Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 8 Mawrth 2022.
Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cydnabod bod gwaith, a gwaith ystyrlon yn arbennig felly, yn elfen warcheidiol o ran iechyd meddwl pobl. Nid yw'n gwarantu hynny, ond fe wn y gall gwaith diwerth fod ag effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl hefyd. Fe wn i o'm gyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth, pan welais i bobl a oedd yn gweithio mewn gweithle truenus yn cael profiadau anodd yn y gwaith a fyddai nid yn unig yn effeithio ar eu gwaith nhw, ond ar eu bywydau cyfan a'u hamgylchiadau hefyd, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw. Ac mae hynny'n arbennig o wir pan fydd pobl mewn gwaith sydd â thâl pitw hefyd. Felly, mae gwaith teg yn un o'r pum agwedd allweddol sydd gennym ni yn y cynllun.
Fe geir rhai pethau y gallwn ni eu gwneud ein hunain mewn ffordd ychydig yn fwy uniongyrchol. Felly, mae'r GIG, er enghraifft, yn gyflogwr cyflog byw, yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Rydym ni'n gwneud mwy yn y system gofal cymdeithasol o ran sicrhau bod gan bobl gyflogau parchus a gwell. Rydym ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar y bartneriaeth gymdeithasol a luniwyd gennym ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyflymwyd ac a gryfhawyd yn ystod y pandemig, i geisio sicrhau ein bod ni'n cyflawni o ran sicrhau bod Cymru yn wlad o waith teg mewn gwirionedd.
Mae ein staff ni'n cael eu talu mewn ffordd arbennig; rydym ni'n gwybod na allwn ni ddylanwadu ar bob cyflogwr yn y sector preifat. Serch hynny, mae angen i ni fod yn eglur gyda'r enghreifftiau o'r hyn yr ydym ni'n barod i'w wobrwyo a'i argymell a dweud, 'Fel hyn y dylai hi fod.' Rwyf i wedi gweld rhagor yn hynny o beth yn y ffordd y mae'r Contract Economaidd yn gweithio ac yn cael ei gryfhau. Felly, rwy'n disgwyl bod â mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl yn y sector preifat lle gwneir y rhan fwyaf o ddewisiadau o ran cyflogau, wrth gwrs. Ac ar yr un pryd, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud mwy ym maes caffael, ac mae hwnnw'n fater y mae'r Gweinidog cyllid yn arwain arno ac mae gan Weinidogion ar draws y Llywodraeth ddiddordeb gwirioneddol yn hynny. Felly, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod, nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yn fwy cyffredinol yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ein bod ni wedi gwir ymrwymo i hynny, yn ogystal ag i ymyriadau unigol fel Cymru Iach ar Waith ac Amser i Newid Cymru, y mae fy adran i'n ei ariannu ar y cyd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fel y Gweinidog arweiniol.
O ran y sylwadau a wnaethoch chi am ryfel Putin a'r ymosodiad ar Wcráin, rwy'n llwyr gydnabod y ceir heriau o ran prisiau cynyddol y bydd y rhyfel yn eu gwaethygu. Roedd yr argyfwng costau byw gyda ni eisoes cyn yr ymosodiad ar Wcráin. Fe waethygir y sefyllfa oherwydd fe fydd yna lai o gyflenwad olew a nwy o Rwsia. Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu derbyn yw, os ydym ni o'r farn ei bod hi'n anghyfiawn i ni brynu olew a nwy oddi wrth Rwsia ac i hynny helpu i ariannu'r rhyfel hwnnw, yna fe fydd hynny'n golygu y bydd yna heriau o ran y cyflenwad ynni yn y wlad hon hefyd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r pwynt am ddiogelwch ynni a'n gallu ni i gynhyrchu mwy o'n hynni ein hunain a bod yn llai dibynnol ar gyflenwad o olew a nwy o rannau eraill o'r byd. Dyma un o'r pethau yr oedd Gweinidogion eisoes, hyd yn oed cyn yr argyfwng ofnadwy yn Wcráin, yn eglur iawn yn ei gylch ac yn awyddus i wneud yn fawr o'n hasedau ni ein hunain.
