Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 1 Mawrth 2022.
Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddweud gair omboutu Aled Roberts. Llywydd, mi fyddwch chi a sawl Aelod fan hyn yn cofio ei gyfraniadau fe fan hyn yn ein Siambr ni, a dwi'n cofio fe'n siarad yn glir ac yn dod â phobl at ei gilydd, ac un o'r pethau roedd Aled yn gallu ei wneud oedd uno pobl, creu syniad a dod â phobl at ei gilydd wrth wneud hynny. Dwi'n gwybod, pan oeddwn i'n dechrau fel Gweinidog y Gymraeg, Aled oedd un o’r bobl gyntaf rôn i'n mynd atynt am gyngor, a dwi'n gwybod y bydd pob un ohonom ni reit ar draws y Siambr eisiau estyn ein cydymdeimladau at y teulu, a chydnabod y golled i ni fel cenedl, a chydnabod y cyfraniad roedd Aled wedi'i wneud.
Dwi'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, a dwi'n croesawu'r dôn dŷch chi wedi’i mabwysiadu ers ichi gael eich penodi i’r swydd yma. Dwi'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig. Pan wnes i osod y targed o filiwn o siaradwyr, rôn i'n glir yn fy meddwl i: miliwn o bobl a all ddefnyddio'r Gymraeg, miliwn o bobl a all siarad a mwynhau'r Gymraeg, nid jest miliwn o bobl a all ysgrifennu arholiad rhyw brynhawn Mercher rhyw ben, ac anghofio fe yn syth wedi hynny—miliwn o bobl a all fwynhau ein hiaith ni a'n diwylliant ni, ac mae hynny yn hynod o bwysig.
Y cwestiwn liciwn i osod ichi y prynhawn yma, Gweinidog, yw hyn, omboutu hybu. Pan ôn i'n dysgu Cymraeg, roedd cyngherddau Blaendyffryn—bydd y Llywydd yn cofio’r rhain hefyd—yn gwneud mwy i fi i hybu’r Gymraeg, mwynhau’r Gymraeg, nag unrhyw wersi wnes i. Wnes i ddim cael gwersi yn yr ysgol, ond mater gwahanol ydy hynny.
Ond mae’n rhaid creu’r cyfle lle gall pobl fwynhau’r Gymraeg, a lle dyw'r Gymraeg ddim yn iaith y dosbarth, ond iaith fyw ym mywydau pobl. A dwi eisiau ystyried, Gweinidog, sut rydyn ni'n gallu gwneud hynny. Dwi'n becso ambell waith ein bod ni wedi gwastraffu gormod o amser, gormod o egni, gormod o adnoddau ar bethau fel safonau oedd yn creu biwrocratiaeth, yn lle hybu'r ffaith ein bod ni'n gallu mwynhau'r iaith, a dwi'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
A’r peth olaf liciwn i ofyn amdano yw lle’r Gymraeg yn y byd technegol newydd. Pan wy'n siarad gyda Alexa gartref, dwi'n siarad yn Saesneg gyda hi—neu gyda fe, neu beth bynnag yw Alexa—ac os ydw i'n defnyddio'r Gymraeg, wrth gwrs, fydd Alexa ddim yn deall y Gymraeg, a dŷn ni i gyd yn gwybod, fel mae technoleg yn datblygu, bod y syniad o reoli technoleg trwy ein llais ni yn mynd i fod yn fwy a mwy pwysig. Felly, Gweinidog, yn y weledigaeth mae'n amlwg sydd gyda chi yn y ffordd dŷch chi wedi bod yn gweithredu, ble mae'r Gymraeg, ble mae dyfodol y Gymraeg, yn y byd technegol, a sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod gyda ni'r strwythur mewn lle yn y Llywodraeth i hybu'r Gymraeg ac i estyn mas o'r Gymru bresennol i greu'r Gymru Gymraeg newydd?