Anghydfod Pensiwn Sefydliadau Addysg Uwch

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:32, 2 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Braint oedd cyfarfod â rhai o’r streicwyr heddiw ar risiau’r Senedd ac roedden nhw'n canmol fy nghyfeillion i Sioned Williams a Mike Hedges am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi iddyn nhw.

Dylai pensiwn teg fod yn hawl sylfaenol i bob gweithiwr yng Nghymru, ac mae’r ffaith eu bod nhw'n torri pensiynau diwedd cyflogaeth gan 35 y cant yn hollol warthus, a hynny wedi'i seilio ar dystiolaeth sydd wedi'i dyddio bellach. Mae’r wybodaeth newydd yn dangos bod y deficit yn y pensiwn wedi torri yn ddifrifol yn ystod y pandemig, ac mae ffigurau cyllideb prifysgolion wedi bod yn iachus iawn, gyda nifer y myfyrwyr sy’n mynd i brifysgolion wedi aros yn gyson a chynyddu. Mae hynny’n dangos safon y gweithwyr sydd gyda ni yn y system addysg uwch.

Dwi'n derbyn yr hyn rŷch chi'n ei ddweud, bod prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill yn annibynnol, ond mae yna ddylanwad gyda chi, Weinidog, a dwi'n gobeithio y byddech yn gwneud mwy na jest dymuno’n dda, ac yn defnyddio eich dylanwad i ysgrifennu at yr is-gangellorion, dangos eich cefnogaeth chi i weithwyr y system addysg uwch a dweud wrth yr is-gangellorion fod yn rhaid iddyn nhw ddod yn ôl at y bwrdd i negodi. Diolch yn fawr.