Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mark. Mae hwn yn fater sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers amser maith, felly er bod systemau Cymru a Lloegr yn siarad â'i gilydd a'u bod yn gallu cofnodi a gallwn ni wybod yn union a yw pobl wedi cael brechiad cyntaf ac ail frechiad yn Lloegr, nid yw'r system erioed wedi gweithio gyda'r Alban. Ac mae'r cyfrifoldeb am hynny a'r bobl sy'n arwain ar ochr ddigidol hyn gyda Lloegr, mewn gwirionedd, felly rydym ni wedi bod yn gofyn iddyn nhw geisio cywiro'r sefyllfa ers amser maith, ond rydym ni dal yn aros i hynny ddigwydd.