Gwahaniaethu ar Sail Hil yn y System Cyfiawnder Troseddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 8 Mawrth 2022

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn, Llywydd. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid cyfiawnder drwy fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol yn mynd i’r afael â gwahaniaethu yn y system gyfiawnder. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cadeirio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, lle bydd y materion hyn yn cael eu trafod.