7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:17, 2 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau ac am gyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig. Mae llawer yn y cynnig hwn rwy'n cytuno ag ef. Rwy'n ymwybodol iawn fod angen gwneud gwelliannau i wasanaethau anhwylderau bwyta ac rwyf wedi ymrwymo'n ddiffuant i hyrwyddo hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r sylw y mae Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta yn ei roi i'r effaith y mae anhwylderau bwyta yn ei chael ar unigolion, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi ac annog pobl i ddod o hyd i gymorth priodol.

Dywedodd Jenny Rathbone fod angen inni fod yn onest, ac rwy'n cytuno. Roedd adolygiad annibynnol 2018 yn bwysig, ond roedd rhai o'u hargymhellion yn uchelgeisiol, gan ddarparu gweledigaeth hirdymor o wasanaethau. Mae ein hymgysylltiad â gwasanaethau ers cyhoeddi'r adolygiad wedi dangos eu hymrwymiad i wella, ac er bod cefnogaeth gyffredinol i'r dyhead mawr yn yr adolygiad, mae mwy i'w wneud i lunio'r model gwasanaeth a'r dull gweithredu sy'n gweddu orau i'n gwasanaeth yng Nghymru, ac mae cefnogaeth glinigol i'r model hwnnw yn gwbl hanfodol. Byddaf yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau anhwylderau bwyta yn fy ngwaith gweinidogol fy hun, gan gynnwys craffu ar y cynnydd mewn cyfarfodydd gydag is-gadeiryddion. Rwyf hefyd yn croesawu'r adolygiad gan Beat ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i wella'r ystod lawn o gymorth sydd ei angen ar bobl ag anhwylderau bwyta, nid gwasanaethau'r GIG yn unig.

Er fy mod yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch cyflymder y gwelliannau hyn, mae angen inni gydnabod y pwysau ar wasanaethau yn y 18 i 24 mis diwethaf. Mae'r pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau anhwylderau bwyta, gyda'r angen i ganolbwyntio ar bwysau uniongyrchol i sicrhau bod gwasanaethau'n darparu ymateb diogel a phriodol i'r rhai sydd ei angen. Gyda lefelau digynsail o alw, problemau mwy difrifol a chleifion mwy cymhleth, mae blaenoriaethu'n seiliedig ar angen clinigol wedi bod yn fwy heriol i'n gweithlu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i holl staff y GIG sy'n gweithio ym maes gwasanaethau anhwylderau bwyta, sy'n parhau i wneud popeth yn eu gallu i ddiwallu anghenion cleifion yn y cyfnod eithriadol o heriol hwn. Rwyf hefyd yn cydnabod y galw cynyddol ar y trydydd sector o ganlyniad i'r pandemig, a'r rôl hanfodol y mae'r sector wedi'i chwarae.

Er gwaethaf y pwysau hwn, mae cynnydd i'w weld. Ymwelais â dau dîm anhwylder bwyta yr wythnos diwethaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gwelais y gwaith y maent yn ei wneud ar wella'r gefnogaeth yn y gymuned ac i atal pobl ifanc rhag cael eu lleoli y tu allan i'r ardal. Wrth ddisgrifio'r heriau allweddol yr oeddent wedi'u profi drwy gydol y pandemig, roeddent yn dangos dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac ar draws y system gyfan, gan ddefnyddio cymysgedd o sgiliau i ddarparu gwasanaethau—y math o wasanaeth yr ydym i gyd am ei weld ledled Cymru. Mae ein buddsoddiad ychwanegol a rheolaidd wedi arwain at gynyddu'r gweithlu gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol, ac rydym wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i staff. Gwnaed gwaith helaeth hefyd ar ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad bywyd a'u teuluoedd a'u ffrindiau ar draws gwasanaethau anhwylderau bwyta a arweinir gan y bwrdd iechyd lleol, ac rwy'n benderfynol y bydd yr ymgysylltu hwn yn sail i'n cynlluniau ar gyfer gwella yn y dyfodol.

Ar lefel genedlaethol, gwnaethom ymateb yn gyflym i'r pwysau a'r galw cynyddol a welsom ar ddechrau'r pandemig, a chryfhau ystod o gymorth haen 0/1 yn sylweddol. Mae'r cymorth hwn yn darparu mynediad agored cynnar i gymorth a chyngor, gyda chymorth penodol ar gyfer anhwylderau bwyta drwy ein buddsoddiad sylweddol yn llinell gymorth Beat a'u gwasanaethau eraill. Darparodd ein buddsoddiad ychwanegol yn Beat dros 7,000 o sesiynau cymorth yng Nghymru yn ystod 2021. Sesiynau yw'r rhain sydd nid yn unig wedi'u targedu at y rhai sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, ond ffrindiau a theulu yn ogystal, sydd mor allweddol i gefnogi unigolion drwy ddiagnosis a thriniaeth. Rydym hefyd wedi cymryd camau ar y cyd i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta ymhlith gweithwyr meddygol proffesiynol ac i ysgogi diddordeb ynddynt. Fe ildiaf i Rhun ap Iorwerth.