– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 1 Mawrth 2022.
Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun plant a phobl ifanc. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig yn hanes Cymru, diwrnod i ni ddathlu'r genedl anhygoel hon ac i arddangos pa mor wych yw Cymru i dyfu i fyny, i fyw ac i weithio ynddi.
Rwyf wrth fy modd, ar y diwrnod pwysig hwn, i fod yn cyhoeddi'r cynllun plant a phobl ifanc, sy'n nodi ein huchelgais ni ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Yng Nghymru, rydym ni'n dymuno'r gorau i'n plant—ein plant ni i gyd, does dim ots beth yw eu cefndiroedd nhw, o ble y maen nhw'n dod, nac ymhle maen nhw'n byw. Rydym ni'n dymuno i bob un ohonyn nhw gael y dechrau gorau mewn bywyd, i fynd ymlaen i fyw'r mathau o fywydau y maen nhw'n awyddus i'w byw, a gwybod eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n frwdfrydig iawn ynglŷn â hawliau plant. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymgorffori hawliau plant yn ein cyfreithiau ni, a heddiw rydym ni'n datgan o'r newydd ein hymrwymiad i wireddu hawliau plant. Mae'r cynllun yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn dod â chydlyniaeth i'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth ar ran plant a phobl ifanc, ac yn eu rhoi wrth galon ein penderfyniadau ni. Yn y cynllun hwn, rydym ni wedi nodi ein huchelgais, ac wedi nodi saith blaenoriaeth ar draws y Llywodraeth lle'r ydym ni wedi cytuno i gydweithio ar draws ein portffolios gweinidogol, i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, yn cael ei drin yn deg, yn cael y cymorth sydd ei angen arno i symud ymlaen drwy addysg, hyfforddiant ac i gyflogaeth, yn cael ei gefnogi i'w helpu i deimlo cryfder meddyliol ac emosiynol, i gael cyfle teg mewn bywyd, cartref da a diogel i fyw ynddo, a chael y cymorth sydd ei angen arno i aros gyda'i deulu neu ddychwelyd at ei deulu, os yn bosibl.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud i wireddu ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu i blant a phobl ifanc. Mae'n rhoi cipolwg ar rai o'r gweithgareddau y gwnaethom ni eu sefydlu o'r blaen ac yn nodi rhai o'r gweithgareddau y byddwn ni'n eu datblygu dros y 12 mis nesaf. Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi cyflawni llawer iawn, ond fe wyddom ni ei bod hi'n bwysig i ni fynd ymhellach, ac rydym ni'n benderfynol o fynd ymhellach drwy gydol y tymor Seneddol. Yn y flwyddyn i ddod, fe ddaw rhai prosiectau cyffrous yr ydym ni'n bwriadu eu datblygu. Er enghraifft, rydym ni am roi bwndeli babanod i fwy o deuluoedd newydd, yn dechrau ein cwricwlwm newydd i Gymru, yn creu mwy o brentisiaethau, yn gwella gwaith ieuenctid fel gall mwy o bobl ifanc gael llety diogel, adeiladu cartrefi preswyl ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, a dechrau llunio coedwig genedlaethol i Gymru, i enwi dim ond ychydig o bethau. Mae'r cynllun hwn yn seiliedig ar fuddsoddiad sylweddol, fel mae ein cyllideb derfynol ar gyfer 2022-23, a gyhoeddwyd heddiw, yn ei amlygu gyda mwy na £1.3 biliwn o fuddsoddiad yn benodol i'r blynyddoedd cynnar ac addysg, a bron i £0.75 biliwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hanfodol fel ysgolion.
