Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch i Heledd Fychan am ystod o gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i allu eu hateb nhw'r gorau y gallaf i. O ran yr her mae COVID wedi cyflwyno inni, mae hi'n iawn i ddweud bod hynny wedi golygu bod rhai profiadau wedi bod yn gadarnhaol—hynny yw, pobl yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf—ond hefyd sialensiau o ran rhai yn penderfynu dwyn plant allan o addysg Gymraeg. Mae'r darlun yn eithaf anghyson, buaswn i'n dweud, ar draws Cymru. Mae enghreifftiau cadarnhaol hefyd, ynghyd â'r enghreifftiau efallai oedd yn llai cadarnhaol wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw.
Mae'r gwaith rŷm ni wedi buddsoddi ynddo fe o ran aildrochi a'r gwaith mae RhAG yn ei wneud gyda ni i gyd yn mynd i'r afael â sut gallwn ni sicrhau nad yw hynny'n digwydd a bod rhieni yn gallu parhau yn eu hymroddiad ac ymrwymiad i addysg Gymraeg i'w plant. Dwi'n derbyn y pwynt rŷch chi'n ei wneud o ran casglu data ar benderfyniadau. Mae hynny'n rhan o'r gwaith rŷm ni'n edrych arno fe ar hyn o bryd.
O ran y cwestiwn ehangach o fynediad hafal i addysg Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r nod hwnnw. Dyna bwrpas y Bil addysg cyfrwng Gymraeg sydd gyda ni ar y gweill. Byddwn ni'n gweithio ar y cyd gyda Plaid Cymru ar hynny. Mae'r elfen ddaearyddol yn bwysig i hynny. Mae'r rhifau yn bwysig, o ran craffu, o ran cyrraedd y nod, ond mae elfen ddaearyddol bwysig i hynny hefyd o ran lle mae'r ddarpariaeth a lle mae'r cymunedau sydd angen yr ysgolion. Mae trafnidiaeth yn elfen o hynny hefyd.
Jest ar y pwynt olaf, o ran y cymhwyster, mae'n hawdd dweud—os caf i ei ddodi fe ffordd hyn—ein bod ni eisiau cael gwared ar ail iaith a bod eisiau un cymhwyster, ond beth mae hynny yn ei olygu ar lawr gwlad? Rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Wel, efallai eich bod chi'n cael cymhwyster ar y cyd i bawb, a wedyn elfen wahanol sy'n cyfateb i lefel o sgil wahanol.' Ar ddiwedd y dydd, mae gyda chi ddau gymhwyster yn y byd hwnnw hefyd. Felly, y peth pwysig, rwy'n credu, yw'r pwynt wnaethoch chi ei wneud, bod nad oes nenfwd, os hoffech chi, ar eich gallu chi i allu dysgu Cymraeg. Mae e'n rhan o gynllun cyfredol Cymhwysterau Cymru i gael cymhwyster ychwanegol hefyd mewn ysgolion Saesneg lle mae'n bosib mynd tu hwnt i'r TGAU, os hoffwch chi, yn yr ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol inni edrych arno fe er mwyn sicrhau bod dilyniant i bobl sydd yn gwneud y TGAU newydd hwnnw.
O ran y rhifau, dŷch chi'n dweud, 'Pam aros tan y Bil?' Yr ateb positif yw: dŷn ni ddim yn aros tan y Bil. Mae'r gwaith wedi bod yn mynd yn ei flaen gyda rhanddeiliaid ar edrych ar gynllun drafft ar hyn o bryd. Byddwn ni, wrth gwrs, yn trafod hwnnw ymhellach gyda chi. Mae eisiau bod yn greadigol, rwy'n credu, o ran sut rŷn ni'n denu pobl i'r proffesiwn, eu cynnal nhw yn y proffesiwn, beth yw'r cymhellion i wneud hynny, beth yw'r broses o ddarparu cefnogaeth yn ddigon cynnar yn y siwrnai ysgol bod pobl ifanc yn meddwl am ddysgu drwy'r Gymraeg fel gyrfa gyffrous i'w dilyn. Felly, mae lot o bethau creadigol iawn gallwn ni eu gwneud, ond mae e'n heriol. Dyw hi ddim yn bosib i orfodi pobl i wneud y dewis yna. Roedd gyda ni rhyw 5,000, dwi'n credu, mwy neu lai, o athrawon oedd yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg; roedd angen rhyw 5,500 y flwyddyn hon, felly rŷn ni yn brin o'r targed, ond mae'n sefyllfa heriol.
Mi wnaethoch chi sôn am y cynllun 10 mlynedd. Mae cynlluniau strategol 10 mlynedd gyda ni; nawr mae angen cynllun recriwtio 10 mlynedd sy'n ateb i hynny, a dyna'r gwaith rŷn ni'n edrych ymlaen at ei wneud ar y cyd gyda chi.