Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 9 Mawrth 2022.
Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Weinidog, mae’r gymuned ryngwladol wedi dod at ei gilydd, yn gwbl briodol, i osod sancsiynau eang ar Putin a’i gyfeillion. Wrth gwrs, mae’r rhain yn gwbl angenrheidiol, ac mae’r rhain yn debygol o gael eu cynyddu. Fodd bynnag, bydd pawb yn teimlo effaith y sancsiynau hyn—o deuluoedd sy’n gweithio’n galed i fusnesau bach a mawr, ac yn wir, ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y sancsiynau a’r rhyfel ar economi Cymru a theuluoedd ledled Cymru? Er enghraifft, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag effaith cynnydd sylweddol ym mhris tanwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? Ac yn olaf, Weinidog, efallai y bydd y rhyfel yn effeithio ar gost ac argaeledd nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar gaffael cyhoeddus?