Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 1 Mawrth 2022.
Rwyf yn dymuno siarad i gefnogi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Er gwaethaf y gefnogaeth honno, rwy'n credu ei bod hi'n amharchus iawn i lythyrau fod yn mynd gan bwyllgorau'r Senedd hon ac nad yw'r ohebiaeth honno yn cael ymateb. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen ymdrin â hynny.
Rwy'n credu mai'r realiti yw fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu'r Bil hwn am eu bod yn gwrthwynebu Brexit. Dyna'r realiti. Roeddech chi'n hapus iawn i'r UE ddal pwerau rheoli cymhorthdal, ac ni chlywais air yn y Siambr hon unwaith yn ystod yr amser yr oeddem ni'n aelod o'r UE, gan unrhyw un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn cwyno am y ffaith bod y pwerau rheoli cymhorthdal yn cael eu cynnal ym Mrwsel. Ond nawr, fel plaid a Llywodraeth, mae'n ymddangos eich bod yn cymryd safbwynt gwleidyddol iawn yn erbyn Llywodraeth y DU sy'n dal yr un pwerau, sydd, yn fy marn i, o bosibl yn niweidiol i fusnesau Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i geisio gweithio ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac yn wir y gweinyddiaethau datganoledig eraill, i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon rydych chi wedi'u hamlinellu heddiw. Ond, wrth gwrs, yn anffodus, mae'n ymddangos nad yw'r ymdrechion hynny wedi llwyddo. Dyma'r realiti: rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a dydyn ni ddim bellach wedi'n rhwymo gan reolau cymorth gwladwriaethol biwrocrataidd a beichus yr UE, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig oherwydd erthygl 10 o brotocol Gogledd Iwerddon. Am y tro cyntaf erioed, mae gennym ni yma yn y DU y rhyddid i gynllunio cyfundrefn rheoli cymhorthdal ddomestig sy'n adlewyrchu ein buddiannau strategol a'n hamgylchiadau penodol. Mae angen cyfundrefn rheoli cymhorthdal ledled y DU i sicrhau bod cymorthdaliadau—[Torri ar draws.] Byddaf yn hapus i gymryd ymyriad.