– Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
Eitem 7: dadl Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7934 Sian Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 6 Mawrth 2022.
2. Yn nodi 'Adolygiad o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018' ac adolygiad diweddar Beat, 'Adolygiad Gwnaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru—3 blynedd yn ddiweddarach'.
3. Yn credu bod gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad.
4. Yn gresynu at y ffaith bod triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i gynyddu'r adnoddau a ddyrennir i iechyd meddwl o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pum mlynedd nesaf a dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta;
b) cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni targedau, gan ganolbwyntio ar:
i) ymyrraeth gynnar ac atal;
ii) gofal integredig;
iii) cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill;
iv) buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff;
c) ailsefydlu a chynnal arweinyddiaeth glinigol dros ddarparu gwasanaethau anhwylderau bwyta ar lefel genedlaethol;
d) ariannu archwiliad clinigol anhwylderau bwyta i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set safonol a chynhwysfawr o ddata o ansawdd uchel.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o allu cyflwyno'r cynnig yma yn ffurfiol. Mae o'n rhywbeth sy'n bwysig i gymaint o bobl a theuluoedd ar draws Cymru. Mae o leiaf 60,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o anhwylder bwyta. Mae yna nifer o anhwylderau gwahanol: bwlimia, anorecsia, binge-eating disorder, a sawl math arall—bob un yn golygu heriau dwys a difrifol i'r rheini sy'n dioddef ohonyn nhw. Mae o'n costio bywydau. Anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaeth uchaf o unrhyw afiechyd meddwl. Mae anhwylderau'n gallu arwain at bob mathau o gymhlethdodau a salwch corfforol hefyd.
Ond mae posib cynnig triniaeth, ac mae pobl yn gallu gwella ar ôl dioddef anhwylder bwyta. Maen nhw yn gwella, ac mae gallu cynnig y driniaeth gywir a'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir yn hanfodol. Mae oedi triniaeth yn dwysáu dioddefaint yr unigolion a'r rheini sy'n gofalu amdanyn nhw. Mae hefyd yn debyg o arwain at gostau llawer uwch i'r NHS. Felly, unwaith eto, dŷn ni'n sôn am faes lle mae ymyrraeth gynnar a thriniaeth gynnar yn dod ag enillion ar sawl lefel.
Nid cyd-ddigwyddiad ydy ein bod ni wedi dewis heddiw i gynnal y ddadl yma. Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, a thema'r wythnos ymwybyddiaeth eleni, yn digwydd bod, ydy cynyddu dealltwriaeth o anhwylderau bwyta o fewn hyfforddiant meddygol. Mae cymaint o bobl yn dibynnu ar gyswllt efo meddyg teulu neu efo gofal sylfaenol er mwyn adnabod arwyddion o anhwylder bwyta—dechrau proses o ddiagnosis a thriniaeth. Ond eto, ar gyfartaledd, llai na dwy awr o hyfforddiant mae myfyrwyr meddygol yng Nghymru yn ei gael ar faterion yn ymwneud ag anhwylderau bwyta. Does dim amheuaeth, dwi ddim yn meddwl, fod y gwendid yna o fewn y broses hyfforddi wedi arwain at arafwch mewn mynediad at driniaeth i lawer o unigolion.
Mae'n dda adrodd bod yr elusen Beat yn meddwl eu bod nhw'n ennill tir ar hyn a bod ein dwy ysgol feddygol bresennol ni wedi ymateb yn gadarnhaol i'w cwestiynau nhw am ymestyn y lefel o hyfforddiant yn y dyfodol. A dwi'n siŵr y bydd y drydedd ysgol feddygol lawn ym Mangor hefyd eisiau cefnogi y fenter yma.
Yn ôl yng ngwanwyn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o wasanaethau anhwylderau bwyta, fel y'u gelwid bryd hynny, a chanfu’r adolygiad hwnnw, a gyflwynwyd i’r Llywodraeth ar ddiwedd 2018, system wedi’i hanelu at ddarparu gofal i’r rheini a oedd eisoes yn ddifrifol wael yn hytrach nag ymyrraeth gynnar. Canfu amrywiaeth sylweddol yn argaeledd ac ansawdd triniaeth anhwylderau bwyta ledled Cymru; bylchau rhwng gwasanaethau yn hytrach na gofal integredig; yn aml, nid oedd teuluoedd yn cael gwybodaeth, ni chaent eu cefnogi na'u grymuso drwy broses y driniaeth.
Amlinellodd yr adolygiad weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaeth o'r radd flaenaf a ganolbwyntiai ar atal ac ymyrraeth gynnar, gan nodi a darparu triniaeth o safon cyn i bobl fynd yn ddifrifol wael ym mhob rhan o Gymru. Felly, ble rydym arni bellach? Beth a ddarganfu Beat yn eu hadolygiad dair blynedd yn ddiweddarach? Wel, er y gwnaed rhywfaint o gynnydd ar ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta dros y cyfnod hwnnw o dair blynedd, byddai Beat yn dadlau ei fod wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r anghydraddoldeb a gofnodwyd gan yr adolygiad gwreiddiol o wasanaethau anhwylderau bwyta. Rwyf am sôn wrthych am un fenyw ifanc a welodd ei meddyg teulu yn fy etholaeth, ac roedd y meddyg teulu'n llawn cydymdeimlad a dealltwriaeth ac yn awyddus i helpu, ond dywedodd wrthi, 'Cofrestrwch yn y man lle'r ydych yn y brifysgol', gan nad oedd gan y meddyg teulu unrhyw ffydd yn y tebygolrwydd y byddai ei chlaf ifanc yn gallu cael cymorth yn ei chyfeiriad cartref. Ac mae hynny’n gwbl annerbyniol.
Galwodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta am i driniaeth fod yn hygyrch yn gynnar, gan ddileu'r meini prawf cymhwysedd neu atgyfeirio. Mewn rhai ardaloedd, roedd timau arbenigol newydd wedi’u sefydlu yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, roedd rhai byrddau iechyd wedi datblygu neu ehangu gwasanaethau anhwylderau bwyta cymunedol i oedolion. Ond mewn rhai ardaloedd, mae mynediad at driniaeth arbenigol yn dal i fod yn gyfyngedig i'r rheini sydd eisoes yn ddifrifol wael ac nid yw ar gael i bobl â mathau penodol o anhwylderau bwyta, megis anhwylder gorfwyta mewn pyliau.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw’n benodol am roi diwedd ar yr amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau, loteri cod post arall sy’n rhoi dioddefwyr mewn rhai rhannau penodol o Gymru o dan anfantais. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn dileu hynny, ac yn hytrach, yn nodi ymrwymiad cyffredinol i barhau â’r gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, ac nid wyf wedi gwadu y gwnaed gwelliannau.