Mae gwrando, siarad ac ymateb i blant a phobl ifanc yn allweddol i ddeall sut mae'r penderfyniadau a wnawn ni yn y Llywodraeth yn effeithio ar eu bywydau nhw ac yn effeithio arnyn nhw. Fe fuom ni'n siarad â 173 o blant a phobl ifanc hyd at 25 oed am y blaenoriaethau sydd yn y cynllun hwn. Roedden nhw'n dweud wrthym ni am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys cael lleoedd i chwarae, a chael hwyl a dysgu, a gallu cyflawni eu dyheadau beth bynnag fo incwm, gallu neu gefndir ethnig eu teulu nhw, a chael cymorth wrth bontio rhwng cyfnodau bywyd ac wrth wneud dewisiadau bywyd, a chael bod â rhan yn y penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau, nid penderfynu ar eu cyfer nhw.
Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi helpu i lunio'r cynllun hwn, ynghyd â Phlant yng Nghymru a'r sefydliadau sydd wedi bod yn gweithio gyda nhw i ddod â'r safbwyntiau pwysig hyn. Rwy'n benderfynol o gynnal y sgwrs hon. Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth i ni gyflawni ein hymrwymiadau. Mae hyn yn cynnwys adrodd ar gynnydd a'r cyfraniadau yr ydym ni'n eu gwneud at gyrraedd ein cerrig milltir cenedlaethol. Ond wrth gwrs, rydym ni'n deall na allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu arnom ni i gydweithio â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac ar draws y gymdeithas gyfan, i wella gwasanaethau lleol a chyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Gadewch i ni wneud hwn yn Ddydd Gŵyl Dewi i'w gofio, a chyfleu neges rymus i blant a phobl ifanc mai Llywodraeth yw hon sy'n gweithio iddyn nhw a bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u cynrychioli yn gyson ym mhob haen o Lywodraeth Cymru.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd i roi'r cynllun plant a phobl ifanc ar waith ac i gyflawni ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddi. Diolch.
Ar ran y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Wrth gwrs, rwy'n dymuno Dydd Gŵyl Ddewi hapus iawn i chi.
Rwy'n siŵr na fydd yna unrhyw anghydweld o ran eich nod datganedig o greu Cymru sy'n lle hyfryd i dyfu i fyny, byw ac, yn wir, gweithio ynddo. Mae hwn yn nod y mae pob un ohonom ni'n ei rannu, ond mae'n un y bydd angen mwy na geiriau teg i'w gyflawni. Mae'r pandemig a chamau gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer arafu ymlediad COVID-19 wedi effeithio mewn ffordd ddinistriol ar blant a phobl ifanc, ac ni allwn bwysleisio digon yr effaith a gafodd hyn ar eu haddysg nhw, eu datblygiad emosiynol, eu lles meddyliol, yn ogystal â'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Cenhedlaeth ein plant ni a gaiff ei llesteirio gan y ddyled ofnadwy a gronwyd yn ystod y pandemig. Maen nhw'n gorfod ymdopi hefyd ag effaith newid hinsawdd, sydd, yn ôl panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, yn waeth o lawer nag yr oeddem ni'n ei feddwl o'r blaen. Nid yn unig hynny, fe fyddan nhw'n teimlo'r canlyniadau yn sgil tueddiadau gormesol Rwsia, boed hynny oherwydd effaith y sancsiynau haeddiannol neu ymddygiad ymosodol parhaus arweinyddiaeth Rwsia. Mae hi, felly, yn siomedig nad yw'r cynllun plant a phobl ifanc yn bwriadu cefnogi ein cenedlaethau iau ni i ymdrin â'r heriau presennol a'r rhai i ddod.
Dirprwy Weinidog, pam nad oes unrhyw beth newydd yn eich cynllun chi? A ydych chi o'r farn ei bod hi'n ddigon i ailddatgan y polisi cyfredol? Pam wnaeth Llywodraeth Cymru fodloni ar fod â 2050 yn nod? A ydych chi o'r farn fod hynny'n ddigon uchelgeisiol o ran cerrig milltir unigol? A ydych chi'n teimlo eu bod nhw'n ddigon i feithrin y Gymru y mae plant a phobl ifanc yn awchu amdani hi'n ddelfrydol? Roedd Llywodraethau blaenorol yn dymuno cael gwared ar y NEET, ac eto mae eich cynllun chi nawr yn nodi y byddwch chi'n eu lleihau nhw gan 90 y cant dros y tri degawd nesaf. Beth am ymrwymo i 100 y cant? Dirprwy Weinidog, pam nad yw'r cynllun hwn yn cynnwys unrhyw gamau neu ymrwymiadau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Beth fydd y cynllun yn ei wneud ynghylch mynediad i wasanaethau CAMHS?
