Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich croeso i'r cynllun cyflawni yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw. Fel y gwnaethoch ei ddweud yn gywir, dechreuodd y strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn sgil Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac mae hi wedi bod yn dda gwneud y gwaith yr wyf i wedi'i wneud ar bwyllgorau ynghylch ymdrin ag anweithgarwch ac ati—mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Gwnaethoch chi gyfeirio at y cyllid ac a yw'n ddigonol. Yn ogystal â'r £13 miliwn i gefnogi, yn uniongyrchol, y gwaith o gyflawni'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am y ddwy flynedd, yr ydym ni hefyd wedi ailflaenoriaethu'r £7.2 miliwn o gyllid atal blynyddol a'r blynyddoedd cynnar o fis Ebrill 2022, a bydd cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ar draws byrddau iechyd lleol yn defnyddio hynny i gefnogi ymyriadau yn benodol yn y meysydd gordewdra yn ogystal â'r meysydd polisi tybaco, yn unol â'n strategaethau yn y ddau faes hynny. Ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y cyllid hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac rydym ni wrthi'n cwblhau hynny. Rwyf i hefyd wedi cyfeirio at y cyllid arall, fel iach ac egnïol, a'r arian sy'n mynd ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny. Y peth arall y byddwn i'n ei ddweud yw bod gwerthusiad trylwyr iawn yn cael ei gynnwys wrth weithredu'r cynllun cyflawni hwn, a bydd hynny'n ein galluogi ni, yn amlwg, i ystyried a oes angen mwy o arian arnom ni, ac mae hynny'n rhan allweddol iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Diolch i chi am eich croeso i'r cynllun treialu plant a theuluoedd—mae un ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Hefyd i atgoffa'r Aelod ein bod ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cyllid ar gyfer gweithgarwch i bobl dros 60 oed hefyd, felly rydym ni'n ymwybodol bod hyn yn beth gydol oes.
Gwnaethoch chi gyfeirio at drethiant: mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi dechrau gweithio arno. Gwnaethom ni ddechrau rhywfaint o waith cychwynnol yn 2019 pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar hyn, ac edrychodd hwnnw ar dystiolaeth ryngwladol ac ystyriodd y pwerau posibl y byddai modd eu defnyddio. Roedd hwnnw'n ddarn o waith cam cyntaf, ac rydym ni'n mynd i gomisiynu gwaith arall ar hynny i fireinio rhai cynigion posibl y byddwn ni'n eu datblygu fel rhan o'r cynllun cyflawni dwy flynedd hwn. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny maes o law.
O ran hyrwyddo prisiau, yn hollol. Rwyf i'n lansio ymgynghoriad yn y gwanwyn a fydd yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau deddfwriaethol, ac un o'r pethau y byddwn ni'n edrych arno yw cyfyngu ar hyrwyddo prisiau bwydydd sydd â llawer o siwgr, braster a halen.