Mae cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at yr angen am ragor o fuddsoddiad. Unwaith eto, mae ein cynnig yn galw am hynny hefyd, ond lle mae gwelliant y Llywodraeth yn amwys, mae’r cynnig yn galw am gamau gweithredu penodol i sicrhau bod cynnydd mewn cyllid iechyd meddwl yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn ymgyrch bum mlynedd, fel rydym yn ei disgrifio, i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i drin anhwylderau bwyta ymhlith materion iechyd meddwl eraill.
Rydym yn galw am wneud mwy i ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu buddsoddiadau mewn anhwylderau bwyta, ond yn hollbwysig, rydym yn mynd ymhellach, rydym yn galw am gyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta, gan gynnwys amserlenni a thargedau, a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy’n mynd i’r afael â mater amserlenni ac adrodd amserol hefyd. Mae arnom angen cynllun clir, map clir tuag at ddarparu’r ymyrraeth gynnar honno y dywedais ei bod mor bwysig.
Ceir bylchau sylweddol yn y data y mae byrddau iechyd yn ei ddarparu ar amseroedd aros ar hyn o bryd. Nid yw'n ymddangos bod system safonol ar waith ledled Cymru i fesur ac adrodd yn gyson ar yr amser aros llawn rhwng yr atgyfeirio cychwynnol, os bydd atgyfeirio'n digwydd yn ddigon cynnar o gwbl, a dechrau triniaeth arbenigol.
Mae angen inni flaenoriaethu atal hefyd. Mae angen canolbwyntio ar fuddsoddi yn y gweithlu. Ac ar ofal integredig, esboniodd yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta fod angen dull integredig gyda chyfathrebu a chydweithio da rhwng gwasanaethau er mwyn darparu ymyrraeth gynnar a thriniaeth ar sail tystiolaeth. Yn arolwg Beat o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal, nodwyd bod diffyg gweithio integredig neu gydweithredol gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithredu integredig ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn aml yn cyfyngu ar allu eu timau a’u gwasanaethau i ateb y galw presennol am driniaeth anhwylderau bwyta. Mae cymaint o ffordd i fynd.
Mi glywn ni fwy gan rai o fy nghyd-Aelodau i am wahanol elfennau o'r hyn rydyn ni a Beat a dioddefwyr a'u teuluoedd yn galw amdano, a dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pellach o ar draws y pleidiau.
Rydyn ni'n gytûn yma ar yr egwyddorion, rydyn ni'n gytûn yma yn y Senedd ar yr angen i flaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, ond mor bwysig ag ydy undod o'r math yna, geiriau cadarnhaol a chefnogaeth i egwyddor, rhaid inni gofio ein bod ni angen trawsnewid gwasanaethau. Dydy'r geiriau ynddyn nhw eu hunain ddim yn ddigon. Gadewch inni ddefnyddio heddiw fel carreg filltir bwysig yn y broses o drawsnewid gwasanaethau i'r rheini sydd yn dioddef.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod darparu gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n diwallu'r ystod o anghenion yn her; bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau; a bod angen gwneud gwelliannau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, gyda mwy o fuddsoddiad i gefnogi hyn;
b) cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen i yrru'r gwelliannau.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf nawr ar James Evans i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. James Evans.
Rwy'n cynnig gwelliant 2. Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru a Rhun am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ar anhwylderau bwyta. Mae hwn yn fater sy’n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymdeithas. Nid yw'n gwahaniaethu, a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, ac mae’n iawn ein bod yn tynnu sylw at y broblem hon ac yn gwneud popeth a allwn i helpu’r rheini y mae anhwylder bwyta'n effeithio arnynt. Hoffwn dalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a fydd yn siarad yn nes ymlaen yn y ddadl hon, a’r gwaith y mae wedi’i wneud yn tynnu sylw at bwysigrwydd y pwnc hwn.
Mae anhwylderau bwyta'n salwch meddwl difrifol, a gallant arwain at ganlyniadau dinistriol i'r rheini yr effeithir arnynt. Maent yn effeithio ar yr unigolyn, ond maent yn cael effaith ehangach ar deuluoedd, gwasanaethau iechyd a’r gymdeithas ehangach hefyd. Mae gan oddeutu 1.25 miliwn o bobl yn y DU anhwylder bwyta, a gallwn ni yn y lle hwn wneud yr hyn a allwn heddiw i’w cefnogi. Fel y dywedodd Rhun, mae sawl math o anhwylder bwyta, gan gynnwys gorfwyta mewn pyliau, bwlimia, anorecsia ac eraill. Mae anhwylderau bwyta'n lladd, anorecsia sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf o unrhyw salwch meddwl, ac mae un o bob chwech o bobl ag anhwylder bwyta mewn pyliau yn ceisio lladd eu hunain. Mae pobl sy'n dioddef ag anhwylderau bwyta, yn amlach na pheidio, yn datblygu problemau iechyd corfforol difrifol fel clefyd y galon, osteoporosis, ac mae ansawdd eu bywyd yn waeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae triniaeth a gwellhad yn bosibl, a gall mynediad cynnar at y gofal a’r cymorth cywir newid bywyd rhywun. Ymyrraeth gynnar sy'n rhoi'r cyfle gorau i'r unigolyn ddechrau ar y llwybr tuag at wellhad. Mae unrhyw oedi cyn derbyn triniaeth a chefnogaeth yn ymestyn y dioddefaint i unigolion, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Mae hefyd yn cynyddu costau hirdymor y GIG. Fel y dywedais, mae atal ac ymyrraeth gynnar yn well na gwella unrhyw broblem wedi iddi droi'n argyfwng. Rwyf wedi sefydlu fy ngweithgor iechyd meddwl fy hun ers imi fod yma, ac rwy’n clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc ledled Cymru faint o bobl iau sy’n dioddef ag anhwylderau bwyta, a bod llawer mwy o ddylanwadau allanol yn effeithio’n negyddol ar eu cyflwr meddwl nag y mae llawer o wleidyddion yn y Siambr hon yn ei feddwl.
COVID-19—mae hynny wedi cael effaith enfawr ar bobl yr effeithir arnynt gan anhwylderau bwyta. Nododd arolwg prifysgol o bobl ag anhwylderau bwyta a gynhaliwyd yn 2020 fod naw o bob 10 o ymatebwyr wedi dweud bod eu symptomau wedi gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig, a bod gwasanaethau cymorth, y gwaith gwych y mae Beat yn ei wneud, wedi gweld cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth. Felly, mae'n rhaid inni roi mwy o gymorth i'r gwasanaethau hynny er mwyn helpu pobl sydd angen gofal.