Dirprwy Weinidog, er fy mod i'n rhannu eich uchelgeisiau cyffredinol chi, nid wyf i'n credu bod eich cynllun chi'n ddigon uchelgeisiol. Os ydym ni am greu Cymru sy'n lle gwirioneddol hyfryd i dyfu, byw a gweithio ynddo, yna mae angen i ni wneud mwy na dim ond yr hyn y gwnaethoch chi ei amlinellu yn yr hyn a elwir yn gynllun y prynhawn yma.
Diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna. Rwy'n falch ei fod e'n cytuno â mi bod Cymru'n lle hyfryd i fyw ynddo, a thyfu i fyny. Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn un uchelgeisiol. Rwy'n credu os byddwn ni'n llwyddo i wneud y pethau yr ydym ni'n eu rhoi yn y cynllun hwn, y bydd Cymru yn lle gwell fyth i bobl ifanc a phlant dyfu i fyny ynddo. Yn sicr, nid geiriau teg yn unig yw hyn. Yr hyn sydd yn y cynllun hwn yw ymgais i sicrhau cydlyniad o ran yr holl bethau yr ydym ni'n eu gwneud, felly roedd hi'n rhaid i ni nodi rhai o'r pethau a wnaethom ni a rhai o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud. Rydym ni'n dymuno rhoi hynny mewn un ddogfen ar gyfer bod yn atebol. Rydym ni'n dymuno bod yn atebol i blant a phobl ifanc.
Dyna pam yr es i'r wythnos diwethaf, gyda'r Prif Weinidog, i drafod hyn gyda phlant a phobl ifanc—yr hyn yr oedden nhw'n ei feddwl am y cynllun hwn. Roedden nhw wrth eu boddau ein bod ni'n wedi rhoi o'n hamser ac wedi gwneud yr ymdrech i baratoi cynllun a thrafod y cynllun hwnnw gyda nhw. Roedden nhw'n frwdfrydig iawn yn ei gylch ac fe wnaethon nhw godi'r holl bethau sy'n digwydd yn eu bywydau sy'n achos pryder iddyn nhw. Roedden nhw'n falch iawn bod rhywbeth ar gael iddyn nhw nawr i edrych arno ac y gellid mesur hynny bob blwyddyn. Oherwydd yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw cwrdd â phlant yn flynyddol i geisio mesur yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw yn ystod y flwyddyn honno a'r materion y maen nhw'n dymuno i ni eu diwygio.
Rydych chi'n dweud nad oes unrhyw beth newydd yn y cynllun hwn, ond rhywbeth newydd yw ein bod ni â chynllun plant, peth newydd yw ein bod ni yn y Llywodraeth am fod yn atebol i blant, a pheth newydd yw ein bod ni am fynd yn ôl at blant bob blwyddyn. Rwyf i o'r farn ei fod yn gynllun uchelgeisiol. Yn sicr, mae'r holl faterion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw yma yn mynd i'r afael â'r materion a achosir gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydych chi'n sôn nad oes dim yn hyn sydd am geisio cefnogi plant. Os edrychwch chi ar yr hyn a wnaethom ni eisoes o ran cael—. Wel, edrychwch ar yr Haf o Hwyl a gawsom ni, roedd honno'n ymdrech enfawr i fynd at blant, a'r Gaeaf Llawn Lles, a'r cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer yr haf sydd ar ddod eleni, a'r cynlluniau sydd gennym ni i wella'r cyfle ar gyfer gwaith ieuenctid, y ddarpariaeth ieuenctid i blant, lle'r ydym ni'n rhoi dros £11 miliwn i geisio gwella'r cyfleoedd i blant fod â lleoedd diogel i fynd iddyn nhw. Felly, yn fy marn i, ar Ddydd Gŵyl Ddewi, mae hwnnw'n ymateb digalon iawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad. Ydy, mae Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo fo, ond, wrth gwrs, mae yna anghyfartaledd aruthrol ar y funud, a dydy hynny ddim yn wir ar gyfer pob plentyn. Rydyn ni'n rhannu'r uchelgais angenrheidiol yna fod hyn yn wir i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru.
