Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch, Lywydd. Mae hynny'n fy rhoi mewn lle anodd, braidd. Os caf fentro ailadrodd rhai pethau, fe wnaf symud ymlaen. Ond wrth siarad yma ym mis Ionawr, heriais y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ynghylch camau gweithredu i sicrhau cynnydd cyflymach a chyfartal ar wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru. Tynnais sylw at ganfyddiadau adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach' yr elusen anhwylderau bwyta, Beat, a gyhoeddwyd yr wythnos honno, a galwais ar Lywodraeth Cymru i gefnogi argymhellion yr adroddiad. Nododd adolygiad gwasanaeth anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru yn 2018 weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer ymyrraeth gynnar, triniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a chymorth i deuluoedd, gyda'r elusen anhwylder bwyta Beat yn chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad.
Ond canfu eu hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr fod y cynnydd tuag at gyflawni'r weledigaeth honno wedi amrywio'n fawr ledled Cymru, a phan ofynnais i'r Dirprwy Weinidog a fyddai Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhellion Beat, yn cyhoeddi model neu fframwaith gwasanaeth newydd, gan gynnwys amserlenni, i nodi'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd, ac os felly, pryd y byddai'n disgwyl i hynny ddigwydd, atebodd y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio adroddiad Beat i lywio eu gwaith wrth symud ymlaen. Felly, mae angen inni wybod lle, pryd a sut.
Fel y dywed y cynnig hwn, mae
'gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad', ac mae
'triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad.'
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ar gyfer Cymru ddechrau mis Ionawr, cyn cyhoeddi eu hadroddiad ar y tair blynedd diwethaf, dywedodd wrthyf fod Beat wedi bod yn galw am weithredu 28 argymhelliad yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylder bwyta yn llawn ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys dyrannu digon o gyllid, hyfforddiant i'r gweithlu a staff, ynghyd â chynllun gweithredu ac amserlenni ar gyfer gweithredu'r argymhellion yn llawn ledled Cymru. Felly, unwaith eto rwy'n annog Aelodau sy'n poeni'n wirioneddol am y mater hwn i bleidleisio o blaid ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i,
'[b]ennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta.'
Fel gyda chymaint arall, heb hyn, ni fydd sylfaen i gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Rhaid pwysleisio hefyd fod thema ymgyrch Beat eleni, 'Worth More Than 2 Hours', yn ymwneud â'r diffyg hyfforddiant presennol ar anhwylderau bwyta i fyfyrwyr sy'n astudio mewn ysgolion meddygol. Yr hyn y gofynnant amdano'n bennaf fel polisi allweddol yng Nghymru ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yw i anhwylderau bwyta gael eu haddysgu a'u hasesu'n briodol ym mhob ysgol feddygol, ac i bob meddyg iau gael profiad clinigol yn ystod ei hyfforddiant sylfaen, lle mae dysgu am anhwylderau bwyta yn cael ei anwybyddu at ei gilydd mewn hyfforddiant meddygol, gyda chanlyniadau difrifol i brognosis a diogelwch cleifion.
Pan gyfarfûm â swyddog cenedlaethol Beat ddechrau mis Ionawr, trafodwyd hefyd yr angen i gryfhau'r cysylltiad rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta a gwasanaethau arbenigol eraill gan gynnwys awtistiaeth a diabetes, amseroedd aros cynyddol am driniaeth arbenigol, gyda phobl yn dod yn agored i niwed yn y cyfamser, a'r angen am ymyrraeth gynnar a mwy o gymorth i deuluoedd. Wedi hynny, anfonodd ragor o fanylion ataf am anhwylder osgoi/cyfyngu ar fwyd, neu ARFID, a sut y gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill fel awtistiaeth. Mae ARFID yn gyflwr lle mae'r unigolyn yn osgoi bwydydd neu fathau penodol o fwyd, yn cyfyngu ar faint y mae'n ei fwyta, neu'r ddau. Gallai rhywun fod yn osgoi a/neu'n cyfyngu ar yr hyn y maent yn ei fwyta am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys sensitifrwydd i flas, gwead, arogl neu olwg mathau penodol o fwyd, neu ond yn gallu bwyta bwydydd ar dymheredd penodol. Gall hyn arwain at osgoi neu gyfyngu ar y bwyd sy'n cael ei fwyta yn seiliedig ar y synhwyrau. Fel y dywed Beat, gall ARFID fod yn bresennol ar ei ben ei hun neu gall gyd-ddigwydd â chyflyrau eraill, anhwylderau gorbryder, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn fwyaf cyffredin. Fel y dywed adroddiad 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach', eglurodd yr adolygiad o'r gwasanaeth anhwylderau bwyta
'[f]od ymyrraeth gynnar a thriniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gofyn am ddull integredig, gyda gwasanaethau’n cyfathrebu a chydweithio’n dda â’i gilydd.'
Yn benodol, canolbwyntiai ar wella integreiddio rhwng gwasanaethau anhwylderau bwyta, gofal sylfaenol, gwasanaethau rheoli pwysau, gwasanaethau diabetes, awtistiaeth a gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Fodd bynnag, canfu eu harolwg o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a gwirfoddolwyr ddiffyg cydweithio integredig gyda gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol eraill a diffyg cydweithio integredig gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, gan rwystro
'gallu’r timau/gwasanaethau i fodloni’r galw presennol am driniaeth anhwylder bwyta.'
Roedd hynny ym mis Ionawr. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif, rhaid iddi ymrwymo i'r camau gwirioneddol y mae'r cynnig hwn yn galw amdanynt yn unol â hynny.