Felly, beth sydd angen ei newid, a beth y gallwn ei wneud yma i helpu'r rheini yr effeithir arnynt? Yn y grŵp Ceidwadol, rydym yn cytuno â’r cynnig hwn a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ac edrychwn ymlaen at gefnogi eich cynnig gyda’n gwelliant yn nes ymlaen, gan fod angen inni sefydlu targedau, cyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta, ac mae angen inni ddarparu gofal arbenigol yng nghymunedau pobl a pheidio â gwneud i bobl deithio dros y ffin i gael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt, gan golli eu teulu, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth.
Lywydd, ni chredaf fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ddigon da, ac mae’n drueni eu bod wedi ceisio glastwreiddio'r ddadl hon. Credaf fod y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn gynnig da iawn, ac mae’n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud hyn unwaith eto. Ond y tu hwnt i’r cynnig hwn, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon, amlinellu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i wella hyfforddiant meddygol ar anhwylderau bwyta, i sicrhau bod ein meddygon teulu a'n gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwybod sut i nodi a thrin anhwylderau bwyta, a pha waith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar ymchwil i ddeall mwy am anhwylderau bwyta a'r hyn sy’n eu hachosi.
Heddiw, Aelodau, mae gennym gyfle i sefyll gyda’r rheini sy’n dioddef o anhwylderau bwyta, i ddweud, 'Rydym yn eich cefnogi, ac fe wnawn bopeth a allwn i sicrhau eich bod yn cael gofal o’r ansawdd yr ydych yn ei haeddu.’ Rwy’n annog pob Aelod i gefnogi’r cynnig yn ddiweddarach heno. Diolch, Lywydd.
Rwy’n ddiolchgar i Rhun am agor y ddadl heddiw ac am amlinellu pam ein bod ni fel grŵp yn awyddus i gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae'n amserol ein bod yn gallu gwneud hynny yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sydd unwaith eto yn rhoi sylw i fater sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Beat, sy’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth, yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i’r rheini sy’n dioddef.
Fel yr amlinellwyd eisoes, mae nifer o ffactorau wedi effeithio ar gynnydd ers yr adolygiad, gan amrywio o fuddsoddiad cyfyngedig ac anwastad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta, heriau'r gweithlu, yn ogystal, wrth gwrs, ag effaith COVID-19. Felly, y cwestiwn heddiw yw: sut y gallwn wneud cynnydd o'r diwedd ar y materion hyn? Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru', a helpodd i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y blynyddoedd canlynol. Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad gwasanaeth yn cyfeirio at gyhoeddi fframwaith newydd yn 2019, a hyd yn hyn, dim ond blaenoriaethau lefel uchel cychwynnol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta y mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi. Mae strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-2022 yn ei hymrwymo i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a byrddau iechyd i ddatblygu model gwasanaeth newydd mewn ymateb i’r adolygiad annibynnol diweddar.
Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fframwaith neu fodel newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta sy’n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni pob carreg filltir, a ddylai ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, gofal integredig, cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill a buddsoddiad yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff. Byddai cyhoeddi fframwaith neu fodel o’r fath yn dangos ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta yn llywio gwasanaethau’r dyfodol yng Nghymru. Byddai mabwysiadu gweledigaeth uchelgeisiol, hirdymor ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd yn debygol iawn o chwarae rhan allweddol wrth recriwtio staff, yn ogystal â chadw staff, sy'n hollbwysig.
Er mwyn sicrhau bod gweithredu fframwaith neu fodel gwasanaeth newydd yn gyraeddadwy, mae angen newidiadau i sicrhau buddsoddiad digonol a theg mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Dywedodd clinigydd gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol plant a’r glasoed wrth Beat, os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld y datblygiad hwn, fod angen iddynt fod yn glir ac yn gyfarwyddiadol iawn gyda'r byrddau iechyd.
Dylai Llywodraeth Cymru bennu isafswm gwariant ar anhwylderau bwyta o’r cyllid gwella gwasanaethau y mae’n ei ddyrannu i fyrddau iechyd, a dwyn byrddau iechyd i gyfrif mewn perthynas â'u buddsoddiad mewn anhwylderau bwyta.
Fel a nodwyd, gan gynnwys ddoe yn y Siambr, gwyddom fod 78 y cant o gleifion a atgyfeirir at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a’r glasoed yn aros am dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf, ac mae amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc yn waeth nag a gofnodwyd erioed erbyn hyn. Pobl ifanc yr ystyrir eu bod angen triniaeth frys, arbenigol yw'r rhain, ond cânt eu gorfodi i aros dros fis i gael eu gweld hyd yn oed. Mae'n rhaid inni gael darpariaeth gadarn ar waith fel y gall cleifion gael y driniaeth orau bosibl cyn gynted â phosibl, cyn i’w sefyllfa waethygu.
Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta wedi darparu cymorth gwerthfawr i fyrddau iechyd, gwasanaethau a chlinigwyr ledled Cymru. Mae maint yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau a'r amrywio parhaus yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd adnodd canolog i helpu i lywio gwelliannau. Dylai Llywodraeth Cymru wneud swydd arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta yn swydd barhaol. Ac yn 2021, ymgynghorodd yr arweinydd clinigol cenedlaethol yn aml â phobl â phrofiad bywyd o anhwylderau bwyta i helpu i lywio ei gwaith a gwaith y byrddau iechyd. Mae'n rhaid adeiladu ar hyn yn awr i sicrhau bod lleisiau cleifion a theuluoedd yn cael eu clywed bob amser wrth ddatblygu gwasanaethau, ar lefel genedlaethol a lleol.
Canfu Beat fod bylchau sylweddol yn y data sy'n cael ei goladu gan fyrddau iechyd ar anhwylderau bwyta. Os bydd hyn yn parhau, bydd yn cyfyngu ar y gallu i fonitro cynnydd a sicrhau atebolrwydd. Disgwylir i archwiliad anhwylderau bwyta gael ei gomisiynu yn 2022, ac ar hyn o bryd, dim ond Lloegr sydd i'w gynnwys yn yr archwiliad hwn, ond gellid ei ymestyn i gynnwys Cymru hefyd.
Dylai Llywodraeth Cymru ariannu archwiliad clinigol o anhwylderau bwyta fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set ddata safonol a chynhwysfawr o ansawdd uchel. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio’n drawsbleidiol i gyflawni’r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Ceir llawer gwell dealltwriaeth o anhwylderau bwyta erbyn hyn nag a oedd 50 mlynedd yn ôl. Gallaf gofio brodyr a chwiorydd ffrindiau i mi yn ei chael hi'n anodd deall beth y gallent ei wneud, ac nid oedd y proffesiwn meddygol yn gwybod yn iawn beth i'w wneud y tu hwnt i orfodi bwyd ar bobl a oedd yn benderfynol o lwgu eu hunain i farwolaeth.
