– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 2 Mawrth 2022.
Eitem 5 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, effaith gorlifoedd stormydd. Galwaf ar Alun Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7833 Alun Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;
b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;
c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn. Bydd Aelodau sydd wedi cael cyfle i nodi’r ddeddfwriaeth rwy'n ei chynnig—wel, yr Aelodau craff hynny, yn sicr—yn nodi rhywbeth cyfarwydd am y geiriad. Dyma’r geiriad, wrth gwrs, a dderbyniwyd fel gwelliant yn Nhŷ’r Arglwyddi fis Hydref diwethaf. Pan gyflwynais y cynnig deddfwriaethol hwn fis Hydref diwethaf, gwneuthum hynny gyda'r bwriad o geisio deall beth yw sefyllfa Cymru, beth yw’r fframwaith deddfwriaethol a statudol ar gyfer rheoli gollyngiadau i gyrsiau dŵr yng Nghymru, gan y credaf fod angen inni ddeall hynny'n iawn. Rwy’n falch fod y Gweinidog ei hun yn ymateb i'r ddadl hon, gan y credaf y byddai’n ddefnyddiol iawn inni ddeall y fframwaith statudol sy’n bodoli yng Nghymru. Dylwn ddweud, ers imi gyflwyno hyn, fy mod yn deall bod y pwyllgor newid hinsawdd hefyd wedi manteisio ar y cyfle i edrych ar y pwnc, a chredaf fod pob un ohonom yn edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor hwnnw.
Fy mhryder yw bod y fframwaith sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn rheoleiddio’r rhan hon o’r llyfr statud braidd yn gymhleth. Rwy’n cwestiynu a yw’n addas at y diben, ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ni ei fod. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol wedi’i sefydlu i raddau helaeth gan, yn gyntaf oll, Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, ond wedyn, Deddf Dŵr 2003 a Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, sy’n darparu ar gyfer y mecanwaith sylfaenol ar gyfer asesu a rheoli'r amgylchedd dŵr. Mae’r rheoliadau hyn wedyn yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i atal dirywiad ac i wella pob corff dŵr i statws ‘da’ erbyn 2027. Byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad y Gweinidog ei bod wedi ymrwymo i gyflawni’r amcan hwnnw.
Gwyddom hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynlluniau rheoli basn afonydd ar gyfer pob un o’r tair ardal basn afon yng Nghymru, a dylai’r cynlluniau hyn effeithio ar ansawdd dŵr a dylent osod amcanion amgylcheddol a gweithredu rhaglen o fesurau i warchod a gwella’r amgylchedd. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod gan CNC y gallu ac y dylai osod y cynlluniau rheoli hyn, mae’n anodd nodi heb siom, er yr ymgynghorwyd arnynt dair blynedd yn ôl, nad oes unrhyw gynlluniau terfynol wedi’u cyhoeddi eto. Credaf fod hynny’n destun cryn siom, a phryder hefyd i ni. O ystyried yr amgylchedd statudol braidd yn gymhleth hwn, tybed pam y ceisiodd Llywodraeth Cymru eithrio Cymru o rai o’r cynigion yn Neddf yr Amgylchedd 2021, a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis Tachwedd diwethaf.
Ar adegau arferol, byddwn bob amser yn dadlau—ac mae’r Gweinidog wedi fy nghlywed yn dadlau—y dylid cael llyfr statud ar wahân i Gymru lle gellir dod o hyd i’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar Gymru a chael mynediad hawdd ati. Un feirniadaeth a wnaed, wrth gwrs, am y llyfr statud gan y cyn Arglwydd Brif Ustus Thomas yn adroddiad ei gomisiwn yw ei bod yn anodd iawn cael mynediad at gyfraith Cymru a deall lle mae'n bodoli. Y rheswm am hynny yw cymhlethdod, ac un o’r rhesymau dros y cymhlethdod yw’r ffaith bod cyfraith Cymru yn bodoli mewn mwy nag un lle. Weithiau, mae'n bodoli mewn nifer o wahanol leoedd, sy'n golygu ei bod yn anodd ei deall, nid yn unig i ni ond hefyd i gyfreithwyr, barnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol. Mae honno’n feirniadaeth deg a rhesymol i’w gwneud. Hoffwn ddeall ble rydym arni yng Nghymru ar hyn o bryd, beth yw’r fframwaith statudol, a sut y mae hynny’n cyflawni’r amcanion y credaf y bydd pob un ohonom yn eu rhannu ar bob ochr i’r Siambr heddiw a ledled y wlad. Mae pob un ohonom yn awyddus i weld ansawdd dŵr afonydd yn gwella, rydym am weld ansawdd cyrsiau dŵr yn gwella, rydym am weld ansawdd cyrff dŵr yn gwella, ac rydym am gael fframwaith statudol sy’n ddealladwy, sy’n hawdd ei werthfawrogi a’i ddeall, ac y gellir ei roi ar waith wedyn gan y cyrff, yr unigolion, y sefydliadau a'r busnesau y mae'n effeithio arnynt.
