1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
6. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer? OQ57721
Diolch. Yn ddiweddar, rydym wedi lansio cronfa cymorth rheoli ansawdd aer lleol i helpu awdurdodau i fynd i'r afael â llygredd aer, ac rydym wedi dyrannu dros £350,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae'r grant yn cefnogi gwaith ar lawr gwlad a byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau aer glanach i Gymru.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Mae'n hollbwysig ein bod yn cael ein polisïau i fynd i'r afael â llygredd aer yn iawn, o ystyried yr effaith ar iechyd y cyhoedd, cyflyrau anadlol a chyflyrau iechyd eraill ac wrth gwrs, yr effaith ar ein hamgylchedd. A chredaf fod y problemau hyn yn arbennig o ddifrifol yn ein cymunedau mwy difreintiedig. Felly, gorau po gyntaf y cawn bolisïau ymarferol ar waith sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn. A chredaf mai un enghraifft o hynny yw newid ein fflydoedd tacsis yn gerbydau trydan, neu ddefnyddio tanwydd mwy ecogyfeillgar yn sicr. Ac o fewn yr arian sydd ar gael, Weinidog, ac a ddisgrifiwyd gennych a'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, tybed i ba raddau y ceir asesiad o ba mor barod yw ein hawdurdodau lleol ar gyfer gwneud y gwelliannau ymarferol hyn a gweithio gyda hwy i wneud gwahaniaethau cadarnhaol cyn gynted â phosibl. Oherwydd mae'n broblem sy'n rhaid cael ateb iddi ar frys i'n cymunedau, a pho gyntaf y cawn y gwelliannau ymarferol hyn ar waith, cyntaf oll y bydd iechyd y cyhoedd a'n hamgylchedd yn elwa.
Rydym eisoes yn gweithio ar welliannau ymarferol. Mae'r enghraifft yng Nghasnewydd o deithio am ddim ar fysiau ar gyfer mis Mawrth yn enghraifft berffaith o gynllun ymarferol i dreialu rhywbeth i weld pa effaith y mae'n ei chael, i weld a yw'r manteision yn cyfiawnhau'r gost ai peidio, i weld beth yw'r nifer sy'n manteisio arno, i ddeall beth yw'r rhwystrau, i lywio ein gwaith ymhellach wrth i ni geisio sicrhau newid i ddulliau teithio. Mae enghreifftiau ymarferol pellach yng Nghasnewydd o deithio llesol, gydag uned gyflawni Burns a'r bwrdd annibynnol dan gadeiryddiaeth Simon Gibson i gyflawni cynllun Burns—a gwelsom adroddiad interim bwrdd Burns yn ddiweddar, a chyfarfûm â John Griffiths a'i gydweithiwr o Orllewin Casnewydd yng Nghasnewydd i'w drafod—lle'r ydym yn gweld gwaith sylweddol ar lif o gynlluniau ar gyfer Casnewydd yn awr, a fydd yn arwain at fuddsoddiad mawr iawn i'r ddinas ar gyfer teithio llesol. Felly, credaf fod dwy enghraifft yno o gynlluniau ymarferol sydd eisoes ar y gweill.
Mae John Griffiths hefyd yn sôn am yr hyn y gallwn ei wneud i annog tacsis i newid i gerbydau trydan ac fel y gŵyr, mae gennym gynllun peilot ar hyn o bryd ar gyfer 'rhoi cynnig arni cyn prynu' ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Benfro ac yn sir Ddinbych, i gymell gyrwyr tacsis i roi cynnig ar gerbydau trydan gyda'r bwriad o'u gweld yn eu prynu wedyn. Byddwn yn gwerthuso hynny er mwyn penderfynu ai dyna'r defnydd gorau o'n hadnoddau prin ai peidio, o ystyried y ffordd y mae'r farchnad eisoes yn symud; mae eisoes yn gystadleuol i brynu car trydan yn hytrach na char petrol newydd. A byddwn yn gwerthuso'r prosiectau hynny ac yn edrych ymhellach ar ba gynlluniau ymarferol eraill y gallwn eu gwneud, wrth inni ddatblygu ein cynllun aer glân a chyflwyno deddfwriaeth.