Felly, rydym bellach mewn sefyllfa well o lawer i ymdrin â hyn, ac mae llawer llai o stigma ynghlwm wrtho hefyd. Mae dioddefwyr enwog iawn, fel Diana Spencer, Tywysoges Cymru, yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd pobl ifanc yn gofyn am gymorth, ond rydym ymhell iawn o lle y mae angen inni fod. Credaf fod adolygiad 2018 yn grynodeb da o’r broblem a’r camau yr oedd angen eu cymryd. Felly, roedd yn siomedig na roddwyd unrhyw ymateb ffurfiol i’r adroddiad rhagorol hwnnw tan fis Medi 2019, a chymerodd 15 mis arall i recriwtio arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta. Clywn gan Beat fod yr unigolyn dan sylw wedi cael effaith gadarnhaol iawn ers iddi ddechrau ar y gwaith, sy’n ddatblygiad cadarnhaol wrth gwrs. Ond mae llawer iawn o rwystrau ac anawsterau yma, ac mae gwir angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny.
Cafodd un o fy etholwyr, a ddatblygodd anhwylder bwyta difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud, ei derbyn i'r ysbyty i ward CAMHS yn y lle cyntaf, cyn cael ei rhyddhau oherwydd ymchwydd o achosion COVID, ac yna cafodd ei gadael ar ei phen ei hun fwy neu lai, ac yn anffodus, dywedwyd wrthi fod yr ysbyty agosaf lle gallai fynd am wasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol yn Wiltshire. Nid oedd unrhyw beth ar gael yng Nghymru. Rwy'n derbyn ein bod ynghanol pandemig ar y pryd, ond yn anffodus, fe geisiodd ladd ei hun, ac yn ffodus, cafodd ei hachub gan Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, ac mae bellach yn ymgyrchydd gwych dros sicrhau nad yw pobl eraill yn gorfod wynebu'r hyn a wynebodd hi, felly rwy'n rhoi pob clod iddi.
Felly, yn sicr, gallwn weld o adolygiad Beat fod y pandemig wedi rhoi gwynt dan adain yr anhwylder. Gallwn weld y ffigurau y maent yn eu dyfynnu: cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy’n ceisio cymorth o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, a chynnydd o 50 y cant mewn atgyfeiriadau mewn o leiaf ddau fwrdd iechyd. Felly, mae llawer mwy o gleifion angen cymorth nag sydd o glinigwyr i'w cefnogi.
Ond mae'n rhaid inni ddechrau yn y dechrau. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion pan fyddant yn ymddangos. Mae fy etholwr yn gwneud pwyntiau da iawn ar hyn. Mae'n fater cymhleth iawn. Dyma’r ochr arall i’r datganiad a gawsom ddoe ar y strategaeth gordewdra. Faint o ysgolion sy'n cyfrannu'n weithredol neu'n oddefol at y broblem drwy annog pobl ifanc i beidio â chael cinio oherwydd diffyg amser, neu ddiffyg lle yn yr ystafell fwyta i'w wneud yn brofiad dymunol yn hytrach nag un y byddwch yn dymuno dianc rhagddo a mynd i guddio yn rhywle arall? Yn amlwg, mae hynny’n cael effaith fawr ar ddysgu myfyrwyr, yn ogystal â phroblemau hirdymor posibl i’w perthynas â bwyd.
Felly, yn sicr, dyna lle y mae angen inni ddechrau, ond mae angen i feddygon teulu fod yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion hefyd, fel eu bod o ddifrif ynglŷn â hyn yn hytrach na gwthio pobl o bared i bost. Oherwydd nid yw'n ddigon da mynd at un gwasanaeth a chlywed, 'O, mae'n rhaid inni eich pwyso', a mynd at y gwasanaeth clinigol wedyn, sy'n dweud 'Mae'n rhaid inni eich pwyso.' Mae pobl yn cael yr argraff fod yn rhaid iddynt fynd yn salach cyn y gallant gael unrhyw sylw. Wel, mae hynny'n gwbl groes i'r ffordd y mae angen inni ymdrin â'r gwasanaeth iechyd. Felly, credaf fod angen dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dim drws anghywir, a pheidio â gorfod dweud eich stori 65 o weithiau cyn i chi allu cyrraedd unman.
Felly, ceir rhai heriau difrifol iawn, ac rwy'n siŵr fod y Dirprwy Weinidog yn eu hystyried, ond mae angen inni wybod beth a wnawn i recriwtio mwy o seiciatryddion, mwy o bediatregwyr ac arbenigwyr meddygol eraill. Dywed Beat y gallai fod llai ohonynt nag a oedd cyn adolygiad 2018. Golyga hyn ein bod yn y man cwbl anghywir, nid lle mae angen inni fod. Mae angen inni gael her recriwtio a chadw staff a fydd yn sicrhau ein bod yn cadw'r rheini y llwyddwn i’w recriwtio ac nad ydym yn eu gorweithio. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud, ond mae hwn yn fater difrifol iawn, a diolch i Blaid Cymru am ei gyflwyno.
Gwyddom fwy amdano, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd o hyd, ac mae mwy a mwy, fel y clywsom, o amrywiadau a mathau o anhwylder bwyta yn dod i'r amlwg bob dydd. O ystyried yr ystadegau a glywsom y prynhawn yma, gwyddom mai anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf ar gyfer unrhyw salwch meddwl, mae gan 60,000 o bobl yng Nghymru anhwylder bwyta, ac ychydig iawn a wyddom o hyd, am y maes afiechyd hwn. Ac mae angen datblygiadau mawr yn ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n achosi anhwylderau bwyta yn y lle cyntaf, sut i'w hatal rhag datblygu a'r ffordd orau o'u trin.
Drwy ymchwil, rydym wedi dod i ddysgu am y gwahanol anhwylderau bwyta hyn, y ffordd y maent yn dechrau ac yn datblygu. Mae ymwybyddiaeth o orthorecsia, er enghraifft, sy'n obsesiwn afiach gyda bwyta bwyd pur, yn tyfu ac yn datblygu. Ond heb gyllid ymchwil, bydd anhwylderau bwyta yn parhau i fod yn broblem iechyd cyhoeddus sylweddol, gan ddinistrio bywydau, fel y clywsom, ac arwain, wrth gwrs, at gostau uchel i'r GIG. Mae ymchwil i anhwylderau bwyta nid yn unig yn angenrheidiol ond mae'n fuddsoddiad doeth, oherwydd yn aml collir cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar, fel y clywsom, gan olygu nad yw triniaethau bob amser yn effeithiol nac yn cael eu teilwra'n briodol ac o ganlyniad, derbynnir llawer o gleifion am driniaeth ddrud mewn ysbyty, gan gynnwys mewn unedau arbenigol yn Lloegr mewn rhai achosion, sy'n effeithio ar yr unigolyn, wrth gwrs, yn ogystal â'r gwasanaethau eu hunain.