Rwy'n falch o nodi, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a'ch Llywodraeth chi, y byddwn ni'n gallu dechrau darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, boed hynny drwy'r ddarpariaeth estynedig o brydau ysgol am ddim a gofal plant i fynd i'r afael â newid hinsawdd, neu drwy addysg. Mae Cymru a'r byd yn wynebu llu o argyfyngau, ac fe fydd effaith yr argyfyngau hyn yn pwyso yn drwm iawn ar aelodau ieuengaf ein cymdeithas ni ac ar y cenedlaethau a ddaw. Fe fydd ein plant a'n pobl ifanc yn ysgwyddo baich llawn newid hinsawdd, dirywiad natur, effeithiau hirdymor niferus a dinistriol y pandemig ar ein heconomi ni ac ar eu haddysg nhw. Ar y foment hon, mae'r argyfwng tai a'r mater cynyddol o ail gartrefi yn effeithio ar gymunedau, gan erydu cymunedau i bob pwrpas cyn y gall y plant a'r bobl ifanc a aned yn lleol gael profiad hyd yn oed o fyw a gweithio yno. Plant sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw, ac rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno bod angen mesurau wedi'u targedu arnom ni i sicrhau bod effeithiau'r argyfwng ar blant a phobl ifanc yn cael eu hatal, eu stopio neu eu cyfyngu pan fo hynny'n bosibl drwy gamau wedi'u targedu.
Fe gefais fy nharo, neithiwr hyd yn oed, pan ofynnodd fy mab wyth oed i mi ddiffodd y teledu am ei fod wedi cael llond bol ar glywed y newyddion, ei fod yn teimlo'n drist ac yn teimlo yn ddiymadferth hefyd ar ben popeth y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi bod drwyddo drwy'r pandemig i gael gwybod beth sy'n digwydd yn Wcráin a'r effaith y mae hynny'n ei gael hefyd. Mae hwn yn amser brawychus i'n plant a'n pobl ifanc ni—mae'n ddychrynllyd iawn—ac mae yna gymaint y mae gennym ni gyfrifoldeb i'w wneud. Felly, mae hi'n gwbl briodol ein bod ni'n gwrando arnyn nhw, ein bod ni'n gweithio yn ôl y nodau hyn, ond ein bod ni hefyd yn atebol i blant a phobl ifanc. Ac rwy'n cytuno yn llwyr, nid siarad at bobl ifanc a phlant yw hyn, gweithio gyda nhw yw hyn, a rhoi'r un pwysigrwydd i'w hatebion a'u lleisiau nhw.
Un maes lle y gallwn ni yn wir gynnig cymorth wedi'i dargedu fwyaf ac sy'n fwyaf defnyddiol yw ym maes tai, ac mae llawer o effeithiau gwaethaf y pandemig ar ansawdd bywyd ac, yn wir, ar addysg plant a phobl ifanc â'u hanfod yn yr argyfwng tai a hynny sydd wedi gwaethygu'r sefyllfa. Felly, a gaf i ofyn, Ddirprwy Weinidog—? Pan edrychwn ni nawr o ran tlodi tanwydd—ac fe wyddom ni fod hwn yn fater sylweddol sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yng Nghymru, gydag un o bob 10 aelwyd â dau blentyn yn gorfod torri'n ôl ar fwyd i blant, ac maen nhw'n gorfod torri'n ôl ar danwydd hefyd—fe wyddom ni y gall tymheredd isel achosi myrdd o broblemau iechyd wrth gynyddu'r risg o leithder hefyd, sy'n cynyddu'r risg fwyfwy o glefydau anadlol mewn plant. Mae angen i ni gynnig cartrefi diogel a chynnes i bob plentyn yng Nghymru. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn rhagweithiol i nodi plant mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd, i sicrhau y bydd ein cefnogaeth ni o les i'r plant mwyaf agored i niwed? Pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r Llywodraeth roi diwedd ar dlodi tanwydd ar aelwydydd sydd â phlant?
