Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a phawb yn y Siambr hon? Nid wyf ddiwrnod yn hwyr; rwyf 364 diwrnod yn gynnar yn lle hynny. [Chwerthin.] Dyna ni.
Mae'n anrhydedd wirioneddol i mi agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, dadl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, ac un linell yn unig sydd i'r ddadl heddiw, sef bod y Senedd hon
'Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc.'
I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch iawn o weld bod Aelodau o Blaid Cymru, y Blaid Lafur a Jane Dodds oll wedi cyd-gyflwyno'r cynnig hwn hefyd. Rwy'n gobeithio'n fawr mai canlyniad y ddadl hon heddiw fydd consensws trawsbleidiol gwirioneddol ar wneud ein diwrnod cenedlaethol yn ŵyl banc.
Ar y pwynt hwnnw—ac nid oeddwn am wneud pwynt pleidiol heddiw, ond teimlais fod yn rhaid imi ymateb—siom oedd gweld y Gweinidog addysg ddoe ar y cyfryngau yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru ymgyrch hirsefydlog a'i fod yn falch iawn o weld y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi eu cefnogaeth. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog—ac mae'n siomedig nad yw yma—fod y Ceidwadwyr Cymreig yma yn y Senedd wedi bod yn galw amdano ers dros ddegawd. [Torri ar draws.] Wel, roedd yn ddiddorol iawn gweld pa mor hirsefydlog oedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, felly edrychais yn ôl drwy Gofnod y Trafodion a nodais fod Julie James, yn 2018, a oedd yn aelod o'r Llywodraeth ar y pryd, wedi dweud mewn Cyfarfod Llawn, ac rwy'n dyfynnu,
'nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw gynlluniau o gwbl i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus genedlaethol'.
Bedair blynedd yn ôl oedd hynny, felly rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi ymgyrch hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig. Ond serch hynny, mewn ysbryd o gydweithrediad trawsbleidiol, rwy'n crwydro. Ond nid y 60 ohonom sy'n eistedd yn y Siambr hon ac ar Zoom yn unig sy'n credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc, mae hyn yn rhywbeth y mae pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd. Nid yn unig fod 10,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn ddiweddar yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, dangosodd arolwg barn gan BBC Wales hefyd fod 87 y cant o bobl Cymru yn cefnogi'r syniad.
Gwyddom hefyd fod manteision economaidd sylweddol o wneud y diwrnod yn ŵyl banc. Yn ôl y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, yn draddodiadol caiff gwerthiant siopau hwb o 15 y cant ar ŵyl banc, gyda lletygarwch ac arlwyo yn cael hwb o 20 y cant. Ac ar ôl wynebu mesurau anodd a cheisio ymadfer ar ôl y pandemig, oni fyddai'n newid i'w groesawu i'r diwydiannau hyn gael y budd ychwanegol hirdymor hwnnw hefyd? Byddai manteision economaidd enfawr i Gymru pe bai'n digwydd. Canfu astudiaeth yn 2018 fod rhoi gŵyl banc yn rhoi hwb ychwanegol o £253 o elw ar gyfartaledd i siopau bach y DU. Gallai hynny roi hwb o filiynau o bunnoedd i economi Cymru. Ac yn 2019, cyn i'r coronafeirws daro, rhoddodd dau ŵyl banc hwb o £118 miliwn i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y DU.
A chredaf fod manteision diwylliannol enfawr hefyd, ac mae gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn rhoi cyfle inni hyrwyddo Cymru i weddill y byd. Mae sawl sefydliad eisoes wedi rhoi gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i'w staff, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Credaf na ddylai dathliadau'r diwrnod hwn fod yn gyfyngedig i'r bobl hynny yn unig, ond i bawb ledled Cymru. Credaf hefyd y byddai'r ŵyl banc hon yn ffordd addas o ddathlu ein treftadaeth a'n diwylliant, ochr yn ochr â'r hwb i'r economi a thwristiaeth—gan roi hwb mawr ei angen i'r diwydiant hwnnw ar ôl y pandemig. Mae gwyliau cyhoeddus yn caniatáu i bobl gael amser hamdden ychwanegol, sydd fel arfer yn helpu i greu effaith gadarnhaol ar dwristiaeth a lletygarwch, a byddai'n ysgogiad gwirioneddol i'r diwydiant twristiaeth, gan fod gwyliau banc yn ychwanegu tua £50 miliwn at dwristiaeth yn unig yn economi'r DU.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y byddai gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi yn denu miloedd o ymwelwyr i'n gwlad i nodi ein diwrnod arbennig, gan roi hwb mawr i economi a thwristiaeth Cymru. Ac mae'n gweithio: canfu ymgynghoriad gan Senedd yr Alban fod ymatebwyr yn cefnogi'r syniad fod gŵyl banc Dydd Gŵyl Sant Andrew yn hybu twristiaeth yn yr Alban. Mae gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yn ffordd addas o ddangos y diwylliant a'r hanes i'r byd. Mae ymgyrchoedd fel Caru Cymru, Caru Blas yn helpu i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru a gweddill y DU, i ddathlu bwyd a diod o Gymru. [Torri ar draws.] Rwy'n eistedd wrth ymyl yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, sy'n eiriolwr brwd dros eirin Dinbych. [Chwerthin.] Dyna ni. Mae'n braf i rywun arall gael hynny yng Nghofnod y Trafodion am newid.
Dylem fod yn dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig a chaniatáu i gynifer o bobl â phosibl brofi diwylliant a hanes cyfoethog Cymru, a byddai cael gŵyl banc yn helpu i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny. Ddoe, dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi ar draws y byd gan y diaspora Cymreig. Cynhaliodd Cymdeithas Cymru yn Llundain ginio yn y Guildhall; dathlodd cymdeithas Cymry Efrog Newydd ym mar Liberty NYC, yng nghysgod adeilad yr Empire State; ac mae Cymdeithas Dewi Sant Kansai yn Osaka, Japan, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau rhithwir sy'n dathlu Cymru. Ar ôl effaith amhariadau COVID, onid yw'n wych gweld bod dathliadau'n ymadfer o'r diwedd ar ôl seibiant hir, yng Nghymru ac ar draws y byd? Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i wella enw da ein gwlad yn fyd-eang, gan greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o'r byd.
Dylai pobl ledled Cymru allu mwynhau gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi, a byddai'n foment wych i'n gwlad allu dathlu ac uno o amgylch ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae gan bobl yr Alban a Gogledd Iwerddon ŵyl banc i ddathlu eu nawddseintiau, gyda Senedd yr Alban wedi ei wneud yn ŵyl banc yn 2006, a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn 2000. A chredaf yn awr ei bod yn bryd i Gymru ddilyn eu hesiampl a chael yr un peth i'n nawddsant ni.