5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:45, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Mae mor bwysig ein bod ni'n edrych ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod ac nid dim ond o ran cyflyrau penodol yng nghylch oes menywod, megis yr hyn rydyn ni eisoes newydd wneud sylwadau arno—endometriosis a'r menopos. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i roi datganiad ar urddas mislif, ac mae lles mislifol bellach yn y cwricwlwm, ond rhaid i ni edrych ar yr effeithiau eraill o ran triniaeth deg i fenywod ar draws yr holl gyflyrau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n werthfawr iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at glefyd y galon a'r risg mae menywod yn ei wynebu, ac yn amlwg, mae'n rhywbeth sydd wedi'i ddwyn i'n sylw'n glir iawn gan yr elusennau hynny a'r cyrff ymgyrchu hynny sy'n cydnabod hyn fel mater allweddol i fenywod. Felly, diolch i chi am hynny. Rydw i'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac, yn wir, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi nodi hyn heddiw a byddwn yn myfyrio arno o ran y cynllun iechyd menywod.