5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Alun Davies (Blaenau Gwent) — Effaith gorlifoedd stormydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:33, 2 Mawrth 2022

Diolch i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu efo fi, fel llawer o Aelodau eraill dwi'n gwybod, yn poeni am garthffosiaeth yn cael ei gollwng i'r dyfroedd o orlifoedd storm cyfuno neu combined sewer overflows—llawer ohonyn nhw'n cefnogi'n benodol yr alwad gan Surfers Against Sewage i roi'r gorau'n llwyr i ryddhau carthffosiaeth i'r môr erbyn 2030. Mae'r bobl yma—maen nhw'n cynnwys nofwyr, maen nhw'n cynnwys syrffwyr, pobl hefyd sy'n cael eu hannog i fynd i'r môr er mwyn eu llesiant a'u hiechyd. A'r pryder ydy bod gan yr arferion ar hyn o bryd nid yn unig oblygiadau amgylcheddol amlwg, ond hefyd eu bod yn cynrychioli peryg uniongyrchol i ddiogelwch defnyddwyr. Mi oedd un syrffiwr wir eisiau cymryd mantais o ddiwrnod da o donnau, fel dŷn ni'n ei gael o gwmpas Ynys Môn yn aml, ond yn dweud wrthyf i, 'Dwi ddim yn siŵr iawn pa mor sâl fyddaf i os bydda i'n mynd i syrffio.'

Wrth edrych i mewn i'r mater, un peth ddaeth yn amlwg i fi oedd mai dim ond yn ystod beth fyddech chi'n ei alw'n dymor arferol nofio mae monitro dŵr yn digwydd, ac nid yn y gaeaf pan fo yna botensial i gyfraddau gollwng CSO fod yn uwch, wrth gwrs, ac yn amlach hefyd oherwydd tywydd gwlypach. Ac o gynrychioli etholaeth sy'n ynys, mi allaf i ddweud wrthych chi fod pobl yn mynd i'r dŵr bob amser o'r flwyddyn, ac, yn wir, bod rhai o'r tonnau gorau ar gyfer syrffio yn dod yng nghanol y gaeaf. Mae ishio edrych ar eu pennau nhw, os ydych chi'n gofyn i fi—mae o'n edrych yn oer iawn—ond mae yna bobl yn mwynhau. Dwi'n mwynhau eu gwylio nhw hefyd.

Ond mi ofynnaf i i'r Aelod, ydy o'n cyd-fynd â'r angen am fonitro o gwmpas y flwyddyn, ac ydy hynny'n rhywbeth y byddai'r Bil y mae o'n ei gynnig yn ei gyflawni? Efallai y gall y Gweinidog hefyd wneud sylw ar yr angen i ymestyn y monitro tymhorol presennol. Mi fyddai'n help mawr i etholwyr, yn sicr, wrth wneud dewisiadau ar ba un ai i fynd i'r dŵr ai peidio, a dwi hefyd yn meddwl y byddai o'n helpu efo nod y ddeddfwriaeth arfaethedig yma hefyd. A dwi'n hapus iawn i gefnogi hyn.