O fewn hynny, fe geir heriau, wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac yn y seilwaith sydd ei angen arnom ni. Fe wyddom ni ein bod ni eisoes yn y sefyllfa o fod â dros hanner ein hanghenion ni o ran ynni, rwy'n credu, yn cael eu darparu o ffynonellau adnewyddadwy yn rheolaidd. Yr her wedyn yw faint yn fwy y gallwn ni ei wneud, faint yn fwy dibynadwy y bydd angen i hwnnw fod, sut y gallwn ni gael buddsoddiad gan y sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus y bydd ei angen i fanteisio ymhellach ar ynni gwynt, ynni morol, ac ynni'r llanw hefyd, ac yna'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny. Mae honno'n sgwrs gylchol i ryw raddau oherwydd mae angen i ni ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd gyda buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiannau hynny a gaiff eu creu pan fydd rowndiau newydd yn cael eu gwerthu ar ocsiwn gan Ystâd y Goron o ran gwynt ar y môr. Sut ydym ni am sicrhau wedyn ein bod ni'n deall yr hyn y bydd y cwmnïau hynny'n ei wneud a phryd y gallwn ni fuddsoddi yn ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod y cyflenwad sgiliau ar gael i bobl?
Un enghraifft o hynny'n mynd o'i le, wrth gwrs, yw Wylfa Newydd, y prosiect a oedd gan Hitachi. Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn llawer o sgiliau, ac fe fyddai'r hyn yr oeddem ni'n ei wneud yno wedi gwneud synnwyr pe byddai'r prosiect wedi cael ei wireddu. Pan na ddigwyddodd hynny, roeddem ni i bob pwrpas wedi dod â chymuned o bobl gyda ni ar daith na ddaeth i'w diwedd bryd hynny. Eto i gyd, mae hynny'n dangos, yn fy marn i, lle ceir rhywfaint o sicrwydd gennym ni ynglŷn â'r dewisiadau mawr iawn hynny o ran buddsoddiad, fe allwn ni sicrhau bod yr ysgogiadau sydd gennym ni ar gael i helpu pobl at yr hyn a ddylai fod yn waith da i'r dyfodol. Rydym ni eisoes yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw gan ein bod ni'n gwybod y bydd angen i ni wneud mwy hyd yn oed i gyflymu'r broses o bontio at economi ddi-garbon, ac yn arbennig sut y cawn ni fwyaf o fudd yn sgil y ffynonellau o ynni adnewyddadwy.
Rwyf i am orffen gyda'ch pwyntiau chi ynglŷn â menywod a'r bwlch cyflog. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn yn fy oes waith i weithio gyda nifer o fenywod, a chael fy arwain a fy rheoli gan fenywod yn y gweithle, ac mae gennyf i lawer o falchder yn fy ngwraig sy'n fenyw o gyflawniad gwirioneddol yn ei busnes hi. Mae hi'n arweinydd a rheolwr llawer gwell yn y gweithle nag yr oeddwn i erioed. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddom ni fod gennym ni anghydraddoldebau sylweddol o hyd o ran rhyw, nid yn unig o ran arian, ond yn y ffordd yr ymgymerir â swyddi arweiniol a'r diwylliant ymysg gweithluoedd ac mewn gweithleoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn hybu cyfleoedd i fenywod a merched chwilio am yrfaoedd mewn meysydd lle nad ydyn nhw wedi gweithio yn y gorffennol, mewn adeiladu, neu feysydd STEM neu, yn wir, mewn technoleg ac mewn technoleg ariannol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i dramor yn ddiweddar ac wrth edrych ar rywfaint o'r ymgyrchu a wnawn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ynghylch Expo y Byd yn Dubai, roeddwn i'n falch iawn o weld menywod Cymru yn ffigurau blaenllaw mewn technoleg ariannol, yn rhedeg y cwmnïau hynny ac yn rhoi cynnig ar ddangos eu bod nhw'n gwneud rhywbeth nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond er mwyn y sector cyfan lle gellid ac y dylid cydnabod eu sgiliau nhw. Rwyf i o'r farn y byddwn ni'n gweld mwy o hynny yn y dyfodol, i bawb sylweddoli y gallwch chi fod fel unrhyw un llwyddiannus a welwch chi, ac mae'r Llywodraeth ar eich ochr chi i wneud yn siŵr y byddwch chi'n cael yr hyn yr ydych chi'n ei haeddu, yn union yr un fath â'r unigolyn agosaf atoch chi, yn wryw neu'n fenyw.