4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 3:40, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae llawer i'w groesawu yn hyn, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Fe geir cysylltiad cryf rhwng ennill cyflogaeth o ansawdd uchel ac iechyd meddwl: mae 43 y cant o bobl ddi-waith yn dweud eu bod nhw'n cael problemau ag iechyd meddwl, o'i gymharu â 27 y cant o bobl mewn cyflogaeth. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi bod colli gwaith, a ddigwyddodd yn fynych yng Nghymru dros gyfnod y pandemig, yn brofiad dirdynnol ym mywyd rhywun ac yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar ei iechyd meddyliol. At hynny, fe achosir rhagor o niwed pan fydd diweithdra yn para i'r hirdymor.

Gweithwyr ar gyflogau isel oedd y rhai mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu golli eu swyddi, ac mae'r grwpiau a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o ddyled broblemus cyn y pandemig mewn mwy fyth o berygl erbyn hyn. Fe ddylai mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ariannol hyn ar y pen hwn i'r pandemig fod ar flaen ein hagenda wleidyddol ni. Er hynny, nid yw ennill cyflogaeth yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i ni warantu bod y gyflogaeth honno'n deg ac yn gyfiawn. Erbyn hyn, mae hanner y bobl sydd mewn tlodi yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio. Mae pobl yn cael eu cadw mewn tlodi gan gyflogau isel, contractau dim oriau ac ansicrwydd o ran swyddi. Mae hyrwyddo gwaith teg yn ardderchog, ond fe hoffwn i'r Gweinidog fanylu ryw ychydig ac amlinellu sut y caiff gwaith teg ei warantu, gan gynnwys diogelwch swyddi, a chyfle i gael addysg a hyfforddiant ac ymgynghori â staff a'u cynrychioli. Sut yn union y caiff y rhain eu gwarantu?

O ran yr economi werdd, nid yw mewnforion olew a nwy o Rwsia wedi'u cynnwys yn llawn ar hyn o bryd yn sancsiynau economaidd y DU yn erbyn Rwsia, oherwydd pryder effaith hynny ar economi'r DU, yn arbennig felly gan ein bod ni eisoes yn gweld argyfwng costau byw a ysgogwyd i raddau helaeth gan gostau ynni cynyddol. Mae rhai adroddiadau yn awgrymu y bydd hyn yn newid heddiw, ond mae effaith ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil o Rwsia yn aruthrol. Mae Shell yn cyfrif bod yr allforion presennol a phrisiau llif i ddemocratiaethau gorllewinol yn helpu i ariannu tanc T-90 i Rwsia bob 20 munud. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithwraig Liz Saville-Roberts AS wedi bod yn ei godi yn rhinwedd ei swydd yn San Steffan, ac mae hwn yn bwnc y mae Adam Price wedi siarad amdano eisoes, ac, i ailadrodd ei eiriau ef,

'na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru...tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin'.  

Ond mae'r trafodaethau hyn wedi codi cwestiynau am ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil, a hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ehangu ein heconomi carbon isel adnewyddadwy ni, a fydd, gobeithio, â rhan yn y gwaith o wneud felly. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar unwaith ac yn barhaus ym maes technolegau'r dyfodol yma yng Nghymru, a chreu swyddi gwyrdd drwy bontio sy'n gwneud cyfiawnder. Mae'r bwlch sgiliau yng Nghymru yn un o'r rhwystrau sy'n ein hatal ni rhag symud ar y gyfradd gyflymach hon oddi wrth danwydd ffosil, mater y mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi tynnu sylw ato, mater y gwn i fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Yn benodol, sut ydym ni am lenwi'r bylchau hyn o ran sgiliau? Sut y caiff y bylchau hyn eu llenwi ar frys i ni allu ehangu ein heconomi adnewyddadwy, carbon isel ni'n sylweddol?

Ac, yn olaf, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, ac mae menywod yn parhau i wynebu rhwystrau economaidd. Mae ein system economaidd ni, ein strwythurau ni a'n polisïau ni'n parhau i ail-lunio ac atgynhyrchu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r data diweddaraf gan Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gwaethygu yn ystod 2021. Fe gynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Fe gynyddodd cyflog canolrifol fesul awr menywod gan 34c rhwng 2020 a 2021, yn is na'r cyfartaledd o 42c, tra bod dynion wedi cynyddu gan 49c. Ac mae hwn yn bwynt yr wyf i wedi tynnu sylw ato o'r blaen yn y Siambr hon, ond mae angen ei ailadrodd: o 2021 ymlaen, mae dynion yn ennill mwy na menywod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Fe ddylai'r ffigurau hyn dynnu ein sylw ni at y ffaith nad yw'r cynnydd tuag at ddiddymu anghydraddoldeb incwm yn gyson, yn sicr nac yn gyflym, ac mae'n rhaid i ni, felly, sicrhau ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i farn ac anghenion menywod mewn cynlluniau fel rhain. Rwy'n pryderu, wrth i ni symud tuag at economi werdd, y gallai'r ffigurau hyn barhau i waethygu, gan ei bod hi'n hysbys fod y bylchau mwyaf rhwng y rhywiau yn digwydd mewn amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu a thrafnidiaeth—meysydd a fydd yn allweddol ar gyfer pontio gwyrdd, lle bydd y swyddi a'r sgiliau newydd yn ymgasglu. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw menywod yn cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd.

Felly, yn olaf, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: sut mae'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd sylweddol? Sut ydym ni am annog menywod yng Nghymru i ddilyn addysg pynciau STEM? Sut ydym ni am warantu cyflogaeth deg a gwyrdd i fenywod? A sut ydym ni am sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd? Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hynny, a wnaiff y Gweinidog ystyried ehangu'r cynllun hwn i gynnwys ychwanegiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd mewn cyflogaeth a hyfforddiant, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?