Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 8 Mawrth 2022.
Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe wnes i werthfawrogi'n fawr bopeth y gwnaethoch ei ddweud. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod cyflawniadau'r gorffennol, rwy’n cytuno 100 y cant â chi pan wnaethoch chi ddweud hynny, ac mae edrych ar heriau'r dyfodol hefyd yn hanfodol i bob un ohonom ni.
A minnau'n Gymraes falch, rwy'n falch iawn o fod yn eistedd ymhlith cynifer o fenywod gweithgar ac ymroddedig yn y Senedd hon yma yng Nghymru yn wythnosol. Yn gymaint ag y mae heddiw'n ymwneud â dathlu, mae hefyd yn amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yng Nghymru a chymryd camau i greu cenedl decach a mwy cyfiawn. Rydym yn gwneud hyn ar ôl gorfod ymateb ac addasu i heriau'r pandemig. Mae menywod wedi bod ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, boed hynny fel gweithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd, y menywod sy'n ein gwasanaethu yn ein harchfarchnadoedd, neu yn wir y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal, ac rwy'n falch o ddweud bod menywod wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y brechlynnau sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein bywydau wrth i ni ddychwelyd yn ôl i normal.
Un o ganlyniadau'r pandemig hwn yw bod cyflogwyr wedi dod yn ymwybodol o fanteision gweithio'n fwy hyblyg, sy'n sicr yn rhywbeth cadarnhaol. Mae cyfran y menywod sy'n gweithio'n rhan-amser wedi gostwng tua 3 y cant o ganlyniad i weithio mwy hyblyg a gwell darpariaeth gofal plant. Fodd bynnag, mae'n destun pryder bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Yn anffodus, nid dyma'r stori lawn. Mae gwahaniaethau rhanbarthol yn golygu y gall y bwlch fod mor isel ag 1.9 y cant yng Nghonwy ond mor uchel â 25 y cant yn Nhorfaen. A gaf i ofyn, Gweinidog, sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch cyflog cynyddol rhwng y rhywiau sy'n bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae gormod o fenywod yn parhau i fod wedi eu crynhoi mewn galwedigaethau â chyflog is. Mae'n rhaid i ni dorri'r canfyddiad bod rhai gyrfaoedd ar gyfer bechgyn ac eraill ar gyfer merched. Pa gamau sy'n cael eu cymryd, Gweinidog, i godi dyheadau menywod a merched ifanc i sicrhau bod mwy yn astudio mathemateg, peirianneg, technoleg a gwyddoniaeth, i godi eu lefelau cyflog posibl a darparu darganfyddwyr brechlynnau’r dyfodol yma yng Nghymru?
Ni fydd byth cydraddoldeb llwyr nes bydd menywod eu hunain yn helpu i wneud y cyfreithiau, ac rwy’n gwybod eich bod chi’n gweithio'n ddiflino i gyflawni hynny a gwneud hynny, ond yn wir mae angen i ni weld mwy. Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda dim ond 29 y cant o gynghorwyr lleol yn fenywod ac mae menywod yn ffurfio llai na hanner y penodiadau cyhoeddus yn 2020. Mae angen gwneud mwy nid yn unig i dorri, ond i chwalu'r nenfwd gwydr hwn. Rwy’n gofyn i chi, Gweinidog, beth arall y gellir ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Mae achosion proffil uchel diweddar hefyd wedi tynnu sylw unwaith eto at y materion trais, cam-drin ac aflonyddu y mae gormod o fenywod yn eu hwynebu yma yn 2022. Mae achosion o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod ar gynnydd, wedi eu gwaethygu gan straen y cyfnod clo. Mae angen dewrder mawr i ddod ymlaen ac adrodd am achosion o gam-drin domestig, ac rwy’n cymeradwyo’r holl fenywod hynny sy'n codi llais dros yr achosion hynny ac sy'n gweithio yn y maes hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyrff cyhoeddus a phreifat yn adnabod arwyddion cam-drin o'r fath ar y dioddefwyr a'u plant fel y gellir cymryd camau priodol. Mae camfanteisio ar fenywod drwy fasnachu pobl, caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod ac anffurfio organau rhywiol menywod yn cael ei gydnabod yn ehangach yn awr nag erioed o'r blaen, sy'n sicr yn gynnydd. Rwy'n eich annog chi, Gweinidog, i ymdrechu’n arbennig o galed a gwneud popeth o fewn eich gallu i ddileu'r cam-drin gwarthus ac anghyfreithlon hyn sy'n digwydd heddiw.
I gloi, ni all menywod sicrhau cydraddoldeb heb fod cyfle’n cael ei greu. Ni all fod yn iawn i botensial hanner ein poblogaeth gael ei fygu a'i atal. Os ydym ni am lwyddo i greu Cymru fwy cyfartal a chyfiawn, yna ni all Diwrnod Rhyngwladol y Menywod fod am un diwrnod yn unig. Mae'n rhaid iddo lywio ein gweithredoedd, bob dydd, er mwyn sicrhau hawliau cyfartal pob menyw a merch ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.