Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 2 Mawrth 2022.
Rwy'n cytuno â'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio o ran recriwtio. Wrth gwrs, mae gennym gynllun cymhelliant i annog athrawon i bynciau fel y rhai y cyfeirir atynt, sydd wedi bod yn heriol o ran recriwtio yn y gorffennol. Ac mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau hynny'n arwain at ganlyniadau buddiol. Rwy'n credu bod cymysgedd o heriau, mewn gwirionedd. Un o'r agweddau ar ddiwygio addysg a allai effeithio ar sut y gallai hyn edrych yn wahanol yn y dyfodol yw rhyngwladoli'r system addysg yn gyffredinol yng Nghymru drwy'r rhaglen Taith, sydd, er bod y ffocws wedi bod ar addysg uwch, hefyd o fudd i addysg bellach, ysgolion hefyd, a gwasanaethau ieuenctid. Felly, rwy'n credu bod cyfle cyffrous iawn yn rhan o hynny i godi proffil pwysigrwydd ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion, ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd, yn ogystal ag addysgu'r Gymraeg, wrth gwrs.