Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 2 Mawrth 2022.
Rhaid imi ychwanegu hefyd fod Casnewydd wedi bod yn ganolfan hyfforddi i athletwyr rhagorol: y Paralympiaid Jordan Howe, Rhys Jones a James Ledger, i gyd wedi'u hyfforddi gan Christian Malcolm yn y ddinas; a llawer o feicwyr sydd wedi hyfforddi yn felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, gan gynnwys James Ball, enillydd medal arian Baralympaidd. Ac yn y fan hon, hoffwn ddymuno pob lwc i'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad sydd i ddod yn Birmingham, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cystadlu, ac yn dod â medalau yn ôl gyda hwy, gobeithio.
Ond rhaid inni geisio cefnogi a galluogi'r genhedlaeth nesaf yn awr, a'n hymrwymiad yw buddsoddi mewn cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli'n barod i wella sylfaen ein chwaraeon cymunedol, a dyna pam, mor ddiweddar â'r mis diwethaf, y cyhoeddais £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf pellach eleni i gefnogi'r ymrwymiad hwn, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad yn 2021-22 i fwy na £13.2 miliwn. Mae rhai o'r buddsoddiadau hynny wedi'u gwneud yng Nghasnewydd, megis darparu cyfleusterau perfformiad uchel newydd yng Nghlwb Golff Parc, galluogi mynediad i'r anabl yng nghlwb bowls Beechwood, cyfrannu at alluogi dosbarthiadau bocsio i ferched a menywod yng Nghlwb Bocsio St Michael, ac uwchraddio'r goleuadau hyfforddi yng nghlwb rygbi Tŷ-du, i enwi ond ychydig o'r rhain.
Ac fel y nododd John yn ei gyfraniad, mae Clwb Criced Casnewydd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer cyfleusterau newydd, a gwn eu bod wedi cael eu hannog i siarad â Criced Cymru a Chwaraeon Cymru i drafod hyn, a bydd fy swyddogion yn fwy na pharod i wneud y cyflwyniadau hynny os oes angen.
Ond wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio'r cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym eisoes yng Nghasnewydd, ac mae John eto wedi sôn am rai o'r rheini, ond mae gennym y Celtic Manor, a gynhaliodd Gwpan Ryder 2010 ac unwaith eto, nodaf felodrom cenedlaethol Geraint Thomas, sydd, fel y soniodd John, yn cynnal y Bencampwriaeth Beicio Trac Cenedlaethol yr wythnos hon. Heb y cyfleusterau deniadol a hygyrch hyn, ni allwn obeithio cynyddu cyfranogiad ar draws y campau, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a dyma'r allwedd i gefnogi datblygiad ein plant a datblygu mynediad at chwaraeon, megis buddsoddi mewn chwaraeon merched a menywod.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw'r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan groesawu niferoedd mawr o redwyr, gan gynnwys John, fel y soniodd eisoes. Rwy'n clywed eich bod yn mynd i'w redeg eto am y nawfed flwyddyn yn olynol, rwy'n meddwl, John. Felly, mae honno'n dipyn o gamp. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n anelu at amser cymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad neu rywbeth, ond pob lwc i chi ddydd Sul, beth bynnag. Ac mae'r digwyddiadau hyn, wrth gwrs, yn dod â chefnogwyr a gwylwyr i mewn, gan hyrwyddo'r ddinas fel lleoliad chwaraeon gwych, a chyfrannu'n sylweddol at yr economi leol. Yr wythnos hon, mae Casnewydd hefyd yn cynnal cystadleuaeth snwcer agored Cymru, gan ddenu rhai o chwaraewyr gorau'r byd i'r ddinas, yn cynnwys Iulian Boiko, dyn ifanc yn ei arddegau o Wcráin y mae'n rhaid ei ganmol am gystadlu ar yr adeg anodd hon iddo'n bersonol, a Ng On-yee o Hong Kong, y fenyw gyntaf i gystadlu yn y gystadleuaeth.
Drwy gydol y pandemig, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth sylweddol i dimau chwaraeon proffesiynol yng Nghasnewydd—y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd—i'w diogelu rhag effaith lawn cyfyngiadau COVID drwy'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Rydym wedi rhoi cymorth iddynt i wrthbwyso colli incwm gan gefnogwyr a'u galluogi i fod yn gystadleuol yn eu priod gynghreiriau. Ac mae'n dda gweld, wrth gwrs, fel yr amlinellodd John unwaith eto, y camau a gymerwyd gan sefydliadau fel y Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd, a'r gwaith a wnânt i gefnogi eu cymuned.
Felly, gan edrych i'r dyfodol, Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi ymrwymo £24 miliwn o gyllid cyfalaf i Chwaraeon Cymru dros y tair blynedd nesaf ac o'm rhan i, dim ond man cychwyn ein huchelgais yw hynny, a byddwn yn ceisio adeiladu ar y buddsoddiad cychwynnol hwnnw, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ledled Cymru gyfan, ac nid Casnewydd yn unig, gyda llaw. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cyfleusterau ar gyfer ein chwaraeon a'n gweithgareddau corfforol yn hygyrch i bawb os ydym am ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, o'r rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad i'r rhai ar lefel elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon neu i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae'r ystad addysg, drwy ein hysgolion a'n colegau, hefyd yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer ein cyfleusterau chwaraeon. Mae gan ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn flaenorol, ran bwysig i'w chwarae yn darparu cyfleusterau chwaraeon. Mae awdurdod lleol Casnewydd wedi elwa ar fuddsoddiadau o'r fath, sydd wedi eu galluogi i ddatblygu prosiectau sy'n cynnwys cyfleusterau cymunedol a chwaraeon. Rydym wedi darparu buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed sydd newydd ei sefydlu, ysgol arbennig Ysgol Bryn Derw, ac Ysgol Basaleg, y mae ei chyfleusterau i gyd ar gael at ddefnydd ehangach y gymuned. Yn ysgol Is Coed, mae cyllid wedi helpu i ddarparu cae chwaraeon 3G maint llawn dan lifoleuadau i rai dan 18 oed, prif neuadd fawr gyda ffreutur a lle bwyta ar wahân, ac yn Ysgol Basaleg, mae buddsoddiad wedi helpu i ddarparu cae rygbi 3G maint llawn dan lifoleuadau a chae pêl-droed 3G llai o faint i rai dan 16 oed.
Ac wrth gwrs, mae gwerth chwaraeon i iechyd, y gymdeithas a'r economi wedi ei gydnabod yn eang, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon drwy bŵer ataliol chwaraeon. Soniodd John am ddigwyddiadau parkrun yn y cyd-destun hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ar hynny, oherwydd mae pŵer ataliol chwaraeon hefyd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, lle byddem yn cysylltu'n agos â chydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ac yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i sefydliadau a chlybiau chwaraeon gyfrannu a chymryd rhan mewn unrhyw ffordd bosibl i wireddu ymrwymiad mor bwysig yn y rhaglen lywodraethu.
Ond i ddychwelyd at brif elfen y ddadl, yr ymrwymiad i chwaraeon ar lawr gwlad, heb amheuaeth, yw carreg sylfaen ein llwyddiant ehangach fel gwlad ar lwyfan y byd. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang i sicrhau mynediad cyfartal ac i gefnogi ein hathletwyr a'n hyfforddwyr talentog lle bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol ynghylch cyflawni'r amcanion hynny gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn y dyfodol agos. Diolch yn fawr.