Yr hyn nad wyf am ei wneud y prynhawn yma yw beirniadu naill ai’r cwmnïau dŵr sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, neu’r bobl sy’n darparu ar gyfer gollyngiadau i gyrsiau dŵr, gan nad dyna yw diben yr hyn rwy'n ei gynnig heddiw. Yr hyn rwyf am ei wneud yw sicrhau bod gennym fframwaith statudol ar waith i reoleiddio gollyngiadau i gyrsiau dŵr a chyrff dŵr, ac yna gallwn gael y ddadl a’r drafodaeth ynglŷn â sut y cyflawnwn y gwelliant mewn ansawdd dŵr, gan fod hynny wedyn yn galluogi inni gyflawni hynny mewn pob math o wahanol ffyrdd.
Credaf mai un o'r pethau sydd wir wedi effeithio'n wirioneddol ar lawer ohonom—. Fel rhywun a fagwyd yng Nghymoedd de Cymru, yn Nhredegar, rwy'n cofio afon Sirhywi pan oeddwn yn blentyn, ac roedd yn fudr, a siarad yn blwmp ac yn blaen. Roedd y dŵr hwnnw'n cynnwys unrhyw beth y gallech ei ddychmygu, bron iawn. Cofiaf ddweud wrth ffrindiau i mi a oedd yn byw ‘lawr yn y wlad’, fel yr arferem ei ddweud, i lawr yn Llangynidr a lleoedd eraill, fod ‘Ein hafonydd ni’n well na’ch rhai chi gan fod mwy o liw ynddynt’, ac ‘Mae’n afon ofnadwy gan y gallwch weld ei gwaelod'. Credaf fod y dyddiau hynny wedi mynd, ac rwy'n gobeithio eu bod wedi mynd, ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw fframwaith statudol a fydd yn sicrhau, wrth symud ymlaen, fod pob un ohonom yn gallu gwarantu ansawdd dŵr lle bynnag yr ydym yn byw yng Nghymru, a’n bod yn gallu cael fframwaith statudol y gall pob un ohonom ei ddeall hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Alun Davies AS am yr hyn yr ystyriaf ei fod yn gynnig deddfwriaethol eithriadol. Nawr, er bod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn targedu pob ffermwr mewn perthynas â llygredd dŵr drwy Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, Dŵr Cymru a chwmnïau dŵr eraill sy'n gyfrifol i bob pwrpas am ormod o ddigwyddiadau llygredd dŵr a chaniateir iddynt wneud hynny heb orfod wynebu unrhyw ganlyniadau, ac nid yw'r mater yn cael sylw. Yn rhy aml, yn fy etholaeth i, gallaf feddwl am ddigwyddiadau lle bu farw cannoedd ar gannoedd o bysgod o ganlyniad i ddigwyddiadau llygredd dŵr, a physgotwyr lleol sy'n tynnu fy sylw atynt. Yna, rwy'n cysylltu â'r cwmnïau dŵr ac CNC yn wir, ond nid ydynt yn gweithio'n ddigon cyflym. Y llynedd, gweithiais ar achos a oedd yn tynnu sylw at y ffaith, er bod Dŵr Cymru'n ymwybodol o broblemau llifogydd yn deillio o orlifo hydrolig mewn cilfan yng Nghapel Curig yn ystod glaw trwm, a bod hynny wedi bod yn digwydd ers 2004, ei bod hi'n dal yn wir, bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, na all y sefydliad gyfiawnhau ateb parhaol i'r problemau llifogydd.
Yn ôl Cyngor Defnyddwyr Cymru mae'n bwysig deall, os yw'r llifogydd wedi'u hachosi gan y garthffos gyhoeddus, mai'r darparwr carthffosiaeth sy'n gyfrifol am ddatrys y broblem. Yn ogystal, mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth, nodir y canlynol yn adran 94(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991:
'Bydd yn ddyletswydd ar bob ymgymerwr carthffosiaeth... i ddarparu, gwella ac ymestyn system o garthffosydd cyhoeddus o'r fath (boed yn eu hardal neu rywle arall) ac felly i lanhau a chynnal y carthffosydd hynny ac unrhyw ddraeniau ochrol sy'n eiddo i'r ymgymerwr, neu a freiniwyd iddo, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio'n effeithiol ac yn parhau i gael ei draenio'n effeithiol'.
Credaf mewn gwirionedd, ac mae'n ddealladwy—nid oes neb yn dweud fel arall—eu bod yn methu cyflawni'r ddyletswydd honno ar hyn o bryd oherwydd problemau ariannol. Mae angen inni gynnal trafodaeth onest gyda'r sefydliad i ganfod yn union beth sydd ei angen i sicrhau bod eu seilwaith yn gweithredu mewn ffordd effeithiol nad yw'n niweidio'r amgylchedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, er tegwch i Dŵr Cymru, pan fu ganddynt broblemau, y gall fod—. Credaf fod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yma, Weinidog. Credaf y dylai pob un ohonom, fel Aelodau, wneud mwy i dynnu sylw at y broblem fod clytiau plastig sy'n cael eu fflysio i lawr y toiled—yr effaith negyddol a gaiff hynny. Rwy'n aml iawn yn ail-drydar hysbysiadau Dŵr Cymru yn gofyn i bobl beidio â rhoi'r pethau hyn yn y toiled, oherwydd maent yn achosi llygredd trwm, rhwystrau trwm, ac yn gwneud—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr—[Anghlywadwy.]?