Yn 2020-21, cynhaliodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar anhwylderau bwyta ymchwiliad i gyllid ymchwil ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a chanfu'r ymchwiliad, er gwaethaf nifer yr achosion a difrifoldeb anhwylderau bwyta, mai ychydig iawn o gyllid a roddir tuag at ymchwil yn y maes. Cyfanswm buddsoddiad y DU o gyllid grant oedd £1.13 y pen y flwyddyn i'r rhai yr effeithiwyd arnynt rhwng 2009 a 2019. A rhwng 2015 a 2019, dim ond 1 y cant o gyllid ymchwil iechyd meddwl y DU, a oedd eisoes yn gyfyngedig iawn, a aeth tuag at ymchwil ar anhwylderau bwyta. Mae hyn er bod pobl ag anhwylderau bwyta oddeutu 9 y cant o gyfanswm nifer y bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn y DU.
Canfu'r ymchwiliad hefyd fod diffyg buddsoddiad hanesyddol wedi arwain at gylch dieflig. Prin yw'r ymchwilwyr a'r canolfannau ymchwil sy'n edrych yn weithredol ar hyn, ac felly ychydig iawn o ymchwil a gyhoeddwyd. Ac mae hyn wedi helpu i stigmateiddio agweddau, sy'n atgyfnerthu capasiti bach y maes a'i ddiffyg cyllid. Dylai targed ariannu ar gyfer maes ymchwil anhwylderau bwyta y DU fod yn seiliedig, fan lleiaf, ar gydraddoldeb o fewn ymchwil iechyd meddwl, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid o fewn a thu hwnt i'n ffiniau i helpu i wireddu'r nod hwn.
Mae cysylltiad clir rhwng anhwylderau bwyta a'r cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau ehangach. Yn aml, gall apiau sy'n newid ymddangosiad siâp a maint corff arwain at waethygu anhwylderau bwyta, drwy annog a normaleiddio syniad afrealistig o'r hyn sy'n dderbyniol o ran ymddangosiad corfforol. Mae pwysau ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i olygu eu postiau, ac mae algorithmau'n gwobrwyo'r rhai sydd â chynnwys cyfryngau cymdeithasol sy'n denu sylw drwy gyfrwng delweddau o berffeithrwydd honedig, delweddau sydd yn bwydo diwylliant sy'n gwrthod amrywiaeth a realiti. Mae hyn yn arwain pobl ifanc yn enwedig at ddod i'r casgliad dealladwy bod yn rhaid iddynt ail-greu'r delweddau ffug yma o berffeithrwydd maen nhw'n gweld ar eu cyfrifon.
Rhaid inni felly gwneud mwy i ddathlu amrywiaeth a herio'r diwylliant gwrthdroëdig a'i negeseuon peryglus sy'n medru cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol drwy'r delweddau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi lle digonol ar gyfer sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth o sut mae delweddau ystrydebol o gyrff perffaith wedi datblygu ac yn cael eu hannog gan y cyfryngau cymdeithasol, ac, o ddeall, yn cael yr hyder i herio a'r gallu i osgoi y niwed a ddaw yn sgil hyn. Yn ogystal, mae angen gweld y Llywodraeth yn gweithio gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i leihau effaith y llwyfannau hyn ar bobl Cymru o ran sbarduno a dwysáu anhwylderau bwyta.
Ystyriwyd anhwylderau bwyta ers tro, yn hanesyddol, yn salwch i fenywod—agwedd rhagfarnllyd sy'n gallu arwain at ddiffygion o ran triniaeth, yn ogystal â diagnosis, gan y gellir anwybyddu neu gamddehongli symptomau a allai fod yn gysylltiedig ag anhwylderau bwyta mewn dynion neu bobl LHDTC+. Yn wir, mae un astudiaeth wedi canfod bod rhyw 40 y cant o ddynion sy'n dioddef o anhwylder bwyta yn derbyn camddiagnosis, a bod y rhan fwyaf o'u symptomau yn cael eu cambriodoli i orbryder. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod unigolion o wahanol hunaniaethau rhywedd yn profi effaith eu anhwylderau bwyta mewn modd gwahanol.
Mae hyn i gyd eto'n arddangos yr angen am fframwaith newydd sy'n ystyried y daith unigol mae bob person ag anhwylder bwyta yn ei chymryd, a bod angen cyllid, ymchwil ac atebolrwydd i atal achos ac effeithiau'r anhwylderau dinistriol ac arteithiol hyn—anhwylderau y gellir eu hatal. Diolch.
Mae arnaf ofn fy mod wedi bod yn eithaf prysur gyda fy meiro yn tynnu llinell drwy gyfraniadau sydd eisoes wedi'u gwneud, oherwydd mae'r nodiadau a baratoais y bore yma eisoes wedi cael sylw. Felly, er mwyn osgoi ailadrodd yr hyn sydd eisoes wedi'i ddweud—
Mae bob amser yn syniad gwych i roi llinell drwy'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud yn hytrach na'i ailadrodd.
Ydy, ond fe wnaf nodi yn awr fy mod yn credu mai realiti sylfaenol y sefyllfa yw y bydd pobl yn etholaeth neu ranbarth pawb yn dioddef gydag anhwylder bwyta, ac mae gennyf lawer o brofiad yn fy ngyrfa 11 mlynedd gyda'r GIG yn gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol o drin pobl ag anhwylderau bwyta, ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r holl faterion sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae arnaf ofn fod fy holl gyfraniad eisoes wedi'i grybwyll, felly, er mwyn osgoi ailadrodd, rwyf am ei gadael yn y fan honno. Diolch, Lywydd.
Rwy'n eich cymeradwyo am hynny, ydw. Mark Isherwood. Mae'n rhoi amser i'ch cyd-Aelod, Mark Isherwood, gyfrannu yn awr.
Diolch, Lywydd. Mae hynny'n fy rhoi mewn lle anodd, braidd. Os caf fentro ailadrodd rhai pethau, fe wnaf symud ymlaen. Ond wrth siarad yma ym mis Ionawr, heriais y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ynghylch camau gweithredu i sicrhau cynnydd cyflymach a chyfartal ar wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Tynnais sylw at ganfyddiadau adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach' yr elusen anhwylderau bwyta, Beat, a gyhoeddwyd yr wythnos honno, a galwais ar Lywodraeth Cymru i gefnogi argymhellion yr adroddiad. Nododd adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru yn 2018 weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer ymyrraeth gynnar, triniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a chymorth i deuluoedd, gyda'r elusen anhwylder bwyta Beat yn chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad.