Fel cyfeiriodd Gareth Davies ato hefyd, fe wyddom ni fod gwasanaethau arbenigol CAMHS—. Fe welsom ni'r data ym mis Chwefror a oedd yn cadarnhau bod canran y cleifion sy'n cael eu hapwyntiad cyntaf o fewn pedair wythnos wedi gostwng i'r gyfradd isaf a fu erioed sef 22 y cant. Mae'r ystadegau hyn yn syfrdanol ac yn dangos methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn eglur, mae bron i bedwar o bob pump o bobl ifanc yn aros dros fis am eu hapwyntiad cyntaf ynglŷn ag iechyd meddwl, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae pob un ohonom ni'n clywed straeon torcalonnus gan deuluoedd ac yn uniongyrchol gan bobl ifanc sy'n awyddus iawn i gael eu gweld. Mae angen i ni fod â darpariaeth gadarn ar waith fel gall cleifion dderbyn y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i'w sefyllfa nhw waethygu, fel gwelsom ni'n rhy aml o lawer. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu'r cynnydd angenrheidiol o ran gwasanaethau CAMHS, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ganiatáu i bobl ifanc gael gafael ar gymorth yn gynt, cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa y mae angen y gofal arbenigol hwn arnyn nhw?
Diolch, Heledd, am y pwyntiau pwysig iawn hyn, ac rwyf i'n cytuno yn llwyr â hi ynglŷn ag anghydraddoldebau yng Nghymru y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw. Rhywbeth teimladwy iawn oedd clywed eich sylwadau chi am eich mab yn gwrando ar y teledu, ac mae llawer o bobl wedi dweud hynny wrthyf innau am y dioddefaint sy'n cael ei gyfleu, a phan feddyliwch chi am yr hyn sy'n digwydd i'r plant, mae hynny'n llorio rhywun, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n deall yn iawn pam roedd ei mab hi'n gofyn am ddiffodd y teledu, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai sôn am blant yng Nghymru yr ydym ni yn hyn o beth ac maen nhw mewn sefyllfa lawer gwell na sefyllfa llawer o blant ledled y byd, yn enwedig ar hyn o bryd.
Mae hi'n gwbl gywir bod y pandemig wedi bod yn anodd iawn i blant, ac fe wyddom ni fod plant wedi dioddef o unigedd cyfnodau hir o beidio â bod mewn cysylltiad â'u ffrindiau, a'n bod ni wedi gorfod ymdrechu i'w cyflwyno nhw o'r newydd, bron iawn, i'r ysgol. Ac felly mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn, ac rwy'n cydnabod popeth a ddywedodd hi. Fe waethygwyd hynny gan yr argyfwng costau byw, unwaith eto, y mae'r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei allu i fynd i'r afael ag ef, dan arweiniad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o ran ymchwilio i ffyrdd o helpu i leddfu rhai o'r sefyllfaoedd pryderus iawn sy'n codi gyda phobl sydd heb ddigon o arian i brynu bwyd. Unwaith eto, roeddech chi'n sôn am yr argyfwng tanwydd, ac, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael ag ef o ran arian, y grant y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi llwyddo i'w drefnu.
