7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 2 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:27, 2 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hymateb hi i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Fel dwi'n dweud, mae yna gytundeb yma ar yr angen i gryfhau gwasanaethau. Dwi'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i ymyrryd ar sylwadau'r Dirprwy Weinidog a gofyn yn union beth oedd ei gwrthwynebiad hi i’r cynnig sydd o'n blaenau ni, achos rŵan, rydyn ni yn deall.