5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 8 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:48, 8 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Rwy’n gwybod fod Elaine Morgan yn falch iawn ohonoch chi hefyd, a byddai wedi bod yn falch iawn eich bod chi’n Aelod o'r Senedd dros Gwm Cynon. Roedd hi’n fenyw ysbrydoledig, arloesol ac roeddwn i’n falch iawn o'i chyfarfod droeon, a bydd llawer ohonoch chi wedi gweld y llyfr a gyhoeddwyd y llynedd am ei bywyd—talent a gallu eithriadol, ac eto'n fenyw a arhosodd yn breswylydd ac yn ddinesydd yng nghwm Cynon tan y diwrnod y bu farw.

Felly, rwy’n credu bod cerflun Betty Campbell yn arwyddocaol iawn. Y rheini ohonom ni oedd yno i ddadorchuddio'r cerflun anhygoel hwn, ac fe wnaethom ni roi arian i mewn iddo, mewn gwirionedd,  Llywodraeth Cymru, a chodwyd llawer o arian ar draws unigolion yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus—. Ond mae mor arwyddocaol o ran y gwaddol a adawodd o ran sicrhau bod gennym ni hanes du yn y cwricwlwm erbyn hyn, wedi'i orfodi'n statudol, gan sicrhau ei fod yn y cwricwlwm. Dyna beth oedd hi ei eisiau a byddai hi wedi bod mor falch, fel y dywedodd ei merched a'i hwyresau ar y diwrnod. Ond hefyd, mae hwnnw’n lle i ymweld ag ef; ychydig fel cerflun Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines, nawr mae cerflun Betty Campbell yn lle i blant, ysgolion a phobl ifanc ymweld ag ef. Yn wir, mae'r ysgol wnaeth ganu yn yr agoriad, o ychydig ar hyd y ffordd yma yn Nhre-Biwt, yn dweud eu bod mor falch o'r ffaith eu bod yno ac wedi helpu i ddadorchuddio. Rhaid iddo fod yn rhan o'r cwricwlwm, nid yn unig o ran bod hanes pobl ddu yn rhan o'r cwricwlwm nawr, ond hefyd yr agwedd rhywedd ar hyn o ran yr holl fenywod sy'n mynd i fod yn awr—. Bydd y cerfluniau'n parhau i ddod i'r amlwg o ran ymgyrch Monumental Welsh Women. A bydd yn cael ei gynnwys ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Ond rwy'n credu, o ran cydraddoldeb, rwy'n credu mai dyna lle y bydd y cwricwlwm newydd o ran y cyfleoedd i bobl ifanc sy'n wybodus yn foesegol yn dod drwodd.

Ond hefyd, rydych chi'n llygad eich lle: dim ond i ymateb i'ch materion am fenywod yn y pandemig, ac yn enwedig y gweithwyr allweddol. Rydw i wedi crybwyll, yn fy natganiad, fod tua 70 y cant o'r gweithlu gofal iechyd yn y rheng flaen yn fenywod; yr un peth mewn gofal cymdeithasol hefyd. Ond, mewn gwirionedd, rhaid i ni beidio ag anghofio ein gweithwyr manwerthu, y gweithwyr allweddol ar y rheng flaen. Ac, i gydnabod hefyd mai'r gweithwyr allweddol yw'r rhai sydd yn aml hefyd yn llywio mwy nag un swydd, mewn sectorau â chyflogau is. A byddwn, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, yn gweithio gyda'r undebau llafur a chyflogwyr, yn cydnabod rôl a phwysigrwydd gweithwyr allweddol. Maen nhw hefyd ar y rheng flaen o ran risg hefyd. A diogelwch, wrth i ni symud yn ein cynllun pontio, rhaid i ni—. Bydd pobl, Aelodau'r Senedd, wedi gweld ein cynllun pontio, a gyhoeddwyd ddydd Gwener. Mae adrannau clir iawn ar gydraddoldeb yn y cynllun hwnnw o ran yr effeithiau ar fenywod a phawb sydd â nodweddion gwarchodedig.

Ond diolch, Vikki Howells, am dynnu sylw nid yn unig at Elaine Morgan—a byddwn yn dathlu'r cerflun hwnnw yr wythnos nesaf, pan fydd yn cael ei ddadorchuddio—ond hefyd bwysigrwydd y gweithwyr allweddol, y menywod sydd yn y rheng flaen o ran y sector manwerthu hefyd.