Ond canfu eu hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr fod y cynnydd tuag at gyflawni'r weledigaeth honno wedi amrywio'n fawr ledled Cymru, a phan ofynnais i'r Dirprwy Weinidog a fyddai Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhellion Beat, yn cyhoeddi model neu fframwaith gwasanaeth newydd, gan gynnwys amserlenni, i nodi'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd, ac os felly, pryd y byddai'n disgwyl i hynny ddigwydd, atebodd y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio adroddiad Beat i lywio eu gwaith wrth symud ymlaen. Felly, mae angen inni wybod lle, pryd a sut.
Fel y dywed y cynnig hwn, mae
'gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad', ac mae
'triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.'
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ar gyfer Cymru ddechrau mis Ionawr, cyn cyhoeddi eu hadroddiad ar y tair blynedd diwethaf, dywedodd wrthyf fod Beat wedi bod yn galw am weithredu 28 argymhelliad yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylder bwyta yn llawn ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys dyrannu digon o gyllid, hyfforddiant i'r gweithlu a staff, ynghyd â chynllun gweithredu ac amserlenni ar gyfer gweithredu'r argymhellion yn llawn ledled Cymru. Felly, unwaith eto rwy'n annog Aelodau sy'n poeni'n wirioneddol am y mater hwn i bleidleisio o blaid ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i,
'[b]ennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta.'
Fel gyda chymaint arall, heb hyn, ni fydd sylfaen i gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Rhaid pwysleisio hefyd fod thema ymgyrch Beat eleni, 'Worth More Than 2 Hours', yn ymwneud â'r diffyg hyfforddiant presennol ar anhwylderau bwyta i fyfyrwyr sy'n astudio mewn ysgolion meddygol. Yr hyn y gofynnant amdano'n bennaf fel polisi allweddol yng Nghymru ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yw i anhwylderau bwyta gael eu haddysgu a'u hasesu'n briodol ym mhob ysgol feddygol, ac i bob meddyg iau gael profiad clinigol yn ystod ei hyfforddiant sylfaen, lle mae dysgu am anhwylderau bwyta yn cael ei anwybyddu at ei gilydd mewn hyfforddiant meddygol, gyda chanlyniadau difrifol i brognosis a diogelwch cleifion.
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ddechrau mis Ionawr, trafodwyd hefyd yr angen i gryfhau'r cysylltiad rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta a gwasanaethau arbenigol eraill gan gynnwys awtistiaeth a diabetes, amseroedd aros cynyddol am driniaeth arbenigol, gyda phobl yn dod yn agored i niwed yn y cyfamser, a'r angen am ymyrraeth gynnar a mwy o gymorth i deuluoedd. Wedi hynny, anfonodd ragor o fanylion ataf am anhwylder osgoi/cyfyngu ar fwyd, neu ARFID, a sut y gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill fel awtistiaeth. Mae ARFID yn gyflwr lle mae'r unigolyn yn osgoi bwydydd neu fathau penodol o fwyd, yn cyfyngu ar faint y mae'n ei fwyta, neu'r ddau. Gallai rhywun fod yn osgoi a/neu'n cyfyngu ar yr hyn y maent yn ei fwyta am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys sensitifrwydd i flas, gwead, arogl neu olwg mathau penodol o fwyd, neu ond yn gallu bwyta bwydydd ar dymheredd penodol. Gall hyn arwain at osgoi neu gyfyngu ar y bwyd sy'n cael ei fwyta yn seiliedig ar y synhwyrau. Fel y dywed Beat, gall ARFID fod yn bresennol ar ei ben ei hun neu gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill, anhwylderau gorbryder, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn fwyaf cyffredin. Fel y dywed adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach', eglurodd yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylderau bwyta
'[f]od ymyrraeth gynnar a thriniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gofyn am ddull integredig, gyda gwasanaethau’n cyfathrebu a chydweithio’n dda â’i gilydd.'
Yn benodol, canolbwyntiai ar wella integreiddio rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta, gofal sylfaenol, gwasanaethau rheoli pwysau, gwasanaethau diabetes, awtistiaeth a gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Fodd bynnag, canfu eu harolwg o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a gwirfoddolwyr ddiffyg cydweithio integredig gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithio integredig gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, gan rwystro
'gallu’r timau/gwasanaethau i fodloni’r galw presennol am driniaeth anhwylder bwyta.'
Roedd hynny ym mis Ionawr. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif, rhaid iddi ymrwymo i'r camau gwirioneddol y mae'r cynnig hwn yn galw amdanynt yn unol â hynny.
Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl—Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau ac am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig. Mae llawer yn y cynnig hwn rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen gwneud gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ac rwyf wedi ymrwymo'n ddiffuant i hyrwyddo hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r sylw y mae Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yn ei roi i'r effaith y mae anhwylderau bwyta yn ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi ac annog pobl i ddod o hyd i gymorth priodol.
Dywedodd Jenny Rathbone fod angen inni fod yn onest, ac rwy'n cytuno. Roedd adolygiad annibynnol 2018 yn bwysig, ond roedd rhai o'u hargymhellion yn uchelgeisiol, gan ddarparu gweledigaeth hirdymor o wasanaethau. Mae ein hymgysylltiad â gwasanaethau ers cyhoeddi'r adolygiad wedi dangos eu hymrwymiad i wella, ac er bod cefnogaeth gyffredinol i'r dyhead mawr yn yr adolygiad, mae mwy i'w wneud i lunio'r model gwasanaeth a'r dull gweithredu sy'n gweddu orau i'n gwasanaeth yng Nghymru, ac mae cefnogaeth glinigol i'r model hwnnw yn gwbl hanfodol. Byddaf yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau anhwylderau bwyta yn fy ngwaith gweinidogol fy hun, gan gynnwys craffu ar y cynnydd mewn cyfarfodydd gydag is-gadeiryddion. Rwyf hefyd yn croesawu'r adolygiad gan Beat ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i wella'r ystod lawn o gymorth sydd ei angen ar bobl ag anhwylderau bwyta, nid gwasanaethau'r GIG yn unig.
Er fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch cyflymder y gwelliannau hyn, mae angen inni gydnabod y pwysau ar wasanaethau yn y 18 i 24 mis diwethaf. Mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau anhwylderau bwyta, gyda'r angen i ganolbwyntio ar bwysau uniongyrchol i sicrhau bod gwasanaethau'n darparu ymateb diogel a phriodol i'r rhai sydd ei angen. Gyda lefelau digynsail o alw, problemau mwy difrifol a chleifion mwy cymhleth, mae blaenoriaethu'n seiliedig ar angen clinigol wedi bod yn fwy heriol i'n gweithlu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i holl staff y GIG sy'n gweithio ym maes gwasanaethau anhwylderau bwyta, sy'n parhau i wneud popeth yn eu gallu i ddiwallu anghenion cleifion yn y cyfnod eithriadol o heriol hwn. Rwyf hefyd yn cydnabod y galw cynyddol ar y trydydd sector o ganlyniad i'r pandemig, a'r rôl hanfodol y mae'r sector wedi'i chwarae.