Ond mae hi'n gwbl hanfodol, fel dywed yr Aelod, ein bod ni'n nodi'r plant hynny sydd yn y perygl mwyaf, a dyna pam rwyf i o'r farn ei bod hi mor bwysig ein bod ni wedi bod â'n gwasanaeth blynyddoedd cynnar, a bod gennym ni leoedd fel Dechrau'n Deg a anelir ac a ddarperir yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ar hyn o bryd, lle byddwn ni'n gallu nodi lle mae'r plant sydd mewn perygl arbennig. A hefyd, drwy'r cytundeb cydweithredu, rydym ni'n bwriadu ymestyn Dechrau'n Deg i blant dwy flwydd oed ledled Cymru, ac fe fydd hynny eto'n rhoi cyfle i ni allu darganfod pwy yw'r plant hynny, oherwydd mae angen y llygaid a'r clustiau ar lawr gwlad arnom ni i allu gwneud felly.
Ac, wrth gwrs, mae mater tai yn fater enfawr, ac rydym ni wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai i fod ar gael am rent teg, a hefyd ar gyfer mynd i'r afael â materion hirsefydlog tai a adeiladwyd heb ystyriaeth i newid hinsawdd ac mae angen eu ôl-ffitio nhw. Felly, mae gennym ni raglen uchelgeisiol ar gyfer hynny.
Ac yna, beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r plant sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl o ganlyniad i bopeth sydd wedi digwydd? Rwy'n derbyn bod rhestr aros ar gyfer CAMHS. Rydym ni'n ceisio rhoi mwy o gymorth i gamau cynt fel nad yw plant yn cyrraedd y cam lle mae angen y gwasanaeth CAMHS arnyn nhw. Er enghraifft, rydym ni'n cynnig gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, ac mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ceisio sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn llawer cynt yn y system ar gyfer triniaeth. Felly, rydym ni'n dymuno trin y plant cyn iddyn nhw gyrraedd sefyllfa o fod ag angen CAMHS. Rwy'n credu mai yn y fan honno y dylem ni wneud yr ymdrech.
Ond yn olaf, mae'n debyg, mewn gwirionedd, pan fyddwn ni wedi cael y drafodaeth hon, mae hyn yn swnio yn ddigalon iawn, y sefyllfa yn fyd-eang, hynny yw. Mae popeth sy'n digwydd yn ddigon digalon ar hyn o bryd, felly fe hoffwn innau ymateb hefyd gan ddweud fy mod i o'r farn fod llawer o bethau calonnog yn digwydd hefyd, ac rydym ni'n symud ymlaen gyda llawer o bolisïau gan weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod plant, gyda'r holl bethau ofnadwy hyn sydd yn digwydd, yn gallu byw'r bywydau gorau posibl iddyn nhw, a mwynhau eu hunain a chael y math o blentyndod yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei gael.
Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r cynllun hwn yn llwyr, gan nodi amrywiaeth o gamau yr ydym ni'n eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod pob plentyn yn profi'r dechrau gorau yn ei fywyd, nawr ac yn y dyfodol. Ond mae yna bedair elfen o'r cynllun yr hoffwn i gyffwrdd â nhw, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ymateb cryno gennych chi ynglŷn â'r pedwar maes.
Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod eiriolaeth i blant a phobl ifanc mewn gofal, neu sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal, yn cael ei gynnwys. Amlygodd ymchwil Tros Gynnal Plant 2019 bryderon sylweddol ynghylch darparu gwasanaethau ymweliadol eiriolaeth preswyl annibynnol gan ddarparwyr preifat. A gaf i ofyn i chi, felly, yn gyntaf, pa gamau a gymerir i sicrhau bod pob plentyn mewn gofal, does dim ots pwy yw'r darparwr, yn gallu cael gafael ar eiriolaeth annibynnol?
Yn ail, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Heledd, rwy'n croesawu'n fawr iawn y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a lles yn y cynllun hwn. Ond, fel y clywsom ni, gyda 78 y cant o gleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau CAMHS, mae angen i ni wella'r sefyllfa. Rwy'n derbyn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud: bod angen i ni sicrhau nad yw plant yn cyrraedd gwasanaethau CAMHS. Ond i'r rhai hynny sydd eu hangen, mae angen ymateb cynt arnyn nhw. Felly, fe hoffwn i glywed pa nodau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran lleihau rhestrau aros CAMHS.