—ein hafonydd yn afiach. Iawn, dyna ni. Diolch.
Diolch i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu efo fi, fel llawer o Aelodau eraill dwi'n gwybod, yn poeni am garthffosiaeth yn cael ei gollwng i'r dyfroedd o orlifoedd storm cyfuno neu combined sewer overflows—llawer ohonyn nhw'n cefnogi'n benodol yr alwad gan Surfers Against Sewage i roi'r gorau'n llwyr i ryddhau carthffosiaeth i'r môr erbyn 2030. Mae'r bobl yma—maen nhw'n cynnwys nofwyr, maen nhw'n cynnwys syrffwyr, pobl hefyd sy'n cael eu hannog i fynd i'r môr er mwyn eu llesiant a'u hiechyd. A'r pryder ydy bod gan yr arferion ar hyn o bryd nid yn unig oblygiadau amgylcheddol amlwg, ond hefyd eu bod yn cynrychioli peryg uniongyrchol i ddiogelwch defnyddwyr. Mi oedd un syrffiwr wir eisiau cymryd mantais o ddiwrnod da o donnau, fel dŷn ni'n ei gael o gwmpas Ynys Môn yn aml, ond yn dweud wrthyf i, 'Dwi ddim yn siŵr iawn pa mor sâl fyddaf i os bydda i'n mynd i syrffio.'
Wrth edrych i mewn i'r mater, un peth ddaeth yn amlwg i fi oedd mai dim ond yn ystod beth fyddech chi'n ei alw'n dymor arferol nofio mae monitro dŵr yn digwydd, ac nid yn y gaeaf pan fo yna botensial i gyfraddau gollwng CSO fod yn uwch, wrth gwrs, ac yn amlach hefyd oherwydd tywydd gwlypach. Ac o gynrychioli etholaeth sy'n ynys, mi allaf i ddweud wrthych chi fod pobl yn mynd i'r dŵr bob amser o'r flwyddyn, ac, yn wir, bod rhai o'r tonnau gorau ar gyfer syrffio yn dod yng nghanol y gaeaf. Mae ishio edrych ar eu pennau nhw, os ydych chi'n gofyn i fi—mae o'n edrych yn oer iawn—ond mae yna bobl yn mwynhau. Dwi'n mwynhau eu gwylio nhw hefyd.
Ond mi ofynnaf i i'r Aelod, ydy o'n cyd-fynd â'r angen am fonitro o gwmpas y flwyddyn, ac ydy hynny'n rhywbeth y byddai'r Bil y mae o'n ei gynnig yn ei gyflawni? Efallai y gall y Gweinidog hefyd wneud sylw ar yr angen i ymestyn y monitro tymhorol presennol. Mi fyddai'n help mawr i etholwyr, yn sicr, wrth wneud dewisiadau ar ba un ai i fynd i'r dŵr ai peidio, a dwi hefyd yn meddwl y byddai o'n helpu efo nod y ddeddfwriaeth arfaethedig yma hefyd. A dwi'n hapus iawn i gefnogi hyn.
A gaf fi ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod, Alun Davies, am gynnig y ddeddfwriaeth bwysig hon? Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei gefnogi ar ran fy etholwyr sy'n byw yng nghwm Tawe isaf. Mae llygredd difrifol yn Afon Tawe, yn enwedig wrth iddi deithio drwy Abertawe ar y ffordd i'r môr. Mae'r Tawe'n cario gollyngiadau o waith trin dŵr gwastraff Trebannws, ac mae deunyddiau gwastraff fel rhannau o goed a phlastig yno hefyd yn achosi llygredd. Mae pysgotwyr yn pryderu am wastraff dynol heb ei drin sy'n mynd i afon lle mae plant yn chwarae'n rheolaidd. Dywedir wrthyf fod tystiolaeth o ewtroffigedd yn Afon Tawe. Mae fy etholwyr yn teimlo nad oes digon o weithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a cheir rhai sy'n credu nad oes unrhyw weithredu o gwbl gan CNC.
Yn ôl Dŵr Cymru, pan fo glaw trwm, gall gormod o ddŵr fynd i mewn i'r garthffos, sy'n golygu bod rhaid ei ryddhau yn ôl i afonydd neu'r môr heb y driniaeth arferol. Mae hyn yn mynd yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Dŵr Cymru wedi dweud eu bod wedi cael caniatâd i weithredu carthffosydd fel hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod yr arfer yn annhebygol o achosi niwed amgylcheddol. Wel, os yw'n annhebygol o achosi niwed amgylcheddol, rhaid gofyn y cwestiwn, pam nad ydynt yn gollwng pob carthion yn uniongyrchol i'r afonydd ac i'r môr, os nad oes unrhyw niwed amgylcheddol yn cael ei achosi? Nid wyf yn argyhoeddedig nad oes unrhyw niwed amgylcheddol; mae fy etholwyr yn sicr heb eu hargyhoeddi nad oes unrhyw niwed amgylcheddol.
