Data Biometrig

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:53, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Fe'i cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Sarah Murphy eiliad yn ôl mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ysgolion neu golegau yng Nghymru sy'n defnyddio'r dechnoleg fiometrig fwy newydd megis systemau adnabod wynebau, er enghraifft, ond rwy'n ei sicrhau, fel y gwneuthum gyda Sarah Murphy, y bydd y canllawiau'n nodi ar gyfer ysgolion a rhieni a gofalwyr, ond hefyd ar gyfer dysgwyr, y fframwaith hawliau a'u hawliau mewn perthynas â hyn. Hefyd, mewn maes lle mae'r dechnoleg yn aml yn newid yn gyflym iawn, byddwn yn ymrwymo i adolygu hynny'n rhagweithiol wrth i dechnolegau newydd ddod i'r amlwg.