Yn drydydd, nid oes unrhyw ymrwymiad o ran swyddogaeth darparwyr er elw mewn gofal preswyl i blant a phobl ifanc—mater allweddol a godwyd dro ar ôl tro, fel yr ydych chi a minnau wedi siarad amdano, gan bobl ifanc â phrofiad o ofal, ac yn un y gwn sydd â rhan bwysig wrth ariannu gwasanaethau plant. A gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi bod y cynnig hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth?
Ac yn olaf—
Rydych chi wedi gofyn tri chwestiwn ac rydych chi wedi mynd ymhell tros amser, felly rydym ni am ei gadael hi ar y tri yna. Dirprwy Weinidog.
Iawn, diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr iawn i chi, Jane, am groesawu'r cynllun hwn gyda'r fath frwdfrydedd. Mae eiriolaeth i blant mewn gofal, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol. Fel y gwyddoch chi, un o'n prif amcanion ni yn y Llywodraeth yw gwella sefyllfa plant mewn gofal, ac fe geir cysylltiad gwirioneddol rhwng hynny â'ch trydydd cwestiwn chi hefyd, ynglŷn â darparwyr nid-er-elw, oherwydd rydym ni'n dymuno trawsnewid y system ofal. Rydym ni'n awyddus i gadw cymaint o blant â phosibl yn eu cartrefi eu hunain a gyda'u teuluoedd eu hunain. Rydym ni'n awyddus iddyn nhw aros gartref gyda'u teuluoedd, os yw hynny'n bosibl; os nad yw'n bosibl, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael gofal, rydym ni'n awyddus iddyn nhw gael eu lleoli ar bwys eu teuluoedd ac nid ydym ni'n dymuno i blant, os yw'n bosibl o gwbl i osgoi hynny, gael eu lletya ymhell o'u cynefin.
Mater o eiriolaeth yw hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae hi'n bwysig iawn fod plant yn gallu cael dweud eu dweud. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried sicrhau y gall gwasanaethau eiriolaeth preswyl annibynnol mewn gwasanaethau preswyl annibynnol hefyd fod ag eiriolaeth i'r plant yn y gwasanaethau hynny.
O ran y darparwyr er elw, mae hyn yn rhywbeth sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi cael ei godi dro ar ôl tro gan bobl ifanc â phrofiad o ofal sy'n ddig oherwydd bod yr anffawd yn eu bywydau wedi arwain at elw i bobl eraill. Felly, mae hon yn un o flaenoriaethau pennaf y Llywodraeth, yn hollol, ond rhan o drawsnewid y system ofal gyfan yw hyn fel bydd llai o blant yn mynd i ofal a bod yn rhaid i'r plant sy'n gorfod dod i ofal wedyn—y bydd cymaint o blant â phosibl y mae'n rhaid eu rhoi mewn gofal yn cael eu rhoi lle nad oes elw yn y sefydliadau sy'n darparu ar eu cyfer nhw. Felly, rwy'n gallu eich sicrhau chi'n llwyr fod honno'n un o'n blaenoriaethau pennaf ni.
