Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n gobeithio bod hwn wedi bod yn ddatganiad arwyddocaol iawn, a beth dwi'n meddwl wrth hynny ydy dwi'n gobeithio mai hwn ydy'r datganiad mawr olaf sydd yn marcio dechrau y diwedd—dim ond dechrau y diwedd, wrth gwrs, nid diwedd y pandemig. Mi fydd yna droeon trwstan arall dwi'n siŵr, ond allwn ni ond gobeithio mai i'r cyfeiriad iawn y byddwn ni yn symud.
Oherwydd yr arwyddocâd yna, mae yna nifer o feysydd o gwestiynau y buaswn ni'n licio mynd ar eu holau nhw. Yn gyntaf, oes, mae gennym ni'r ddau senario—bod pethau'n aros yn gyson, neu fod pethau'n mynd yn urgent. Mae beth sy'n digwydd yn y pontio rhwng y ddau a beth ydy'r trosi yn ôl a blaen rhwng y ddau yn fater, dwi'n meddwl, y gallwn ni wneud efo rhywfaint yn rhagor o eglurhad arno fo. Yn benodol, wrth gwrs, dydi hi ddim yn dderbyniol bod y cyllid wedi cael ei dynnu gan Drysorlys Prydain, ond yn absenoldeb yr arian hwnnw, a oes yna gronfa yn barod i fynd gan Lywodraeth Cymru, easy-access, os liciwch chi, lle y byddai modd rhoi camau cefnogi yn ôl mewn lle pe baem ni'n gorfod cymryd cam yn ôl oherwydd amrywiolyn newydd? A hefyd, mae'r fframweithiau deddfwriaethol yn dod i ben mewn mater o wythnosau erbyn hyn; oes yna ddeddfwriaeth newydd fyddai angen ei hailgyflwyno, neu ei chyflwyno o'r newydd, er mwyn gallu ailgyflwyno mesurau diogelwch, mesurau rydyn ni'n gobeithio na fydd mo'u hangen, wrth gwrs?
Dwi'n meddwl fy mod i'n hapus efo'r hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog a'i thîm o ran bod profion yn mynd i barhau i fod am ddim. Er mwyn bod yn gwbl sicr o hynny, gaf i eglurhad o beth fydd yn digwydd i bobl sydd yn fregus? Mi fydd fferyllfeydd yn gwerthu profion. Gaf i sicrwydd llwyr na fydd rhaid i unrhyw un sydd angen prawf oherwydd eu bod nhw'n fregus orfod talu am brofion dan unrhyw amgylchiadau? Hefyd, un cwestiwn dwi wedi methu â chael ateb iddo fe mewn briefings gan y Gweinidog a'i swyddogion hyd yma ydy: pryd yn union gawn ni ddiffiniad o bwy fydd yn cael eu hystyried yn fregus yn y misoedd sydd i ddod? Achos dwi'n gwybod mai un o'r cwestiynau yr oeddwn i'n ei gael mwyaf rheolaidd ym misoedd cyntaf y pandemig oedd pobl yn gofyn, 'Ydw i'n fregus? Ydw i i fod ar y rhestr o bobl sy'n cael eu gwarchod?' Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am hynny.
Un ymateb dwi'n gwybod sydd o gonsérn i staff iechyd ydy awyru o fewn ystad yr NHS yng Nghymru. Rydyn ni wedi siarad llawer iawn am awyru mewn ysgolion yn benodol, ac ambell i leoliad arall, ond a gawn ni eglurhad o'r asesiad sydd wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud ar ystad yr NHS—ysbytai, ac ati—i sicrhau diogelwch staff drwy gael digon o awyru drwy'r adeiladau hynny?