Er gwaethaf y pwysau hwn, mae cynnydd i'w weld. Ymwelais â dau dîm anhwylder bwyta yr wythnos diwethaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gwelais y gwaith y maent yn ei wneud ar wella'r gefnogaeth yn y gymuned ac i atal pobl ifanc rhag cael eu lleoli y tu allan i'r ardal. Wrth ddisgrifio'r heriau allweddol yr oeddent wedi'u profi drwy gydol y pandemig, roeddent yn dangos dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac ar draws y system gyfan, gan ddefnyddio cymysgedd o sgiliau i ddarparu gwasanaethau—y math o wasanaeth yr ydym i gyd am ei weld ledled Cymru. Mae ein buddsoddiad ychwanegol a rheolaidd wedi arwain at gynyddu'r gweithlu gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol, ac rydym wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i staff. Gwnaed gwaith helaeth hefyd ar ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad bywyd a'u teuluoedd a'u ffrindiau ar draws gwasanaethau anhwylderau bwyta a arweinir gan y bwrdd iechyd lleol, ac rwy'n benderfynol y bydd yr ymgysylltu hwn yn sail i'n cynlluniau ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Ar lefel genedlaethol, gwnaethom ymateb yn gyflym i'r pwysau a'r galw cynyddol a welsom ar ddechrau'r pandemig, a chryfhau ystod o gymorth haen 0/1 yn sylweddol. Mae'r cymorth hwn yn darparu mynediad agored cynnar i gymorth a chyngor, gyda chymorth penodol ar gyfer anhwylderau bwyta drwy ein buddsoddiad sylweddol yn llinell gymorth Beat a'u gwasanaethau eraill. Darparodd ein buddsoddiad ychwanegol yn Beat dros 7,000 o sesiynau cymorth yng Nghymru yn ystod 2021. Sesiynau yw'r rhain sydd nid yn unig wedi'u targedu at y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, ond ffrindiau a theulu yn ogystal, sydd mor allweddol i gefnogi unigolion drwy ddiagnosis a thriniaeth. Rydym hefyd wedi cymryd camau ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta ymhlith gweithwyr meddygol proffesiynol ac i ysgogi diddordeb ynddynt. Fe ildiaf i Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad, ac rwy'n ymddiheuro ymlaen llaw os yw'n ymyriad cynamserol. Ni allaf aros tan ddiwedd eich sylwadau, am resymau amlwg, oherwydd bydd yn rhy hwyr wedyn i ofyn cwestiwn. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedoch chi hyd yn hyn. Rwyf wedi cydnabod y bu enillion, ac roedd yr adolygiad tair blynedd gan Beat yn cydnabod y bu enillion. Er fy mod yn sylweddoli eich bod yn dweud bod llawer y cytunwch ag ef yng nghynnig Plaid Cymru heddiw, a wnewch chi egluro beth yn union yr anghytunwch ag ef yn y cynnig? Oherwydd nid ydym wedi clywed dim byd ond tir cyffredin yn awr, a dim rheswm hyd yma pam na fyddech yn cefnogi ein cynnig.
Diolch ichi am yr ymyriad hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Rhun, ond credaf mai prif asgwrn y gynnen, mewn gwirionedd, yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd gwyddom yn union lle y mae angen inni ei gyrraedd gyda gwasanaethau anhwylderau bwyta. Ceir canllawiau NICE clir y mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu bodloni. Rydym hefyd yn sefydlu trefniadau llywodraethu clinigol newydd, a bydd cynllun gwaith yn dod o dan hynny. Felly, i grynhoi, mae'n debyg mai dyna yw'r gwahaniaeth allweddol—nad ydym yn gweld yr angen am fframwaith ar wahân, oherwydd mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill.
Fel y dywedais, rydym wedi cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta, ac mae hynny'n cynnwys datblygu adnoddau clinigol ar gyfer meddygon teulu a chlinigwyr pediatrig, cynyddu dealltwriaeth a diddordeb yn yr arbenigedd hwn, helpu i nodi'r arwyddion, asesu anhwylderau bwyta, a chael mynediad at lwybrau atgyfeirio priodol. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol, rwyf wedi bod yn glir fod yn rhaid inni barhau i flaenoriaethu gwasanaethau anhwylderau bwyta, gyda'r cyllid cynyddol o'r £50 miliwn ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl yn 2022-23. Mae hwn yn gyllid ychwanegol a rheolaidd sylweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cynyddu'r cyllid sylfaenol i gefnogi gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl sy'n newid o ganlyniad i COVID.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r ateb yw cyllid. Mae recriwtio i wasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol yn parhau i fod yn her. Rhaid inni barhau i ddatblygu gweithlu cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae materion yn ymwneud â'r gweithlu yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl, a dyna pam ein bod wedi comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol i Gymru. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y cynllun ar hyn o bryd, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys sicrhau bod gennym y ddarpariaeth gywir yn y dyfodol i gefnogi'r rhai sy'n byw gydag anhwylder bwyta.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i gael data cynhwysfawr, a bydd ein gwaith parhaus ar ddatblygu set ddata graidd iechyd meddwl yn gwella data ar draws y gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau anhwylderau bwyta. Yn dilyn yr amrywiolyn omicron, rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen inni ailosod ac adfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae'n rhaid inni gofio eu bod wedi parhau i fod ar gael drwy gydol y pandemig. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys anhwylderau bwyta, ac mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda'r GIG ar y cyd i ailosod cynllun gwaith rhwydwaith anhwylderau bwyta'r GIG i gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau anhwylderau bwyta. Fel mater o flaenoriaeth, bydd hyn yn cynnwys cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol genedlaethol i sbarduno'r newid hwn. Heb oedi'r gwaith gwella sydd eisoes ar y gweill, rydym am weithredu model rhwydwaith anhwylderau bwyta yng Nghymru a all wneud y gwelliant trawsnewidiol y mae pob un ohonom am ei weld ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Wrth inni gefnu ar COVID, byddwn hefyd yn profi'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud yn erbyn y blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer gwasanaethau yn seiliedig ar yr adolygiad annibynnol. Bydd hyn yn rhoi darlun clir i ni o'r cynnydd hyd yma o lle y mae pob bwrdd iechyd arni ar ei daith wella. Yn seiliedig ar hyn, gofynnir yn awr i fyrddau iechyd adnewyddu eu cynlluniau presennol gyda cherrig milltir clir i ailgyflunio gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach, bodloni safonau NICE a chyflawni amser aros o bedair wythnos. Mae safonau ansawdd NICE yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn nodi chwe maes ansawdd. Fe'u cefnogir gan randdeiliaid allweddol a byddwn yn defnyddio'r rhain fel ein fframwaith i gefnogi gwelliant, yn hytrach na datblygu fframwaith ar wahân ein hunain. Bydd yr Aelodau hefyd am nodi ein bod wedi bod mewn trafodaethau ers haf 2021 gyda phartner allweddol i drefnu archwiliad clinigol cenedlaethol ffurfiol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta ar gyfer Cymru a Lloegr, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny maes o law.
