9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:30, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae pobl am fyw mewn cymunedau sy'n unigryw, sy'n bersonol, nid rhyw gopi carbon o bob tref a phentref arall. Nid yw pobl eisiau byw, ac nid ydynt am ymweld â threfi sy'n union yr un fath â'i gilydd ac nad ydynt yn cynnig unrhyw beth cyffrous, personol na deinamig. Pa waith, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i symleiddio'r broses o brynu asedau cymunedol a pha bryd y gwelwn y Senedd yn codeiddio hawliau cymunedau ar eu hasedau lleol? Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno Bil ymrymuso'r gymuned, fel yr awgrymwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig? Byddai Bil o'r fath yn creu cofrestr o asedau cymunedol, ac yn rhoi hawl gyntaf statudol i gymunedau wrthod yr asedau hyn pan gânt eu cyflwyno i'w gwerthu. A fyddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa asedau cymunedol yn seiliedig ar gronfa tir lwyddiannus yr Alban sy'n dosbarthu rhwng £5,000 ac £1 filiwn i ddechrau mynd i'r afael â'r mater?

Yng Nghaerdydd, clywn yn aml am gyfleusterau sydd dan fygythiad, bron bob wythnos: tafarn Roath Park ar Heol y Ddinas; hen Gapel Bethel yn Nhreforgan; Canolfan gymunedol Treganna; felodrom Maendy—meddyliwch am felodrom Maendy am funud—yr unig gyfleuster chwaraeon sy'n dal i sefyll yn y ddinas ers ymweliad Gemau'r Gymanwlad yn 1958. Yn y felodrom hwnnw y dechreuodd Geraint Thomas hyfforddi, y dechreuodd Colin Jackson hyfforddi, y dechreuodd Nicole Cooke hyfforddi, ac eto rydym am gael gwared ar y lleoliad chwaraeon hanesyddol hwn.