Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar y cynllun gweithredu anabledd dysgu newydd wedi'i dynnu'n ôl, ac yn ail, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, byddwn ni'n trafod dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd.
Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.