9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:28, 9 Mawrth 2022

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i weld yr elfen drawsbleidiol yn y ddadl yma, a nifer o Geidwadwyr wedi penderfynu cymryd rhan. Efallai mai'r teitl 'take back control' oedd wedi denu ambell un ohonyn nhw i ymuno. Ddirprwy Lywydd, dwi'n rhoi munud o fy amser i i Peredur Owen Griffiths, Mabon ap Gwynfor, Carolyn Thomas, Joel James, y ddau Samuel—Kurtz a Rowlands—a Tom Giffard. Dyna un ffordd, Ddirprwy Lywydd, i gael fi i siarad yn llai yw cael munud o fy amser i. [Chwerthin.]

Pwysleisiodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig mai Cymru sydd â'r hawliau tir a chymunedol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae cymunedau lleol yn wynebu brwydrau anodd yn eu hymdrechion i brynu asedau lleol er mwyn eu cymunedau, i wasanaethu eu cymunedau, boed yn dafarndai, yn eglwysi neu gapeli, neu goedwigoedd a mannau gwyrdd.