7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:47, 2 Mawrth 2022

Mi glywn ni fwy gan rai o fy nghyd-Aelodau i am wahanol elfennau o'r hyn rydyn ni a Beat a dioddefwyr a'u teuluoedd yn galw amdano, a dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pellach o ar draws y pleidiau.

Rydyn ni'n gytûn yma ar yr egwyddorion, rydyn ni'n gytûn yma yn y Senedd ar yr angen i flaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, ond mor bwysig ag ydy undod o'r math yna, geiriau cadarnhaol a chefnogaeth i egwyddor, rhaid inni gofio ein bod ni angen trawsnewid gwasanaethau. Dydy'r geiriau ynddyn nhw eu hunain ddim yn ddigon. Gadewch inni ddefnyddio heddiw fel carreg filltir bwysig yn y broses o drawsnewid gwasanaethau i'r rheini sydd yn dioddef.