Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 2 Mawrth 2022.
Weinidog, mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i annog mwy o bobl ifanc i ystyried astudio ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd, fel y sonioch chi o'r blaen, i atal y draen dawn y soniwn amdano'n aml. Ni fydd unrhyw swm o arian yn datrys yr argyfwng sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Nid prinder arian sy'n achosi ein rhestrau aros cynyddol ond prinder pobl. Felly, pa gamau a gymerwch i annog mwy o bobl i astudio pynciau STEM? A pha drafodaethau a gawsoch gyda phrifysgolion Cymru ynghylch y camau y gallant eu cymryd i'w gwneud yn haws i fyfyrwyr o Gymru astudio yn y maes hwn?