Mae pysgotwyr lleol yn dweud bod yr afon yn dal i ddrewi ddyddiau ar ôl i law trwm ddod i ben, ac mae hynny'n bryder o ran iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn pryderu y gall y carthion achosi tyfiant gormodol o algâu, a allai amharu ar ecosystem yr afon. Ac nid wyf yn credu ein bod bob amser yn meddwl am ecosystemau afonydd, ond fel ym mhob man arall, maent yn agored iawn i un peth sy'n digwydd a all achosi problemau difrifol. Ac mae gennym afonydd sydd bron â bod wedi marw oherwydd yr algâu sy'n tyfu ynddynt, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am ei weld yn digwydd.
Os oes storm yn digwydd a'ch bod yn cael llawer o ddŵr yn y draen, mae'r rhan storio dŵr storm o'r garthffos yn llenwi ac yn gollwng i mewn i'r afon. Dylai ddod i ben pan fydd y storm yn dod i ben. Ond yma mae'r broblem yn parhau am hyd at 36 awr ar ôl y storm, am fod gorlif dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r garthffos. Ni cheir digon o fuddsoddi mewn dulliau storio dŵr storm, a'r unig ateb yw gwario mwy o arian. Yr unig ffordd y gallwn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario yw drwy ei wneud yn ofyniad cyfreithiol. Dyna pam fy mod yn cefnogi cynnig Alun Davies.
Rydym am leihau effaith gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd, ac mae angen inni osod dyletswydd ar ymgymerwyr carthffosiaeth, y gellir ei orfodi yn y gyfraith, i beidio â gollwng carthion heb eu trin. Os gallant osgoi cosb, pam y byddent yn mynd ati i'w drin? Mae angen inni gefnogi hyn oherwydd mae er budd unrhyw un ohonom sy'n byw wrth ymyl afon.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno hyn, ac am ei araith ragarweiniol, a nododd gymaint o bethau y credaf y byddwn i gyd yn cytuno â hwy? Nid oes amheuaeth fod gollyngiadau carthion yn bwysig iawn ac yn amserol iawn; credaf nad oes llawer o bethau eraill yn mynd â mwy o le yn fy mewnflwch na hyn ar hyn o bryd, yn enwedig yn ein hardal ni. Dangosodd ystadegau diweddar fod carthion amrwd wedi'u gollwng i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau, am bron i 900,000 o oriau, yn ystod 2020. Yn wir, gwelodd Tyndyrn, yn fy etholaeth i, rai o'r niferoedd uchaf o ollyngiadau carthion yn ne-ddwyrain Cymru yn 2020, a chofnodwyd 263 o ollyngiadau dros 1,489 awr. Mae'r rhain yn niferoedd hollol syfrdanol.
Mae'r mater hwn yn effeithio'n arbennig ar Afon Wysg. Mae wedi profi nifer o ddigwyddiadau gollwng carthion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ychwanegol at y rhai sydd wedi digwydd oherwydd glawiad uchel, a dyna asgwrn y gynnen. Y llynedd gwyddom fod ymchwiliad gan Panorama—fe'i gwelwyd gan bawb ohonom—fod gwaith trin dŵr gwastraff Aberbaiden ym Mrynbuga wedi gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon i Afon Wysg ar 12 diwrnod yn olynol ym mis Rhagfyr 2020. A chanfuwyd hefyd nad oedd trwydded wedi'i rhoi ar gyfer pibell orlifo carthion sy'n eiddo i Ddŵr Cymru i Afon Wysg. Nawr, gwn fod y materion hyn wedi cael eu harchwilio ers hynny a bod Dŵr Cymru yn gweithio arnynt. Fodd bynnag, erys pryderon ynghylch pa mor gyflym y gellir rhoi'r seilwaith gwaredu carthion gofynnol ar waith i liniaru effaith gollyngiadau carthion, a hynny ledled Cymru. Felly, mynegir pryder a rhwystredigaeth yn rheolaidd, yn sicr gan etholwyr, nad yw ein rheoleiddwyr yn rhoi camau digon cadarn ar waith yn erbyn y rhai sy'n llygru'n fwriadol, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr.
Fel y gŵyr pawb ohonom, mae gollwng carthion i'r amgylchedd naturiol, fel y clywsom eisoes, hyd yn oed pan nad oes unrhyw fodd o osgoi hynny, yn arwain at lygredd ac yn lleihau ansawdd dŵr, yn ogystal â niweidio bywyd gwyllt, ac mae'n amlwg, felly, fod angen mwy o weithredu i gyfyngu ar ddigwyddiadau o'r fath ledled Cymru. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli nad oes ateb hawdd, a bod cwmnïau'n rhoi rhai camau ar waith i leihau effaith gorlifo ar yr amgylchedd. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol fod Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda CNC i nodi gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol heb drwydded ar eu cyfer fel y gellir eu rheoleiddio a'u cynnwys yn y rhaglen wella. Ond mae mwy i'w wneud, a dyna pam rwy'n cefnogi'r Bil arfaethedig a ddisgrifiwyd gan Alun Davies. Mae angen i gwmnïau dŵr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros roi camau ar waith i sicrhau mai eithriadau yn hytrach na'r drefn arferol yw gollyngiadau carthion. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Dwi jest eisiau cyfrannu i'r ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, jest i roi gwybod i'r Senedd am y gwaith mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.