Rwy'n cydnabod heddiw ein bod wedi canolbwyntio ar wasanaethau'r GIG, ac nid yw hynny ond yn rhan o'r newid sydd ei angen arnom. Mae anhwylderau bwyta yn gymhleth ac mae'r ffactorau risg yn amrywio. Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar weithdai bwyta'n iach a delwedd y corff drwy ein dull ysgol gyfan, ac mae mor bwysig i mi ein bod yn gallu ymyrryd yn gynnar ac ar bwynt tyngedfennol yn natblygiad pobl ifanc. Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i hyrwyddo'r newid sydd ei angen yn ein gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y newidiadau trawsnewidiol system gyfan sydd eu hangen i leihau'r ffactorau risg cymhleth sy'n achosi anhwylderau bwyta. Nid yw hyn yn rhywbeth y gall neu y dylai'r GIG ei wneud ar ei ben ei hun. Diolch.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hymateb hi i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Fel dwi'n dweud, mae yna gytundeb yma ar yr angen i gryfhau gwasanaethau. Dwi'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i ymyrryd ar sylwadau'r Dirprwy Weinidog a gofyn yn union beth oedd ei gwrthwynebiad hi i’r cynnig sydd o'n blaenau ni, achos rŵan, rydyn ni yn deall.
Prif asgwrn y gynnen yw'r angen am fframwaith newydd, oherwydd mae hwn yn waith sydd eisoes ar y gweill. Nid ni sy'n dweud bod angen fframwaith newydd arnom, Beat sy'n dweud hynny; dyma'r sefydliad blaenllaw sy'n deall lle mae'r diffygion yn y ddarpariaeth bresennol i'r rhai sy'n dioddef o anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n tueddu i wrando ar y rhai sy'n deall, yn yr un modd ag y gweithiaf gyda'r elusennau canser ac y gwrandawaf arnynt pan fyddant yn pwyso ac yn gofyn am gynllun canser newydd. Pan fydd Beat yn dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth? Nid yw'r fframweithiau sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio i ni mewn gwirionedd, mae angen inni adeiladu rhywbeth newydd', credaf fod honno'n neges glir fod angen inni symud i'r cyfeiriad hwnnw.
Mae yna sylwadau craff wedi cael eu gwneud o feinciau Llafur a'r Ceidwadwyr. Mi wnaf i fframio yr ychydig sylwadau sydd gen i ar ôl o gwmpas yr hyn ddywedwyd wrthyf i gan un dioddefwr anhwylderau bwyta. Mi fyddwch chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn gwneud gwaith yn ddiweddar yn siarad efo pobl ifanc ynglŷn â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol. Roedd y person yma wedi aros blwyddyn i gael dechrau cyfres o sesiynau cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi ac yn gallu uniaethu yn y cyd-destun yma efo sylwadau yr Aelod dros Ganol Caerdydd, yn dweud na ddylem ni fod yn caniatáu bod drws anghywir i'w gnocio arno fo, ac na ddylai pobl ddim gorfod egluro eu hunain dro ar ôl tro fel oedd y person ifanc yma wedi gorfod ei wneud: 'Dwi newydd gael fy "discharge-io" o ofal gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol ar ôl disgwyl 12 mis amdano fo. Dwi dim ond wedi cael rhyw wyth i 10 sesiwn. Dwi wedi dysgu dipyn bach, ond dwi rŵan yn dal i stryglo a dwi ar fy mhen fy hun rŵan. Os dwi eisiau gofal eto, dwi'n gorfod 'apply-io' eto efo'r meddyg teulu a disgwyl yn hir iawn eto.' Dydy hi ddim yn dderbyniol, o fewn y fframweithiau presennol sydd gennym ni, fod ein pobl ifanc ni, a phobl o bob oed, yn teimlo mai dyna'r mathau o rwystrau sydd yn eu herbyn nhw. Mae'n rhaid inni gael modelau clir yn eu lle ar gyfer darparu'r ymyrraeth gynnar yma. Mae'n mynd yn ei blaen: 'Ffurf o broblem iechyd meddwl ydy o.' A dwi'n meddwl am sylwadau Sioned yn fan hyn ynglŷn â delweddau, cyfryngau cymdeithasol a phwysau cymdeithasol ac ati. 'Oherwydd y gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi rŵan, mae ymddygiad anhwylderau bwyta weithiau'n cael ei normaleiddio, weithiau hyd yn oed yn cael ei gomplimentio', meddai'r person ifanc yma. Ond anhwylder iechyd meddwl ydy o, ac mae'n rhaid i bethau gael eu cymryd ychydig bach mwy o ddifrif.
Pan fo rhywun yn teimlo dyw anhwylder sydd yn fwrn ar eu bywydau nhw ddim yn cael ei gymryd o ddifrif, mae hynny hefyd yn neges inni bosib bod yna rywbeth o'i le yn y fframweithiau rydyn ni'n gweithio oddi mewn iddyn nhw. Felly, er mwyn i bawb gael yr help maen nhw ei angen, mor gyflym ag y maen nhw ei angen o, mae'n rhaid rhoi mwy o sylw i roi'r patrymau a'r gofal sydd yn angenrheidiol mewn lle.
Dwi'n gofyn ichi heddiw gefnogi cynnig Plaid Cymru sydd yn benodol yn yr hyn mae o'n gofyn amdano fo, a chefnogi gwelliant 2 hefyd sydd yn ychwanegu'r angen yma am dargedau fel ein bod ni'n gallu mesur y cerrig milltir wrth inni eu cyrraedd nhw. Fel y dywedais i, dydy cytundeb ynddo fo'i hun ar yr angen i wneud pethau'n well ddim yn golygu bod y map gennym ni ar sut i gyrraedd at y pwynt yma. Cefnogwch y cynnig yma heddiw fel datganiad ein bod ni o ddifrif ynglŷn â symud tuag at y math o ddarpariaeth mae poblogaeth Cymru ei hangen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd hynny'n dilyn egwyl fer y bydd angen inni ei chymryd nawr ar gyfer paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Felly, egwyl yn gyntaf.