1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru? OQ57690
Rwy'n sicr yn cydnabod y cyfle economaidd sylweddol y gall gogledd Cymru ei sicrhau o ynni adnewyddadwy. Rwy'n gweithio gyda Gweinidog yr Economi a chyd-aelodau eraill o'r Cabinet i grynhoi'r manteision o newid ein hynni, gan gynnwys drwy'r strategaeth ynni ranbarthol a fframwaith economaidd gogledd Cymru.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn gweld y cyfleoedd sydd gan ynni adnewyddadwy i'w cynnig i ni yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan. Os ydym yn ddigon uchelgeisiol, gallem weld trawsnewid ein heconomi drwy'r economi werdd sydd yno o'n blaenau. Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy sylweddol yn ymddangos ledled gogledd Cymru ar hyn o bryd, boed yn brosiectau ynni gwynt, solar neu forol. Un o'r pethau sy'n peri pryder i mi, serch hynny, yw nad ydym yn gwireddu'r cyfle a'r potensial llawn y gallem ei gael o'r rheini. Felly, o sicrhau bod ein dociau'n cael eu defnyddio'n briodol ac y gellir creu swyddi yno, boed hynny yng Nghaergybi, Mostyn neu rywle arall ar arfordir gogledd Cymru, a pheidio â cholli'r swyddi hynny i'r dociau yn Lerpwl, efallai, neu rywle arall—. Felly, rwyf am glywed ychydig mwy ynglŷn â sut y bwriadwch sicrhau bod rhai safleoedd penodol yn cael eu defnyddio'n dda, bod prentisiaethau'n cael eu hyrwyddo yng ngogledd Cymru a bod pobl ifanc yn enwedig yn cael cyfleoedd i gael swyddi gwych yn y rhanbarth yn sgil y prosiectau hyn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Sam Rowlands. Ceir cyfleoedd sylweddol i sicrhau'r gwerth cymdeithasol gorau posibl o'n hadnoddau naturiol, gan gynnwys drwy gynhyrchu ynni glân lleol. Ac fel y nodwch yn gywir, nid faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei ddatblygu sy'n creu'r cyfoeth ond datblygu'r holl strwythurau perchnogaeth leol, cadwyni cyflenwi a chyfleoedd cyflogaeth sy'n dod gyda hynny. Felly, rydym wedi cychwyn, wedi ariannu ac wedi cefnogi pedair strategaeth ynni ranbarthol a fydd yn dechrau nodi graddfa'r newid sydd ei angen i gyflawni'r system ynni carbon isel. Mae'r strategaethau i gyd wedi'u cyd-ddatblygu gan y partneriaethau rhanbarthol ac maent yn cynnwys asesiad economaidd o sut i ysgogi'r gwerth cymdeithasol mwyaf o'r buddion adnewyddadwy diamheuol sydd gennym ledled Cymru.
Amcangyfrifir bod y weledigaeth a gyflwynir yn strategaeth ynni gogledd Cymru yn mynd i arwain at 24,400 o swyddi net ychwanegol a chynnydd cysylltiedig yn y gwerth ychwanegol gros o tua £2.4 biliwn yn y cyfnod hyd at 2035, o'i gymharu â busnes fel arfer. Ac mae hynny'n gwbl gysylltiedig â darparu technolegau cynhyrchu trydan adnewyddadwy yn gyflymach a lefelau uwch o effeithlonrwydd ynni i fynd gyda hynny. Mae'n amcangyfrif y bydd dros 1,200 yn fwy o swyddi twf yn gysylltiedig â darparu technolegau gwresogi carbon isel mewn senario o'r fath, yn gysylltiedig â £192 miliwn arall o werth ychwanegol gros.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn ddyletswydd ddiamheuol ar bob un ohonom i weithio tuag at sicrhau ein bod yn pwysleisio perchnogaeth gymunedol, neu ryw gyfran o berchnogaeth gymunedol lle y bo'n bosibl, a pherchnogaeth gymunedol a all hefyd gynnwys perchnogaeth awdurdodau lleol a pherchnogaeth y Llywodraeth lle y bo'n briodol i gynorthwyo cymunedau i gael troedle yn y strwythur perchnogaeth. Ond mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennym y sylfaen sgiliau gywir i ddenu'r swyddi cywir yma, fel nad y swyddi cynnal a chadw ac adnewyddu yn unig sydd gennym, ond y swyddi peirianneg, cynllunio ac adeiladu sy'n dod gyda hwy—y swyddi pen uchaf a'r swyddi rheoli sy'n dod gyda hynny hefyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'n partneriaethau rhanbarthol i sicrhau hynny.
Yn olaf, cwestiwn 8, Tom Giffard.