3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:18, 1 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Gwn i fod hwn yn fater y mae gan y Gweinidog ddiddordeb brwd ynddo. Bu'r ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar y pwyllgor iechyd yn y pumed Senedd yn ystod hynt Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Cyflwynais i'r gwelliant a arweiniodd at y Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno strategaeth gordewdra, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog a minnau'n cytuno bod yn wir raid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni. Rwy'n credu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd y genedl mewn termau corfforol a'n hiechyd fel cenedl ym mhob ffordd sylweddol bosibl. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw.

Rwyf i yn cwestiynu'r rhifau, y symiau o arian sy'n cael eu dyrannu. Mae’n braf gweld £13 miliwn yn cael ei ddyrannu tuag at hyn. Rwy'n rhyw deimlo bod yna sero ar goll o hyd pan yr ydym ni'n sôn am faint y broblem sy'n ein hwynebu ni. Mae rhai ffigurau gan Lywodraeth Cymru yr wyf i wedi'u gweld yn awgrymu y gallai gordewdra gostio tua £86 miliwn bob blwyddyn i GIG Cymru. Byddwn i'n cwestiynu hynny, pan ystyriwch chi'r effaith y gall gordewdra ei chael ar ddiabetes math 2, sy'n cymryd cymaint â 10 y cant o holl gyllideb GIG Cymru. Felly, mae'n rhaid i ni, os ydym ni eisiau elwa ar y canlyniadau, fod yn buddsoddi ar yr ochr ataliol honno, y gallwn ni, ar draws y pleidiau yma yn y Siambr, gytuno bod yn rhaid ei blaenoriaethu. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr ochr ataliol honno os ydym ni eisiau elwa ar y buddion hirdymor. A byddwn i'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ynghylch a yw'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, mai'r drafodaeth y mae eisiau iddi hi ei chael o amgylch y bwrdd Cabinet hwnnw yn y Llywodraeth yw ychwanegu'r sero arall hwnnw at y swm hwnnw, sy'n rhywbeth y dylem ni fod yn anelu ato.

Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar gynllun treialu yn fy etholaeth i ar anghydraddoldebau iechyd, gan weithio gyda theuluoedd a phlant yn benodol. Nid yw byth yn rhy hwyr ym mywyd rhywun, wrth gwrs, i feddwl mewn ffordd iach. Ymunais â chlwb Nifty Sixties yn y Gym of Champions, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn yng Nghaergybi ddoe. Nid wyf i eto yn fy 60au, er y byddaf i'n dechrau yn fy chweched degawd yn ddiweddarach eleni. Prin y gallwn i gystadlu â'r dynion a'r menywod ifanc hynny a oedd yno, a oedd yn cadw'n heini o gorff a meddwl. Wrth gwrs, mae cadw ein pwysau ni i lawr yn rhan fawr o hynny. Gallech chi weld drwyddyn nhw y budd yr oedden nhw'n ei gael o'r cyfleuster gwych hwnnw sydd gennym ni yng Nghaergybi, ond mae wedi cymryd buddsoddiad i'w roi ar waith—mae angen i ni weld y math hwnnw o fuddsoddiad ym mhob rhan o Gymru.

Un neu ddau gwestiwn arall am hysbysebu. Nododd y ddogfen wreiddiol 'Pwysau Iach: Cymru Iach' y byddai gwaharddiad, erbyn 2030, ar hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd sydd â llawer o fraster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd, digwyddiadau chwaraeon, atyniadau teuluol ac ati. Roedd astudiaeth a ddaeth i'r casgliad bod mesurau tebyg ar fyrddau hysbysebu rheilffordd danddaearol Llundain ers 2019 wedi cael effaith wirioneddol. Cyfrannodd, efallai, at ostyngiad o 1,000 o galorïau o ran prynu pethau nad ydyn nhw'n iach ym masgedi siopa wythnosol pobl—pobl a oedd wedi dod ar draws yr hysbysebion hynny. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran ble yr ydym ni gyda'r mesurau hynny?

Ac o ystyried, yn olaf, fod y Gweinidog wedi nodi y bydd yn gofyn i swyddogion ystyried mesurau sy'n ymwneud â threthiant, pryd y gallwn ni ddisgwyl rhagor o fanylion am hynny? Roeddwn i ar y meinciau hyn pan oedd pobl yn chwerthin am ein pennau am awgrymu y gallem ni gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. Mae hynny'n digwydd nawr, mae wedi cael ei dderbyn. Mae angen i ni symud ymlaen nawr i fwydydd nad ydyn nhw'n iach hefyd. Ac a yw'r Gweinidog hefyd wedi ystyried galwadau gan elusennau, megis Sefydliad Prydeinig y Galon, i gyfyngu ar ymgyrchoedd hyrwyddo—prynu un, cael un am ddim a'r tebyg—ar fwydydd a diodydd nad ydyn nhw'n rhai iach?