5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:36, 1 Mawrth 2022

Diolch am y datganiad hynod o bwysig hwn. Hoffwn ddatgan fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf, ac mi oeddwn i'n rhan o'r gweithgor a edrychodd ar hyn. Roeddwn i'n falch o glywed Sioned yn sôn am Elyn Stephens. Mi oedd hi'n ddewr aruthrol, fel merch ifanc, yn dod i mewn i gyngor ac yn dechrau sôn am fislif. Byddech chi wedi gweld y sioc ar wynebau'r cynghorwyr ac roedden nhw'n teimlo'n anghyfforddus ofnadwy, ond os ydych chi'n newid gair 'mislif' am 'fynd i'r tŷ bach' a sôn am bapur tŷ bach, sef yn union beth wnaeth Elyn, mae pobl yn dechrau gwrando. Dwi'n meddwl mai dyna ydy'r peth fan hyn—os oedden ni'n sôn am bapur tŷ bach, mae o'n no-brainer, ond gan ei fod o ddim yn effeithio ar bob un person ar y funud, dydyn ni ddim yn cael yr un math o drafodaeth. Byddwn i'n meddwl, petasem ni'n cael trafodaeth am bapur tŷ bach, byddai'r Siambr yma'n llawn, neu ar Zoom heddiw, oherwydd mae hwn yn fater sydd o bwys i ddynion a merched—pob un ohonom ni—a dyna sy'n bwysig o ran cael y drafodaeth hon.

Mae'r ochr o ran addysg yn allweddol bwysig, ac nid dim ond i ferched, fel eu bod nhw'n deall beth sy'n digwydd i'w cyrff, ond i'r dynion hynny sy'n mynd i fod yn ffrindiau ac yn gyflogwyr yn y dyfodol, oherwydd, yn aml, dyna lle rydyn ni'n gallu bod fwyaf cefnogol. Yn fy swydd flaenorol, mi wnes i gael hyfforddiant o ran y menopos. Mi oedd o'n bolisi gan Amgueddfa Cymru i godi ymwybyddiaeth i bawb o ran y menopos, a bod gennym ni hyrwyddwyr menopos. Roedd o'n ddefnyddiol i fi—dwi heb gyrraedd yr oed yna eto, ond mi wnes i ddysgu gymaint o ran hynny, a hefyd o ran sut i reoli pobl sydd yn mynd drwy'r menopos. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni yn agored am bethau fel hyn.

Y prif beth dwi'n meddwl sy'n her inni i gyd ydy'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi o ran yr anghysondeb ar y funud—yr anghysondeb o ran gallu cael gafael ar y cynnyrch yn yr ysgolion, yr hawl hyd yn oed i fynd i'r tŷ bach y mae pobl yn gorfod gofyn amdano fo rŵan, a'r syniad yna bod yna ryw bŵer gan athrawon i'ch atal chi rhag mynd i'r tŷ bach rhag ofn i rywun wneud rhywbeth. Wel, roedd pobl yn gwneud papur tŷ bach yn wlyb ac yn eu taflu nhw ar y to ac ati pan oeddwn i yn yr ysgol. Mae o'n hollol hurt. Er bod y cynnyrch ar gael rŵan, rydym ni'n dal yn clywed straeon am ferched yn gwaedu drwy eu dillad gan fod yr hawl yna wedi cael ei wrthod iddyn nhw fynd i'r tŷ bach ar adegau. Mae yna anghysondeb. Rydyn ni angen bod yn trafod hyn fel ei fod o ddim yn broblem yn y Gymru fodern.

Mae hwn yn hawl sylfaenol, mae o'n fater o urddas, mae yna gyfrifoldeb arnom ni i gyd oll fan hyn i barhau i siarad amdano fo. Dwi'n falch eithriadol o Elyn Stephens, pan gododd hi hyn, oherwydd mi gafodd hi ei herio gan ddweud ei bod hi ddim yn broblem a bod yna ddigon o gynnyrch ar gael. Dydy hynny ddim yn wir. Mae yna fwy i'w wneud, a dwi'n falch eithriadol o weld y cynllun hwn ac i gydweithio ar draws y pleidiau i sicrhau mater o urddas ar rywbeth sy'n gyfan gwbl naturiol.