10. Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:46, 8 Mawrth 2022

Mae'r gyllideb yma yn cyflawni ar nifer o brif addewidion Plaid Cymru o'n maniffesto diweddar ni. Dau gan miliwn o bunnau yn y gyllideb i sicrhau bod prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac mae hynny'n cynnwys dros £20 miliwn yn ychwanegol i estyn prydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf eleni. Chwedeg miliwn o bunnau i ddechrau estyn gofal plant i blant dwy flwydd oed. Dros £100 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn gwytnwch cenedlaethol a llifogydd, gyda £24 miliwn ychwanegol mewn arian refeniw. Chwedeg miliwn o bunnau mewn arian cyfalaf a £27 miliwn mewn arian refeniw i ddarlledu, y cyfryngau a diwylliant. Miliynau lawer i hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chreu Ynni Cymru. Miliynau hefyd i sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau tai. Miliynau ar gyfer Arfor, ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Miliynau hefyd i iechyd meddwl, yn refeniw ac yn gyfalaf.

Mae yna gyfres o fuddsoddiadau yn y gyllideb yma sy'n unioni nifer o anghyfiawnderau cymdeithasol, sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, yn adeiladu nôl o'r pandemig wrth inni wynebu'r heriau mawr rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn ein trafodaethau ni yn y Senedd yma dros y misoedd diwethaf. Er ein bod ni'n wrthblaid, er bod Plaid Cymru yn wrthblaid, rŷn ni yn cyflawni ac rŷn ni yn gweithredu dros Gymru gyfan, sy'n dangos ein bod ni fel plaid yn blaid sy'n gwneud gwahaniaeth yn y lle yma, sydd yn fwy na gallwn ni ei ddweud am rai eraill.