Mae amlder gollyngiadau carthion a'u heffaith ar amgylchedd ac iechyd y cyhoedd wrth gwrs yn faes, fel rŷn ni'n clywed, sy'n peri pryder difrifol i'r cyhoedd. Ac mewn ymateb i'r pryder hwn, ac yn sgil datblygiadau sylweddol yn Lloegr, fel y clywon ni amdanyn nhw yn y sylwadau agoriadol, fe benderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad byr i orlifoedd stormydd.
Diben yr ymchwiliad oedd deall yn well faint o garthion sy'n cael eu gollwng yng Nghymru, ac edrych ar y camau sy'n cael eu cymryd gan gwmnïau dŵr, gan reoleiddwyr ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, i geisio lleihau yr achosion yna. Mae'r pwyllgor wrthi'n cwblhau ein hadroddiad terfynol ar hyn o bryd, ac mi fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi y mis yma, ac er na fyddwn am ragweld canfyddiadau yr adroddiad yna ar y foment yma, mi liciwn i dynnu sylw at rai o'r materion a drafodwyd gennym ni yn ystod ein hymchwiliad.
Nawr, mi ddylai gorlifoedd stormydd weithredu yn anaml ac mewn tywydd eithriadol yn unig. Ond, wrth gwrs, fel rŷn wedi clywed, dyw hynny, yn anffodus, ddim yn wir ar hyn o bryd. Yn lle hynny, rŷn ni'n clywed adroddiadau rheolaidd am ollyngiadau mewn afonydd ledled Cymru, ac mae'r data diweddaraf yn dangos bod carthion wedi'u gollwng i'n hafonydd fwy na 105,000 o weithiau yn 2020 yn unig—105,000 o weithiau mewn un flwyddyn. Ac mae hyn yn awgrymu, wrth gwrs, fod problem sylweddol.
Ond beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa? Roedd cwmnïau dŵr yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, nad gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd yw prif achos llygredd afonydd yng Nghymru. Ac er bod hynny yn wir, wrth gwrs, mae'n rhaid inni beidio â defnyddio hynny fel esgus i beidio ag ymateb yn gryf i'r broblem. Waeth beth fo'u cyfraniad nhw i gyflwr gwael afonydd, mae gollyngiadau carthion, ar hyn o bryd, ar lefel annerbyniol.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni adroddiadau am welliannau mewn tryloywder ynghylch gorlifoedd stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny ar ôl cyflwyno dull o fonitro hyd digwyddiad ac adrodd blynyddol. Ond, eto, mae lle i wella o hyd. Soniwyd am y drefn reoleiddio a gorfodi bresennol ar gyfer gorlifoedd stormydd, gan gynnwys dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ymchwilio i achosion o lygredd carthion. Nawr, mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru allu ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i bob achos o lygru afonydd, waeth beth fo'i ffynhonnell. Ac rŷn ni'n gwybod o brofiad diweddar, yn anffodus, nad yw hynny yn digwydd.
Fe glywon ni fod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi sefydlu tasglu pwrpasol i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael ag effaith gorlifoedd stormydd. Ac mae hwn, wrth gwrs, yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mi fydd y tasglu yn cyhoeddi map ffordd ar gyfer gorlifoedd stormydd yn fuan, ac wedyn mi fydd yna gynllun gweithredu yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf.
