Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 8 Mawrth 2022.
Llywydd, rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna. Mae ein cynllun pontio, a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, yn parhau â'n dull sefydledig o ymdrin â'r pandemig, wedi'i lywio gan y cyngor gorau, yn canolbwyntio ar fyw yn ddiogel gyda COVID-19 a bod yn barod am fygythiadau newydd y gallai'r feirws eu hachosi eto.