys ataf i, yn dweud, 'Ond yr arweinwyr, dyna mae'r arweinwyr ei eisiau.' Wel, rwy'n dweud wrthych yn awr, mae gwir angen edrych arni, oherwydd wrth godi heno a gofyn yr un cwestiynau, mae'n debyg i déjà vu, ac mae gwir angen ichi fynd i'r afael â hyn yn awr a chael golwg ar y fformiwla ariannu. Cefais gyfarfod unwaith â gweision sifil yma, neu swyddogion y Llywodraeth yma, ac roeddent yn dweud, 'Janet, gallwn wneud newidiadau bach iddo, ond byddai'n amhosibl adolygu'r fformiwla ariannu.' Ond nid yw'n iawn yn awr, yn enwedig pan edrychwch ar fy etholaeth i yn Aberconwy. Mae gennyf bobl yn symud allan o'r sir i ardaloedd eraill lle nad oes ganddynt rwydwaith teulu na ffrindiau, am nad oes pecynnau gofal cymdeithasol ar gael yng Nghonwy. Nid bai'r awdurdod yw hynny, diffyg arian yw hynny.
Ni all fod yn iawn eich bod yn caniatáu i rai awdurdodau lleol gronni arian trethdalwyr, tra bod fy Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fy hun yn gorfod cynyddu'r dreth gyngor 3.9 y cant. Soniodd Peter Fox yn rhagorol am y cannoedd o filoedd y mae rhai awdurdodau lleol—awdurdodau Llafur yn bennaf—yn ne Cymru, sut y caniateir iddynt ddal eu gafael, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar £120,000, £130,000, a £1.3 miliwn mewn rhai achosion. Ni all fod yn iawn pan fydd ffigur Conwy—