A fydd y camau hyn yn ddigon i fynd i'r afael â'r broblem? Wel, amser a ddengys, ond mae'r cyhoedd wedi gwneud eu safbwynt nhw yn glir ar hyn, ac maen nhw am weld gwelliant sylweddol ar frys. Ac, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n parhau i adolygu hyn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr i gyd yn cyflawni, nid yn unig i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd i amddiffyn iechyd cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn gan Aelod, gan fod cynnig deddfwriaethol gan Aelod hynod debyg wedi bod gennyf fi ar wella ansawdd dŵr mewndirol yma yng Nghymru. Ac er y gallai fod anghytundeb posibl ynghylch semanteg a manylion y polisi, mae'n galonogol gwybod ei fod yn fater sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol mewn gwirionedd. Ac fel y dywedodd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae wedi nodi bod tebygrwydd rhwng ei gynnig deddfwriaethol a Bil Amgylchedd Llywodraeth y DU, sy'n creu dyletswydd i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn sicrhau gostyngiad cynyddol yn effeithiau andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd. Credaf ei bod yn galonogol, pan fydd syniad yn un da, ni waeth o ba ochr i'r rhaniad gwleidyddol y daw, ei fod yn cael ei gydnabod felly, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r hyn a ailadroddir yn fynych, nad oes gan yr un ochr fonopoli ar syniadau da, ac felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle, fel yr Aelod dros Ynys Môn, i dalu teyrnged i Surfers Against Sewage am eu gwaith yn amlygu ac yn gwrthsefyll gollyngiadau carthion i'r môr ar draethau ledled Cymru. Efallai y bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol o'r negeseuon e-bost a dargedir at Aelodau etholedig pan fydd gorlif carthffosiaeth cyfunol wedi gollwng carthion i ddŵr mewn lleoliad penodol. Mae Surfers Against Sewage wedi amcangyfrif, rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021, fod 5,517 o hysbysiadau gollwng carthion wedi'u cyhoeddi gan gwmnïau dŵr yn rhybuddio am lygredd carthion sy'n effeithio ar ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru a Lloegr. O'r rhain, cyhoeddwyd 3,328 o hysbysiadau gollwng carthion yn ystod y tymor ymdrochi rhwng 15 Mai a 30 Medi. Felly, yn seiliedig ar y cyngor a dderbynnir yn eang i beidio â nofio mewn dyfroedd sydd wedi'u llygru gan garthion am 48 awr ar ôl iddynt gael eu gollwng, mae hyn yn golygu bod 16 y cant o'r diwrnodau nofio posibl yn ystod y tymor ymdrochi wedi'u colli oherwydd digwyddiadau llygredd carthion.
Byddwn ar fai hefyd, fel Gweinidog materion gwledig yr wrthblaid, pe na bawn yn sôn am amaethyddiaeth a llygredd amaethyddol. Yn fy marn i, mae'r sector amaethyddol wedi'i dargedu'n annheg fel unig lygrydd ein dyfrffyrdd ers gormod o amser. Mae'r diwydiant eisiau gwella a gwneud yn well er mwyn yr amgylchedd ac er mwyn ein dyfrffyrdd, ond nid hwy yn unig sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau llygredd dŵr. Felly, dyna reswm arall pam fy mod yn cefnogi'r cynnig hwn, wrth iddo anelu at leihau'r gollyngiadau carthion yn ein dyfrffyrdd, ac arwain, yn fy marn i, at welliannau cadarnhaol i ansawdd dŵr, ein hamgylchedd ac i iechyd y cyhoedd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd pob Aelod, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd, ac fel y nododd Alun yn ei gyflwyniad, mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i osod targedau i gwmnïau dŵr yn Lloegr i leihau'r rhain. Ond ceir canfyddiad cyffredinol mai dyma brif achos ansawdd dŵr gwael, ond mewn gwirionedd, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cydnabod yn y Siambr heddiw, mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael, gan gynnwys llygredd amaethyddol, cysylltiadau draeniau preifat diffygiol, gorlif tanciau carthion ac amrywiaeth o broblemau eraill.
Yn ddiweddar—nos Lun mewn gwirionedd—cyfarfûm ag Ofwat, ac maent wedi dweud wrthyf fod 35 o gyrff dŵr wedi'u nodi lle mae gollyngiadau carthion ysbeidiol yn cyfrannu'n rhannol at y rheswm dros beidio â chyflawni statws ecolegol da o dan Reoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, ac maent hefyd yn methu am resymau eraill. Felly, bydd Ofwat yn cynnal adolygiad o faint o'r gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol a ollyngwyd, ac os felly, a gawsant eu gollwng ar y cyd â digwyddiad storm neu ddigwyddiad arall pan fo'r afon yn ei llif ac os felly, pam, ac os na, pam ddim. Felly, bydd canlyniad adolygiad Ofwat yn ddiddorol iawn i weld a yw cwmnïau dŵr yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt yn gywir er mwyn defnyddio'r gollyngiad yn iawn ai peidio. Ac i atgoffa pobl fod y gorlifoedd stormydd mewn gwaith trin dŵr gwastraff—mae llawer o acronymau yn hyn, felly rwy'n ceisio dweud yr enwau llawn—yn cyflawni rôl hanfodol i atal y gwaith rhag cael ei lethu yn ystod cyfnodau o law trwm, a fyddai'n gwneud i'r carthion weithio'n ôl i eiddo domestig. Felly, gadewch inni fod yn glir pa mor bwysig yw hi nad yw hynny'n digwydd a'r problemau iechyd cyhoeddus a fyddai'n codi o hynny.
Felly, mae gan Dŵr Cymru—. Mae gennym ddau gwmni dŵr yng Nghymru, i fod yn glir, ac mae gan y ddau ohonynt yr holl hawliau a chyfrifoldebau o dan ein Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol, gyda pheth ohono'n cael ei ddyblygu yn Lloegr. Ond hefyd, peth o'r—. Gofynnodd Alun yn uniongyrchol i mi pam na wnaethom fynd gyda deddfwriaeth Lloegr, a'r ateb yw bod gennym ddealltwriaeth lawer mwy cyfannol o'r hyn sy'n achosi llif mewn afonydd, gan gynnwys rhai o'r problemau gyda dalgylchoedd afon, ac rydym yn canolbwyntio'n fawr ar gael cymaint â phosibl o ddiogelwch naturiol rhag llifogydd a diogelwch naturiol rhag carthion, ac nid dim ond datblygu sianeli concrid i sianelu'r dŵr i ffwrdd tuag at y môr ac yn y blaen. Felly, rwy'n awyddus iawn inni ddatblygu atebion sy'n gweddu i ecoleg ac amgylchiadau penodol afonydd yng Nghymru.
