Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 2 Mawrth 2022.
Wel, fel y dywed yr Aelod, nid yw myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwrsariaeth y GIG, ond gallant gael mynediad at y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae hwnnw'n rhoi cyllid iddynt tuag at gost eu ffioedd byw a dysgu. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r sylwadau, gan gynnwys y rhai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, nad yw'r cyllid bwrsariaeth yn darparu'r un lefel o gyllid â bwrsariaeth gyfatebol y GIG, ac rydym wrthi'n adolygu ac yn asesu ein hopsiynau mewn perthynas ag ariannu hyfforddiant gwaith cymdeithasol. O 2022-23, bydd pob myfyriwr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig sy'n derbyn y fwrsariaeth yn gallu cael benthyciad cyllid myfyrwyr ar gyfradd is, sy'n cau bwlch sydd wedi eu hatal rhag cael y math hwnnw o fenthyciad cyn hyn.