O ran iechyd meddwl a'r mater ynglŷn â CAMHS, rwy'n dweud unwaith eto fy mod i o'r farn ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ni ar geisio lleihau nifer y ceisiadau i CAMHS, a fydd wedyn yn cwtogi'r rhestrau aros, pe gallem ni drin rhagor o blant yn y gymuned.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno datganiad pwysig heddiw—un y mae gennyf i, wrth gwrs, ddiddordeb mawr ynddo, sydd â'r tri phlentyn gorau yng Nghymru, yr wyf i'n dad iddyn nhw. Fel roeddech chi'n sôn, Dirprwy Weinidog, yn eich datganiad, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno'r gorau i blant Cymru. Fe fyddai Aelodau ar draws y Siambr yn sicr yn cytuno ein bod ni i gyd yn dymuno'r hyn sydd orau i blant Cymru. Rwy'n pryderu, serch hynny, ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y rhagdybiaeth mai rhieni sy'n gwybod orau beth sy'n llesol i'w plant nhw, a rhieni sy'n gyfrifol yn y pen draw am eu plant, a rhieni yw'r patrymau gorau o ymddygiad i'w plant hefyd. A gwaith y Llywodraeth, yn fy marn i, yw—. Ac rwyf i o'r farn y byddem ni i gyd yn cytuno y dylai'r Llywodraeth fod yno i gefnogi rhieni i ymgymryd â'r cyfrifoldeb mawr hwn wrth fagu eu plant. Yng ngoleuni hyn, roeddwn i'n bryderus o nodi yn eich datganiad chi heddiw nad oedd unrhyw sôn am y geiriau 'rhiant', 'rhieni', 'mam' neu 'dad' o gwbl. Nid wyf i'n siŵr ai diofalwch oedd hynny neu hwnnw yw'r llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei gerdded, oherwydd mae hi'n hanfodol bod cymorth addas yn cael ei roi i rieni a bod swyddogaeth y rhieni yn cael ei hyrwyddo gan y Llywodraeth a bod llais y rhieni yn flaenllaw ym marn y Llywodraeth yma—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn chi nawr.
—er mwyn i chi glywed llais y rhieni. Felly—. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ofynnaf i gwestiwn. Sut ydych chi am sicrhau, yn eich cynllun, na chaiff swyddogaeth y rhieni ei diystyru, a pha gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod llais y rhieni yn flaenllaw yn eich cynlluniau chi?
Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, am y pwynt pwysig yna, ac, yn sicr, rydym ni'n dymuno rhoi cymorth i rieni. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Jane Dodds, rydym ni'n dymuno symud at system sy'n estyn cymaint o gefnogaeth ag y gallwn ni i rieni ar gyfer ffyniant plant ac iddyn nhw allu aros gyda'u rhieni, a dyna pam rydym ni wedi buddsoddi llawer mewn dosbarthiadau rhianta, pam rydym ni wedi rhoi cymorth i rieni drwy 'Magu plant. Rhowch amser iddo', lle'r ydym ni'n rhoi awgrymiadau ynghylch sut y gallwch chi reoli'r amseroedd anodd a brofwch wrth fod yn rhieni—sut rydych chi'n ymdrin â phlant dwy flwydd oed a'r stranciau a'r plant sy'n gwrthod bwyta, a'r holl bethau y mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod drwyddyn nhw, pryd, o fy rhan fy hunan yn bersonol, roeddwn i'n falch iawn o gael unrhyw help neu gyngor oddi wrth y Llywodraeth neu gan unrhyw un, mewn gwirionedd. Rwyf i o'r farn mai dyna'r ffordd iawn o edrych ar hyn, sef bod y rhan fwyaf o rieni yn chwilio am gyngor a chymorth mewn gwirionedd, ac nid wyf i'n credu y dylem ni ystyried hyn fel Llywodraeth yn dod i mewn ac yn dwyn y gwaith oddi ar y rhieni. Mae'r rhain ar gael i estyn cyngor, ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl yn falch dros ben o gael gair o gyngor ac arweiniad, gan ymwelwyr iechyd, gan feddygon teulu, gan athrawon, o'r sectorau gwirfoddol i gyd, oddi wrth yr holl grwpiau sydd ar gael i helpu a chefnogi teuluoedd. Felly, nid wyf i'n credu y dylem ni fyth ystyried bod y Llywodraeth yn ceisio disodli gwaith y rhieni. Rydym ni ar gael i helpu rhieni, ac rwy'n credu bod y swm o arian a'r ymrwymiad y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael yn arwydd o'n hymrwymiad ni i'r rhieni yn ogystal ag i'r plant.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.