Ond i fod yn glir, mae'n amlwg mai Dŵr Cymru sydd â'r mwyafrif helaeth o'r seilwaith yng Nghymru, ac maent wedi gosod dulliau monitro hyd digwyddiadau ar 99 y cant o'u hasedau gorlifoedd stormydd a byddant wedi'u gosod ar y gweddill erbyn diwedd y flwyddyn, erbyn y flwyddyn nesaf. Mae'r holl ddata perthnasol ar gael ar y wefan, felly gallwch weld beth yn union sydd wedi digwydd gyda'r rheini. Mae'n ofynnol iddynt ddarparu crynodeb o ddata gollyngiadau o'u monitorau i CNC yn flynyddol, ac maent yn darparu rhybuddion gorlifoedd stormydd amser real drwy gydol y flwyddyn mewn safleoedd ymdrochi allweddol. Felly, eisoes, ar y cyd â Surfers Against Sewage, mae Dŵr Cymru yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig, drwy ymgyrch moroedd diogelach Surfers Against Sewage, gael gwybodaeth amser real ynghylch pryd y mae gorlif storm yn dechrau gweithredu, am ba hyd y mae'n gweithredu a phryd y daw i ben. Felly, gall unrhyw un sydd am fynd i ymdrochi yn yr afonydd gael yr wybodaeth honno, ac mae'n ddefnyddiol iawn ei chael os ydych yn nofiwr dŵr gwyllt, a dylwn ddatgan diddordeb a dweud fy mod yn bendant yn un o'r rheini. Felly, mae gennyf ddealltwriaeth dda o'r angen i ddeall beth yn union sy'n digwydd.
Ac i fod yn glir, ni ddylai hynny ddigwydd oni bai bod yr afon yn ei llif, felly ynghanol storm fawr fel ambell un o'r rhai a gawsom dros yr wythnosau diwethaf. Ac ni fyddai'r afon honno'n addas ar gyfer nofio ynddi pe bai yn ei llif. Ni fyddech am weld pobl yn ceisio mynd i nofio dŵr gwyllt mewn afon sydd yn ei llif, sy'n codi uwchben ei glannau ac yn y blaen. Felly, dyna'r amgylchiadau, a dyna'r unig adeg y dylid defnyddio gorlifoedd stormydd. Felly, dyna fydd ymchwiliad Ofwat yn edrych arno i weld a yw'r ddau beth hynny'n cydgysylltu.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda CNC i fonitro, a lle y bo angen, i wella ansawdd dŵr afonydd ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae gennym nifer fawr iawn o bethau yr ydym yn eu gwneud, a byddaf yn mynd dros fy amser os ceisiaf eu darllen, ond wedi'u cynnwys ynddynt mae'r byrddau rheoli maethynnau a sefydlwyd gennym ar gyfer gwahanol afonydd, yr afonydd sy'n ardaloedd cadwraeth arbennig, yng Nghymru. Mae gennym waith yn mynd rhagddo gyda CNC i ddeall faint yn union o ddigwyddiadau y maent yn eu mynychu—maent yn mynychu'r mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau llygredd—faint yw cost yr uned ar gyfer hynny, a'r hyn y gallwn ei wneud i wella hynny fel bod yr holl ddigwyddiadau y mae'r cyhoedd yn adrodd amdanynt yn cael eu mynychu. Ond hyd yn oed wrth fynychu a bod sampl wedi'i chymryd ar unwaith, nid yw bob amser wedi bod yn bosibl gwybod pwy yw troseddwr y digwyddiad llygredd, hyd yn oed pan fydd gennym samplau perthnasol wedi'u casglu ar unwaith. Felly, mae'n bwysig sicrhau bod gennym gyfres gyfan o fesurau ar waith i sicrhau nad yw digwyddiadau llygredd yn digwydd yn y lle cyntaf, yn ogystal â bod gennym garthffosydd sy'n addas i'r diben.
