Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn ag argaeledd deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg? OQ57689

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:07, 2 Mawrth 2022

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ymchwilio i'r mater hwn. Dim ond cyhoeddiadau y mae'r Driver and Vehicle Standards Agency yn eu cynhyrchu sy'n berthnasol i'w cynllun iaith. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'r deunydd ymarfer ar gael yn y Gymraeg, ond byddaf i'n parhau i weithio gyda swyddfa'r comisiynydd i geisio datrysiad i hyn.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod yn trio cael datrysiad i hyn drwy'r DVSA a drwy ofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ers rhyw wyth mlynedd, dwi'n meddwl, erbyn hyn. Mae o mor rhwystredig. Yn syml iawn, mae croeso ichi wneud prawf theori'n Gymraeg, ond does yna ddim deunydd ymarfer ar-lein, ffug brofion ac ati, ar gael o gwbl. Dwi'n gwybod am lawer oedd eisiau gwneud prawf theori yn Gymraeg, ond wnaeth ddewis gwneud yn Saesneg oherwydd hyn, a dwi'n gallu deall pam. Dwi'n gwybod hefyd am rai sy'n teimlo eu bod nhw wedi bod dan anfantais wedyn oherwydd nad oedd y prawf yn eu hiaith gyntaf.

Rŵan, mi gafodd Cai Phillips, cyn-Aelod o'r Senedd Ieuenctid, afael ar ffigurau drwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 382 o bobl wedi gwneud prawf gyrru ymarferol yn Gymraeg yn 2018-19, ond dim ond 53 wnaeth y prawf theori yn Gymraeg. Mae'r patrwm yr un fath mewn blynyddoedd eraill hefyd. Ac fel rydyn ni wedi'i glywed, mae'r DVSA yn dweud, 'Dim ni sydd angen gwneud hyn; mater i'r sector breifat ydy o a does yna ddim cystadleuaeth am y Gymraeg.' Ond allwn ni ddim gadael hyn i lawr i rymoedd y farchnad, mae angen ymyrraeth.

Rŵan, mae cyn-Weinidogion, ac fel rydyn ni wedi'i glywed, Comisiynydd y Gymraeg, wedi dweud eu bod nhw'n rhannu fy anfodlonrwydd i, ond plis gawn ni fwy o ymrwymiad na'r ychydig eiriau yna, er mor bositif ydyn nhw, i bwyso ar y DVSA ac yn wir i weithio ar y DVSA—i weithio efo nhw—a pheidio ag ildio rŵan tan mae hyn yn newid, nid yn unig oherwydd ei fod o'n bwysig o ran egwyddor, ond oherwydd yr angen ymarferol am y profion yma?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:09, 2 Mawrth 2022

Wel, mae'r Aelod yn dweud bod hyn yn rhwystredig, mae e'n rhwystredig. Mae'n sefyllfa bryderus iawn, byddwn i'n dweud. Mae pobl yn amlwg yn mynd i edrych ar argaeledd deunydd adolygu Cymraeg pan fyddan nhw'n penderfynu pa ffordd i ddewis gwneud eu prawf. Felly, mae hynny'n risg amlwg, fyddwn i'n dweud, ac mae'n hen bryd i'r DVSA gydnabod eu cyfrifoldebau yn y maes hwn a darparu deunydd yn y Gymraeg hefyd. Felly, does dim diffyg eglurder ynglŷn â beth yw'r gofyniad a beth yw cyfrifoldeb y DVSA yn hyn o beth.

Fel y gwnaeth yr Aelod grybwyll, mae'r mater wedi cael ei drafod sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, fan hyn ac mewn mannau eraill. Dyw agwedd y DVSA ar y mater ddim wedi newid, ac yn sgil hynny mae swyddogion y comisiynydd am drafod hyn gyda Chyngor Llyfrau Cymru i weld a oes opsiynau amgen y gallan nhw ein cynorthwyo ni gyda nhw yn hyn o beth. Bydd swyddfa'r comisiynydd hefyd yn trafod y mater gyda swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy'n awyddus i gefnogi gwaith y comisiynydd yn hyn o beth gan fod ymchwiliad yn digwydd. Felly, byddaf i eisiau gweithio ar y cyd â nhw i weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i annog y corff i wella ei wasanaethau Cymraeg. Byddaf i'n codi'r mater gyda'r dirprwy gomisiynydd pan fyddaf yn ei gweld hi nesaf. Ond, mae'n ddigon clir beth yw cyfrifoldeb y DVSA yn hyn o beth.