Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 8 Mawrth 2022.
Heddiw rydym ni’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae heddiw'n gyfle i dalu teyrnged i'r menywod a ddaeth o’n blaenau a'r menywod sy'n sefyll ar ysgwyddau'r cewri hyn, gan barhau â'r frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol—menywod gan gynnwys y ddynes aruthrol, Betty Campbell MBE, pennaeth du cyntaf Cymru, cyd-grëwr Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddwr amlddiwylliannaeth yng Nghymru. Rwy’n gwybod eich bod chi i gyd yn rhannu fy malchder bod Caerdydd bellach yn gartref i gerflun Betty Campbell, sy'n deyrnged addas i'w gwaddol. Diolch i waith Monumental Welsh Women, bydd gan Aberpennar gofeb wedi'i neilltuo ar gyfer y ddynes eithriadol, Elaine Morgan cyn bo hir hefyd.
Wrth i ni fyfyrio ar gyfraniad menywod yng Nghymru, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, ystyried effaith pandemig COVID-19. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r niwed ar raddfa eang a achosodd i'n hiechyd a'n lles cymdeithasol ac economaidd, ac mae menywod wedi bod yn ganolog i hyn. Yn fyd-eang, mae menywod wedi arwain yr ymateb iechyd i COVID-19, gan gyfrif am bron i 70 y cant o'r gweithlu gofal iechyd. Ac ar yr un pryd, mae menywod wedi ysgwyddo llawer o'r baich gartref, gan wneud hyd at 10 gwaith yn fwy o waith gofal na dynion. Mae menywod hefyd wedi wynebu risg uchel o golli swyddi ac incwm, a mwy o risg o drais a cham-drin. Mae'r pandemig wedi datgelu dibyniaeth cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod, fel gofalwyr di-dâl ac fel gweithwyr ym maes gofal, gwaith cymdeithasol a lletygarwch. Ond mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ragoriaeth cyfraniad menywod i'r ymateb gwyddonol a chlinigol. Wrth i ni symud allan o'r argyfwng hwn ac i mewn i argyfwng arall o ran costau byw, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhoi gwerth llawer cryfach i'r gwaith hwn, sy'n ganolog i'n heconomi a'n cymunedau. Mae ein cynllun 'Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru' yn darparu'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn y dirwedd i fenywod yng Nghymru, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn rhoi blaenoriaeth i weithredu agweddau allweddol ar y cynllun hwn.
Byddwn yn ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant ac sydd ar fin mynd mewn i waith, ac mae'r cynnig gofal plant yn rhoi mwy o ddewis i rieni, yn enwedig menywod, a mwy o allu i gael teulu a gyrfa. Mae hyn yn cael ei gryfhau yn ein cytundeb cydweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u rhyw, eu cefndir na'u hamgylchiadau. Ddirprwy Lywydd, bydd uned tystiolaeth cydraddoldeb yn cael ei rhoi ar waith o fewn Llywodraeth Cymru eleni, ochr yn ochr ag unedau tystiolaeth gwahaniaethau ar sail hil ac anabledd. A gyda'i gilydd, bydd y rhain yn gwella data ar grwpiau heb eu gwasanaethu'n ddigonol a grwpiau dan anfantais, yn ogystal ag ystyried tystiolaeth o safbwynt croestoriadol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed ynglŷn â'i huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, gan adeiladu ar ein deddfwriaeth arloesol. Byddwn yn cryfhau ein pwyslais strategol ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ein cynigion, ac rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi ein strategaeth derfynol yn gynnar yn nhymor yr haf. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn dangos pwysigrwydd dull croestoriadol o ymdrin â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Wrth i ni herio anghydraddoldeb systemig, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod yn herio hyn ar gyfer pob menyw, ac mae'n rhaid i ni gydnabod a deall bod canlyniadau cyfartal yn gofyn am ddulliau gwahanol a sensitif.
Un o themâu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw chwalu'r rhagfarn. Ddeng mlynedd ar hugain ers lansio Chwarae Teg, mae'n ein hatgoffa'n amserol o'n cyfrifoldeb ar y cyd i herio ystrydebau rhywedd a'r rhagfarn fwriadol neu anymwybodol sy'n effeithio ar fenywod yma a ledled y byd. Ni ellir gadael unrhyw fenyw ar ôl. Byddwn yn gweithio gyda menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod anabl, menywod lesbiaidd, deurywiol a thraws, menywod mewn tlodi, menywod hŷn, merched ac eraill i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddwn yn gwneud hyn gyda rhanddeiliaid arbenigol, gan gynnwys Women Connect First, RhDEM Cymru, BAWSO a llawer o rai eraill, i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan adeiladu ar berthnasoedd ac ymddiriedaeth, a ddatblygwyd dros ddegawdau.
Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y Senedd hon yn gartref i grŵp cynyddol o fenywod amrywiol, i weithio er budd pawb. Mae'r un peth yn wir am bob cyngor a phob bwrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o ariannu cynllun mentora Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn rhannol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfleoedd i gymunedau amrywiol ledled Cymru archwilio swyddogaethau arwain mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r cynllun eisoes yn cyflawni—mae mentoreion wedi dod yn ASau, cynghorwyr a phenodiadau cyhoeddus allweddol. Rwy’n gobeithio, un diwrnod yn fuan, y byddwn yn eistedd ochr yn ochr â graddedigion y rhaglen.
Ni fydd un syniad ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb. Mae angen newid diwylliannol systemig ac mae'n rhaid cael cyfrifoldeb ar y cyd o ran sut yr ydym yn ailfeddwl ein cymdeithas a sut yr ydym yn ailosod ein huchelgeisiau ar gyfer cyfle a chanlyniad cyfartal. Byddwn yn ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein prosesau gwneud penderfyniadau i ysgogi newid diwylliannol o ran cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd, ac, wrth wneud hynny, byddwn yn cydnabod yr heriau posibl i fenywod wrth i ni ymdopi ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Drwy ein cynllun treialu i brif ffrydio cydraddoldeb, byddwn yn sicrhau bod dyfodol di-garbon yn cynnwys ac yn gwerthfawrogi menywod ac yn darparu cyfleoedd newydd ac arloesol ar gyfer sgiliau, addysg a gwaith, gan sicrhau trosglwyddo cyfiawn i economi werdd. Mae'n hanfodol bod pob un—partneriaid, gweithredwyr a gwleidyddion—yn barod i weithio mewn partneriaeth, i droi'r drol a gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon a chyflym i gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld, sef Cymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Fe wnes i ddechrau fy natganiad heddiw drwy gydnabod arloeswyr cydraddoldeb yng Nghymru, a hoffwn i orffen drwy dalu teyrnged i fenywod Wcráin, sydd, ynghyd â’u teuluoedd, yn ein meddyliau ni i gyd heddiw. Hoffwn pe gallai fy ngeiriau ddadwneud yr arswyd maen nhw’n byw drwyddo. Rwyf yn rhyfeddu'n llwyr at eu cryfder, fel yr ydym ni i gyd heddiw rwy'n siŵr, a'u cadernid, ac rydym yn anfon ein hundod â nhw atyn nhw yn ystod y dyddiau ofnadwy hyn. Diolch.