Y peth arall i'w ddweud yw bod gennym nifer fawr o bethau eraill yr ydym yn awyddus i'w gwneud. Felly, gwn fod y Ceidwadwyr yn awyddus iawn i weld yr ansawdd dŵr yn cael ei wneud, ac rwy'n croesawu hynny, ond wrth gwrs un o'r pethau a wnawn yw cynnwys ein gwaith ar system ddraenio tanddwr yn hyn o beth, lle'r ydym yn cael ein holl ddatblygiadau tai newydd i roi draeniad tanddwr o'r fath ynddynt. Holl bwrpas hynny yw atal y carthffosydd hynny rhag gorlifo'n ôl i'r systemau carthffosiaeth a adeiladwyd yn oes Fictoria ac nad ydynt wedi'u hadeiladu ar gyfer y niferoedd o dai sydd arnynt. Felly, unwaith eto, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Lee Waters nifer o weithiau'n gynharach yn ystod y cwestiynau, ni allwch wahanu'r pethau hyn. Mae gennym argyfwng hinsawdd, mae'n achosi tywydd eithafol, mae angen ymdopi â'r tywydd eithafol yn ein system garthffosiaeth, yn ein datblygiadau tai, yn ein datblygiadau masnachol, ac yn y gwaith trin dŵr gwastraff.
Felly, Alun, byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth yn nes ymlaen. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi arni i sicrhau ein bod yn deddfu ar gyfer ein systemau draenio a rheoli dŵr gwastraff cynaliadwy a'n bod yn rhoi'r cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff hynny ar sail statudol. Rwy'n sicr yn bwriadu gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon. Ond mae'n rhaid inni wneud hynny o fewn y fframwaith cyfannol sydd ei angen i reoli digwyddiadau llygredd a rheoli digwyddiadau all-lif carthion ar hyd ein hafonydd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y ddau beth, ac yn y datblygiadau tai a datblygiadau masnachol a roddwn ar waith, fod gennym yr atebion draenio a charthffosiaeth cywir ar gyfer y rheini ar y cychwyn, fel nad ydym yn gorlwytho'r system yn y lle cyntaf. Diolch.
Galwaf ar Alun Davies i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl, neu ein sgwrs—roedd yn teimlo'n debycach i sgwrs rhwng unigolion yn hytrach na dadl fwy ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am y ffordd y disgrifiodd rai o effeithiau gwastraff plastig, ac roedd yn adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Mike Hedges, yn sôn am bwysigrwydd ecosystem o fewn afon, ac i edrych arno felly yn y ffordd yr awgrymodd y Gweinidog, mewn ffordd gyfannol.
Pan drafodwn y materion hyn gyda'n gilydd, y pwyntiau a wnaed gan Rhun ap Iorwerth am y monitro—. Rwy'n cytuno â chi, yn bendant iawn, fod angen inni edrych ar sut yr awn ati i fonitro a deall effaith gweithgareddau dynol yn yr ystyr ehangaf ar yr ecosystem ddŵr, ac mae angen inni wneud hynny drwy'r flwyddyn i gael dealltwriaeth o'r holl effaith ar yr ecosystem. Rwy'n deall, ac rwy'n gyfarwydd, yn amlwg, ag Afon Wysg ac Afon Gwy, fel y byddech chi'n ei ddychmygu, Peter, ac un o'r pethau gwirioneddol drawmatig rwy'n edrych arno weithiau yw'r effaith ar Afon Gwy ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod Sefydliad Gwy ac Wysg wedi rhoi cynllun i ni ar gyfer sut i reoli ansawdd dŵr dros gyfnod o amser. Nid wyf yn siŵr lle'r ydym wedi mynd o'i le ar hynny, a hoffwn edrych eto ar hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu gweithio gyda Llyr a'r pwyllgor ar yr ymrwymiadau a roddwyd ganddi y prynhawn yma, oherwydd, fel y nododd Sam Kurtz yn gwbl briodol, ar adegau ceir llawer mwy sy'n ein huno nag sy'n ein rhannu.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, cefais fy atgoffa yn ystod y ddadl am daith gerdded a wneuthum gyda'r Aelod dros Bontypridd a'r Aelod dros Ogwr ar hyd y Taf ym Mhontypridd, a buom yn siarad ynglŷn â sut yr oedd y dref yn troi eto at yr afon, ac yn y sgwrs a gawsom, ailadroddais sylw gan ffrind i mi yn Nhredegar a soniodd, wrth i'r chwyldro diwydiannol fwrw gwraidd yn natblygiad cymunedau'r Cymoedd yn arbennig, ein bod wedi troi ein cefnau ar ein hafonydd. Rhoddwyd yr afonydd mewn cwlfertau neu gosodwyd tarmac neu goncrid drostynt a'u datblygu a'u hanghofio. Trodd y trefi a'r bobl eu cefnau ar yr afon. Weinidog, gobeithio nad dyna a wnawn yma heddiw. Yr hyn a ddywedoch chi wrth ymateb i'r cynnig, i'r ddadl, am y dull cyfannol yw'r union bwynt y credaf y byddai'n uno'r Siambr i gefnogi'r gwaith a wnewch, a gobeithio y byddwn, dros y Senedd sydd i ddod, yn gallu gweld y ddeddfwriaeth—
Mae angen i chi ddod i ben yn awr.
—a awgrymwyd gennych, Weinidog, a gobeithio y bydd y pwyllgor perthnasol, wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, yn gallu argymell i'r Senedd ein bod yn deddfu ar y ddeddfwriaeth honno, a chyda'n gilydd fod pob un ohonom yn darparu'r math o fframwaith sydd ei angen arnom i ofalu am ein hafonydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.