Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 2 Mawrth 2022.
Mae Parkrun Cymru a'r ffordd y mae'n gweithredu yng Nghasnewydd yn arwydd arall o ba mor weithgar a brwdfrydig ac egnïol yw'r boblogaeth leol. Ac mae'r ddau parkrun yng Nghasnewydd, un yng Nglan yr Afon ac un yn Nhŷ Tredegar yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, yn ennyn cefnogaeth dda iawn, ac maent yn ei gwneud hi'n bosibl i lawer ddigwydd er mwyn annog ffitrwydd ac iechyd da yng Nghymru, er enghraifft drwy'r rhaglen Couch to 5K a'r cysylltiadau â meddygfeydd lleol i sicrhau bod pobl yn gwybod mai un ffordd ymlaen tuag at iechyd da yw dilyn yr agenda ataliol honno a chysylltu â'r digwyddiadau parkrun a'r cyfan y maent yn ei alluogi yng Nghasnewydd, yn ein dinas.
Fis Hydref diwethaf, cyflwynais ddatganiad barn ar bwysigrwydd y gweithgaredd hwn, ac roeddwn yn falch iawn ei fod wedi cael cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd ar draws y Senedd. Rwy'n gobeithio eto, Ddirprwy Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a sefydliadau eraill yn parhau i ymrwymo i weithio gyda Parkrun Cymru a digwyddiadau parkrun lleol fel y rhai yng Nghasnewydd i hyrwyddo mentrau iechyd ataliol yn rhagweithiol a deall pwysigrwydd hynny a sut y mae angen inni symud ymlaen fwyfwy i'r sylfaen honno. Ddirprwy Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn gallu dweud wrthym am y trafodaethau yr ydych yn eu cael i wneud hynny.
Wrth gwrs, rydym yn sôn am rai o'r chwaraewyr allweddol, rhai o'r sefydliadau allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghasnewydd, ond mae hyn i gyd yn dibynnu ar chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n rhaid iddynt gysylltu â chwaraeon ar lawr gwlad, a'r llu o glybiau, gyda'r holl wirfoddolwyr sy'n eu gwneud yn bosibl, mewn pêl-droed, mewn rygbi, mewn criced, mewn athletau, sy'n dangos yr angerdd ynghylch chwaraeon yng Nghasnewydd fel dinas. Gwn yn iawn faint o'r sefydliadau hynny, faint o deuluoedd, faint o bobl ifanc, faint o fenywod, lleiafrifoedd ethnig sy'n rhan o'r ymdrech honno i wneud hyn oll yn bosibl.
Ledled Casnewydd, mae County in the Community, cangen elusennol a chymunedol Clwb Pêl-droed Casnewydd, yn cyflwyno sesiynau Premier League Kicks yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig y ddinas. Maent yn defnyddio chwaraeon i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynyddu cyfranogiad menywod a darparu cyfleoedd cynhwysol i'r rhai sy'n byw gydag anabledd. Yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd, maent wedi ymgysylltu â dros 100 o bobl ifanc mewn sesiynau am ddim ac wedi cael eu cefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert. Yn debyg i Glwb Criced Casnewydd, yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn darparu'r cyfleoedd hynny, gan barhau drwy gydol y flwyddyn. Ond rwy'n gwybod bod problemau wedi bod—problemau gyda diffyg goleuadau a chyfleusterau glân.
Ac mae'r prosiect y mae County in the Community yn ei ddatblygu yn Ringland wedi dangos i mi, hyd yn oed wrth i'r broses o adfywio ein cymunedau fynd rhagddi, ei bod weithiau'n ymddangos nad yw cyfleusterau chwaraeon yn flaenllaw yn hynny o beth, pan fo gwir angen iddynt fod. Ddirprwy Weinidog, gwn fod gennym brosiectau yng Nghasnewydd i adeiladu ar ein hanes chwaraeon i gysylltu â'r ganolfan iechyd a lles newydd yn Ringland, Parc a Dwyrain Casnewydd, cyfleuster a fyddai'n cynnwys meddygfa, gwasanaethau deintyddol, cyfleusterau i deuluoedd a therapi, fferylliaeth, gwasanaethau bydwreigiaeth, nyrsys cymunedol a gofal cymdeithasol i oedolion. Yn rhan o'r datblygiad hwnnw, dylem fanteisio ar y cyfle i wella cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal, gan wneud cysylltiadau hollbwysig ag iechyd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, Ddirprwy Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi, gyda'r Gweinidog iechyd, y bwrdd iechyd a chyngor y ddinas, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill, sicrhau ei fod yn cael ei archwilio.
Yn olaf gennyf fi heno, hoffwn dynnu sylw at hanner marathon Casnewydd, sy'n cael ei gynnal ddydd Sul, ac unwaith eto mae'n gwneud llawer i roi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar flaen yr hyn sy'n digwydd yn lleol ac ym meddyliau pobl leol. Mae wedi'i drefnu, wrth gwrs, gan Ofal Hosbis Dewi Sant, sy'n sefydliad hynod bwysig yng Nghasnewydd—yn gwneud cymaint o waith da i deuluoedd lleol gyda gofal diwedd oes, a thrwy'r hanner marathon, mae'n codi llawer iawn o arian hanfodol ac yn galluogi rhedwyr i godi arian ar gyfer llu o elusennau hanfodol eraill ac yn amlwg, mae'n cael llawer o bobl i ddod yn fwy egnïol a heini yng Nghasnewydd a thu hwnt.
Y llynedd, nid oedd modd cynnal y ras ar ei ffurf arferol ac roedd yn rhithwir oherwydd COVID-19, ond ddydd Sul, bydd cymaint o redwyr yn cymryd rhan, gan fy nghynnwys i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Mae'r digwyddiad wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd—mae'n fwy ac yn well o un flwyddyn i'r llall, a bydd yn parhau i ddatblygu. Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod ychydig yn hwyr i gofrestru erbyn hyn, ond rwy'n siŵr y byddai'r trefnwyr yn falch iawn o'ch clywed yn rhoi eich cefnogaeth i'r digwyddiad ddydd Sul. Rwy'n gobeithio bod yr hyn y gallais ei amlinellu mewn amser cyfyngedig yn rhoi blas o rywfaint o'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a pha mor frwd ac angerddol yw Casnewydd ar lawr gwlad ac ar y lefel broffesiynol ynglŷn â chymryd rhan lawn mewn chwaraeon yng Nghymru a sicrhau bod hynny'n datblygu'n gryfach byth wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr.