Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Mawrth 2022.
Wel, roeddwn i eisoes wedi gwneud fy nisgwyliadau’n glir i’r sector. Mae'n bwysig bod y negodiadau sy'n digwydd yn cyrraedd setliad sy'n adlewyrchu cyfraniad a buddiannau'r staff. Mae hynny'n bwysig o ran y gallu i sicrhau darpariaeth addysg uwch, ond hefyd o ran sicrhau ein bod yn gallu denu pobl i mewn—myfyrwyr ac i ddysgu hefyd. Rwyf hefyd wedi esbonio bod angen bod yn dryloyw ac yn atebol o ran y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a'r incwm sy'n dod i mewn i'n prifysgolion ni. Felly, rwyf wir yn gobeithio y bydd hyn yn gallu cyrraedd diweddglo sydd yn adlewyrchu buddiannau’r staff hefyd.