Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 1 Mawrth 2022.
Mynegodd ein hadroddiad cyntaf ein pryderon ynglŷn â'r Bil. Rydyn ni’n credu y gallai'r cynigion rheoli cymhorthdal—ac rydyn ni’n dweud hyn yn ein hadroddiad—gael effaith niweidiol ar ddatganoli ac ar arfer swyddogaethau datganoledig, yn enwedig mewn ffyrdd a allai gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus i ariannu prosiectau angenrheidiol. Felly, mae effaith bosibl y Bil hwn yn debyg i effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, nad oedd y pumed Senedd yn cydsynio iddi yn wir.
Yn ystod ein gwaith craffu, roedd hi’n siomedig dysgu o dystiolaeth y Gweinidog cyllid i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig nad oedd cysylltiadau rhynglywodraethol, sydd, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr i ni ar ein pwyllgor, wedi bod mor gynhyrchiol ag y dylent fod yn ystod datblygiad y Bil. Mynegodd ein hadroddiad y gobaith nad yw hyn yn cynrychioli tuedd gan Lywodraeth y DU o wrthod cydweithredu ac ymgysylltu'n adeiladol lle mae gan ddeddfwriaeth y potensial i danseilio'r setliad datganoli a gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni polisi mewn meysydd datganoledig. Byddai dull gweithredu o'r fath, fel rydyn ni’n ei ddweud yn ein hadroddiad, yn peryglu cymhlethu’r ddealltwriaeth gyffredinol o ddatganoli ymhellach, yn enwedig pan fo'r setliad presennol eisoes yn ddiangen o gymhleth. At hynny, gallai greu ansicrwydd i fusnesau, i sefydliadau'r sector cyhoeddus ac i lywodraeth leol, yn ogystal â biwrocratiaeth ddiangen drwy greu cyfraith wael sy'n anodd i ddinasyddion ei deall, ac yn wir mae hynny'n hau amheuaeth ynghylch ble mae ffiniau datganoli. Felly, roedden ni’n cael y ffaith fod llywodraeth y DU wedi gwrthod cydweithredu ac ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth Cymru i fod yn syfrdanol, oherwydd mae'n amlwg bod llawer mwy i'w ennill o Lywodraethau yn cydweithio'n adeiladol ac yn dod o hyd i ddull sy'n deg, yn weithredol ac yn ymarferol o fewn y fframwaith cyfansoddiadol presennol.
Byddaf yn troi yn awr at y cymalau penodol sy'n destun cydsyniad y Senedd. Yn ein hadroddiad cyntaf, nodwyd ein bod yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad ar gyfer cymalau 63 i 69, 70 i 75 ac 80 i 92 o'r Bil. Ar y pryd, nid oedd yn glir i ni a oedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymalau 41 a 42 hefyd yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Felly, rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Gweinidog cyllid, a phenderfyniad Gweinidog yr economi, i osod memorandwm atodol oedd yn cadarnhau eu cred bod angen cydsyniad ar y cymalau hyn hefyd, ac rydyn ni’n cytuno â'r asesiad hwnnw.
Roedd ein hadroddiad cyntaf yn cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru am gyflwyno gwelliannau mewn perthynas â nifer o gymalau yn y Bil. Nid oes rhaid dweud y dylai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, gael y pwerau priodol i wneud is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r Bil mewn meysydd polisi sydd eisoes wedi'u datganoli. Rydyn ni hefyd yn rhannu rhwystredigaeth y Gweinidog ynghylch y diffyg manylion ar wyneb y Bil, ac rydyn ni’n nodi bod Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu mewn is-ddeddfwriaeth ac mewn cyfres o ganllawiau i'w dilyn. I'r perwyl hwnnw, hoffwn dynnu sylw at argymhelliad a wnaethom ni yn ein hadroddiad cyntaf, y dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi rheoliadau a chanllawiau drafft i seneddwyr ac Aelodau'r Senedd hon yn y DU ystyried manylion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal a deall yn well effeithiau posibl y Bil hwn. Felly, fe wnaethom ni ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol cyn y Nadolig yn gofyn am ei farn ar yr argymhelliad hwn, ond, mae'n flin gen i ddweud, nid ydym ni wedi cael ymateb eto.
Fe wnaeth ein hail adroddiad dynnu sylw at farn pwyllgorau yn Nhŷ'r Arglwyddi am y Bil hwn. Wrth ddod â'm sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw'n benodol at sylwadau penodol a wnaed gan gadeirydd Pwyllgor Craffu Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Kay Andrews. Mae wedi dweud bod Pwyllgor Craffu'r Fframweithiau Cyffredin yn pryderu fwyfwy am effaith y Bil a'i ryngweithio â fframweithiau cyffredin, er enghraifft, er nad yn gwbl ecsgliwsif, mewn perthynas â chymorth amaethyddol. O ganlyniad, mae'r pwyllgor hwnnw'n ystyried hyn fel
'mater difrifol iawn sy'n effeithio ar weithrediad yr Undeb.'
Ni fydd yn syndod bod fy mhwyllgor yn rhannu'r pryderon mawr hynny ynghylch rhyngweithio'r Bil â'r fframweithiau cyffredin a'i oblygiadau i bolisi datganoledig, a gobeithio, wrth gofnodi'r sylw hwn, nid y Senedd yn unig fydd yn nodi'r sylwadau hyn, ond hefyd y pwyllgorau perthnasol yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi sydd â diddordeb mawr yn hyn hefyd. Diolch yn fawr.