Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Hoffwn innau ategu eich teyrnged i Aled Roberts. Mi fynychais y British-Irish Parliamentary Assembly gyda Sam Kurtz dros y dyddiau diwethaf yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd yna cymaint o deyrngedau twymgalon ar draws y ddwy ynys hyn—pobl oedd wedi gweld Aled pan oedd yn rhoi tystiolaeth ger eu bron nhw yn 2019 ac a oedd yn edmygu'n aruthrol yr hyn dŷn ni'n ei wneud yng Nghymru. Ond, yn benodol, mi oedd o ei hun wedi creu argraff ryfeddol ac wedi ysgogi Llywodraethau eraill i ystyried sut y medran nhw weithredu a sut y medran nhw efelychu rhai o'r pethau gwych yr oedd o ar flaen y gad yn eu harwain yn y fan yna, ac mi oedd hi'n braf gweld hynny yn cael ei gydnabod yno.
O ran yr adroddiad yma, mae'n ddifyr, onid ydy hi, edrych yn ôl ar 2020-21? Mae rhai o'r heriau yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn, ond yn sicr dwi'n meddwl mai'r adroddiad nesaf fydd yn rhoi'r trosolwg i ni o ran effaith y pandemig yn wirioneddol, felly, o ran y Gymraeg. Yn sicr, dwi'n ffan fawr o infographics, ac mae yna straeon gwych i'w dweud yn yr infographics sy'n cyd-fynd â'r cynllun, o ran y niferoedd yn ymwneud â gwersi ar-lein o ran dysgu Cymraeg—dŷn ni'n gwybod am y niferoedd sydd eisiau trio ar Duolingo ac ati, ac mae'r awydd yna gan rai pobl, efo mwy o amser gartref ac ati, i ymwneud â'r iaith i'w groesawu.
Ond y pegwn arall ydy'r heriau hynny efo addysgwyr ifanc. Dwi'n gwybod yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli, Rhondda Cynon Taf, lle mae'n her aruthrol o ran y targedau i gyrraedd y filiwn o siaradwyr beth bynnag, ein bod ni'n gweld effaith y pandemig yn barod, efo'r rhieni yn gwneud y dewis anodd i gymryd eu plant allan o addysg Gymraeg oherwydd eu bod nhw'n gweld eu bod nhw gormod ar ei hôl hi, eu bod nhw'n poeni am eu datblygiad nhw ac ati.
Ar hyn o bryd, dydy pob cyngor ddim yn mesur yn gyson pam fod rhywun yn gadael addysg Gymraeg a beth ydy'r rhesymau dros hynny. Dŷn ni wedi trafod yn y gorffennol yr angen i ddeall hynny yn well er mwyn gwybod sut dŷn ni'n gallu ymyrryd, a dwi'n meddwl mai un o'r heriau mawr i ni, o ran cael targed uchelgeisiol, ydy deall pam, os ydych chi wedi gwneud y dewis yna o ran addysg Gymraeg, nad ydych chi'n parhau gyda'r trywydd hwnnw. Mae'n rhaid inni ddeall hynny, dwi'n meddwl.
Yn sicr, mae o i gyd yn eithaf anecdotaidd ar hyn o bryd, ond mae yna nifer o anghysondebau eraill dwi hefyd wedi'u trafod efo chi yn y gorffennol o ran mynediad at addysg Gymraeg. Mae'n un peth cael hawl, ond mae'r syniad o fynediad yn eithriadol o bwysig. Wedyn, os nad ydych chi hefyd yn gallu cael mynediad i glybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol ac ati, os nad ydy'r ysgol Gymraeg honno o fewn pellter cerdded ac os nad oes gan eich rhieni chi neu ofalwyr car i fynd â chi i'r ysgol, yna mae yna heriau gwirioneddol. Dyna un o'r pethau efo'r model unfed ganrif ar hugain, efo campws. Ydy, mae yna fuddsoddiad aruthrol, ond mae'n dal i fod problem enfawr o ran cael y cysondeb ar y mynediad hwnnw. Mae'r un peth yn wir o ran trochi ac anghenion dysgu ychwanegol. Dydy o ddim yn gydradd ar y funud. Ac ydy, dwi'n cytuno efo chi; efallai buaswn ni'n gallu ffurfio parti llefaru o ran 'Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb'. Mae hwnna'n rhywbeth roedd lot o bobl yn nodio arno fo—Eisteddfod T ac Amgen ac ati. Ond mae o'n rhywbeth dŷn ni angen bod yn ei ddweud, ac yn dweud yn Saesneg, ond yn ei olygu hefyd. Mae'n un peth bod hi'n perthyn i bawb, ond mae angen bod yna hawl gwirioneddol gan bawb i ymwneud â'r iaith yn y ffordd maen nhw'n dewis gwneud.
Dwi'n ategu pwyntiau Sam Kurtz o ran y cyhoeddiad a gafwyd gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r ddau gymhwyster gwahanol—croesawu'n fawr. Mae yna gymaint o bethau yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fydd yn mynd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr, ond mae'r syniad o gontinwwm mor eithriadol o bwysig, ac un o'r pethau byddwn i yn hoffi gwybod o ran—. Dwi'n rhannu'r pryderon o ran yr ailfrandio yma. Roeddwn i yn croesawu gweld bod Cymwysterau Cymru wedi rhoi yn bendant mai ar gyfer ysgolion Saesneg oedd y cymhwyster arall, ond dal i fod—mae yna ddau gymhwyster yn mynd i fodoli. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bydd y newidiadau a grybwyllwyd yn y cyhoeddiad diweddar ynghylch TGAU Cymraeg yn debygol o helpu i gyflawni'r nod o greu un continwwm dysgu ac asesu? Os penderfynir ar ddau arholiad, mae'n rhaid dangos y gorgyffwrdd rhwng y naill a'r llall, a chael gwared ar y nenfwd cyrhaeddiad a chaniatáu i ddisgyblion gyrraedd lefel cyrhaeddiad uwch beth bynnag yw cyd-destun ieithyddol yr ysgol.
Her arall aruthrol yw o ran recriwtio at y gweithlu addysg. Mi welsom ni Mudiad Ysgolion Meithrin yn sôn, er gwaethaf y llwyddiannau maen nhw'n eu cael, fod yna heriau aruthrol o ran cael digon o staff, ac mae hyn yn rhywbeth o ran anghenion dysgu ychwanegol ac ati. Felly, beth yn union yw'r uchelgais newydd o ran gweithlu addysg? Faint yn ychwanegol o athrawon sydd angen ar gyfer y sector Cymraeg, ac erbyn pryd, i gwrdd â thargedau Cymraeg 2050? Pam aros tan y Ddeddf addysg Gymraeg cyn pennu uchelgais, pan yw cynllun 10 mlynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd?