Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 2 Mawrth 2022.
Ydy, ond fe wnaf nodi yn awr fy mod yn credu mai realiti sylfaenol y sefyllfa yw y bydd pobl yn etholaeth neu ranbarth pawb yn dioddef gydag anhwylder bwyta, ac mae gennyf lawer o brofiad yn fy ngyrfa 11 mlynedd gyda'r GIG yn gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol o drin pobl ag anhwylderau bwyta, ac rwy'n gwbl ymwybodol o'r holl faterion sydd ynghlwm wrth hynny. Ond mae arnaf ofn fod fy holl gyfraniad eisoes wedi'i grybwyll, felly, er mwyn osgoi ailadrodd, rwyf am ei gadael yn y fan honno. Diolch, Lywydd.