Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 8 Mawrth 2022.
Dim ond ychydig o sylwadau byr am y broses efallai i ddechrau. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y gyllideb yn dychwelyd i'w hamserlen arferol o wyth wythnos eistedd o graffu. Nid ydym wedi cael hynny ers amser maith, ac rwy'n credu nad yw'r cyfnodau craffu byrrach hyn yn helpu mewn gwirionedd. A gwnaf i'r pwynt eto: mae ymatebion gweinidogol i adroddiadau pwyllgorau ar y cyllidebau yn cyrraedd yn hwyr yn y dydd. Rwy'n credu y cafodd pwyllgor yr amgylchedd ein hymateb ni 24 awr yn ôl. Mae'n welliant ar y llynedd, pan ddaeth rhai o'r ymatebion hynny ar ôl y bleidlais derfynol ar y gyllideb, ond mae angen gwirioneddol i ni ddychwelyd at lefel fwy gwastad ar hyn, rwy'n meddwl, oherwydd nid dyna'r ffordd y dylai pethau fod yn digwydd mewn gwirionedd. Ac rwy'n gwybod bod rhywfaint ohono'n cael ei lywio gan amserlenni Llywodraeth y DU, ac mae'n dda y gallwn gael setliad aml-flwyddyn am y tro cyntaf ers amser maith eleni, a gadewch i ni obeithio na fyddwn yn symud yn ôl o'r sefyllfa honno yn y dyfodol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd, er enghraifft, ynghylch cario arian drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall, mwy o bwerau yn ogystal â benthyca. Mae'n rhaid croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i Gymru i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn mynd â'r neges honno yn ôl i Lywodraeth y DU hefyd.
Rwy'n croesawu'r defnydd a gynigir yn y gyllideb hon o bwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu mwy o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn i ddod a gor-raglennu cynlluniau cyfalaf. Mae'n hen bryd i ni wneud i arian Cymru weithio mor galed â phosibl yn wyneb yr heriau sydd gennym o'n blaenau. Ond, gyda hynny, wrth gwrs, byddem yn disgwyl diweddariadau mwy rheolaidd felly gan y Llywodraeth a mwy o graffu hefyd gan y Pwyllgor Cyllid i sicrhau ein bod yn cadw llygad ar y cyllid sydd yng nghronfa wrth gefn Cymru, o gofio y bydd y wasgfa'n fwy ar y cyllid hwnnw.
Mae'n peri rhwystredigaeth bod yr arian a ddylai fod yn dod i Gymru yn cael ei wrthod i ni gan Lywodraeth y DU, mae arnaf ofn. Rydym wedi clywed droeon, pe bai cyllid i Gymru wedi cynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant, y byddem yn sôn am o leiaf £3 biliwn yn fwy heddiw yn y gyllideb hon. Cyllid HS2, dylai miliynau lawer yn fwy fod ar gael i ni, yn ogystal â'r hyn yr ydym eisoes wedi ei glywed mewn cysylltiad â chael llai na'r hyn a gawsom o gyllid yr UE. Nid ydym yn cyhuddo'r Torïaid o fychanu Cymru; rydym mewn gwirionedd yn cyhuddo'r Torïaid o ddal Cymru i lawr drwy wrthod arian i ni sydd, a dweud y gwir, yn cael ei roi i weinyddiaethau datganoledig eraill yn y DU, a'r cyfan yr ydym ni'n ei ddymuno yw cydraddoldeb yn hynny o beth. Ond rydym yn y sefyllfa yr ydym ni.
Nawr, amlinellodd Plaid Cymru ein cynigion ar gyfer ein rhaglen lywodraethu yn ein maniffesto y llynedd, â chostau llawn wedi eu cyfrifo, ac wedi eu dilysu'n annibynnol, felly nid dyma'r gyllideb y byddem ni wedi ei chyflwyno yma heddiw o reidrwydd, ond gallwn ni, fel plaid, fod yn hynod falch bod llawer o'n polisïau—rhai, mewn gwirionedd, a wrthodwyd gan y Llywodraeth yn y gorffennol—wrth wraidd y gyllideb hon bellach.