Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch o galon i Alun Davies am y cwestiynau hynny, ac wrth gwrs am ei waith sylfaenol e'n datgan y polisi yn y ei gyfnod ef fel Gweinidog y Gymraeg. Rwy'n cytuno'n llwyr gydag ef pa mor bwysig yw nid jest, fel petai, gallu, ond y cwestiwn o ddefnydd hefyd. Mae'r arolygon blynyddol rŷn ni'n edrych arnyn nhw yn dangos bod y ffigurau o bobl sydd yn datgan eu bod yn defnyddio'r Gymraeg llawer yn uwch na'r rheini sydd yn y cyfrifiad, ond y cyfrifiad, fel bydd e'n gwybod, yw'r maen prawf ar gyfer y polisi ers i Lywodraeth Cymru etifeddu hynny yn ôl yn 2012. Felly, mae'r cwestiwn o ddefnydd y Gymraeg yn gwbl greiddiol i bopeth rwyf eisiau ei wneud fel Gweinidog.
O ran hybu'r Gymraeg, rôn i'n sôn bore yma am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud mewn addysg Gymraeg, ond hefyd fe wnes i sôn am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud yng ngweithgaredd yr Urdd, yn eu helpu nhw i greu rhwydwaith ehangach o swyddogion datblygu a phrentisiaethau yn ein cymunedau efallai mwy difreintiedig drwy'r Gymraeg, felly, pethau sydd yn cynorthwyo normaleiddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol tu allan i'r dosbarth, ac mae hynny'n gwbl elfennol i hwn hefyd.
O ran y cwestiwn ehangach yma o hybu, buaswn i'n dweud bod hybu'n derm cyffredinol, ond mae amryw o bethau'n digwydd o fewn hynny. Felly, mae rhan ohono fe'n gyngor i fusnes, rhan ohono fe'n creu gofodau uniaith, grymuso cymunedau, fel rôn i'n sôn amdano, drwy waith co-operatives ac ati, y dechnoleg—fe ddof i nôl at hwnna mewn eiliad—a hefyd y defnydd o wyddor ymddygiadol. Hynny yw, dyw pobl sy'n gallu'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r Gymraeg—pam? Beth yw'r pethau gallwn ni eu gwneud i'w hannog nhw i wneud hynny? Strategaeth drosglwyddo, hyfforddi arweinyddion, outreach gyda chymunedau ffoaduriaid i ddysgu'r Gymraeg—mae pob un o'r pethau yma yn elfennau o'r broses honno o hybu. Ond, wrth edrych ar yr elfennau unigol, mae'n amlygu bod y cyfrifoldeb ar amryw o'r pethau yna'n perthyn i amryw o gyrff ac ati. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran tryloywdeb a bod pobl yn gweld eu cyfrifoldeb, ein bod ni'n edrych ar yr elfennau yna'n unigol.
Mae'r cwestiwn olaf yn gwestiwn pwysig a diddorol o ran beth rŷn ni'n ei wneud ym maes technoleg, ac rwy'n credu, ar ôl y ddwy flynedd rŷn ni wedi'u cael, rŷn ni'n gweld yn glir beth yw'r sialensau o ran defnyddio Microsoft Teams, o ran defnyddio Zoom ac ati. Ond gallaf i roi, gobeithio, rywfaint o gysur iddo fe i ddweud ein bod ni'n gweithio ar y cyd â Microsoft er mwyn sicrhau bod y gallu i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd yn Teams. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser, felly hir yw pob aros, efallai, gallwn ni ei ddweud. Ond rŷn ni yn gwybod nawr bydd swyddogaeth cyfieithu ar y pryd sylfaenol yn cael ei rhyddhau y mis hwn, ym mis Mawrth, neu fis Ebrill, a bydd Microsoft yn ychwanegu at y swyddogaethau hynny dros amser. Ac rŷn ni hefyd wedi bod yn trafod gydag amryw o gwmnïau technoleg eraill i weld beth mwy gallan nhw ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei lle haeddiannol yn eu darpariaeth nhw. Mae'n sicr bod cyfle pwysig inni'n fanna hefyd.